Yn dilyn eu colled yn erbyn Iwerddon wythnos ynghynt, llwyddodd Tîm o dan 19 Cymru i guro’r Eidal yn gyfforddus o 60-7 ar Y Wern.
‘Roedd y fuddugoliaeth wedi ei sicrhau erbyn yr egwyl i bob pwrpas gan bod gan garfan Richard Whiffin fantais sylweddol o 38-7.
Fe sgoriodd y blaen-asgellwr bywiog Caio James dri chais yn ystod y prynhawn ac ‘roedd y prop Jac Pritchard, yr asgellwr Dylan Scott, Osian Darwin-Lewis a Ryan Jones wedi tirio cyn troi hefyd.
‘Roedd cais unigol Jones yn hynod gofiadwy wrth iddo guro amddiffyn yr Eidalwyr a derbyn cymeradwyaeth y dorf ym Merthyr wedi iddo dirio.
Hawliodd James ei drydydd cais wedi’r egwyl ac fe diriodd Scott ei ail yn fuan wedyn hefyd. Yr eilydd o fachwr James Talami sgoriodd 10fed cais y Cymry ifanc a chiciau cywir Math Jones a Steff Jac Jones gododd gyfanswn y tîm cartref i drigain o bwyntiau.
Cafodd y ddau glo – Luke Evans a Tom Cottle gemau amlwg a chorfforol. Yn wir, fe gafodd wyth blaen y Cymry’r gorau ar eu gwrthwynebwyr trwy gydol y gêm. Fe osododd hynny lwyfan gadarn i faswr yr Harlequins, Math Jones reoli llif y chware’n hynod effeithiol.
Wedi’r gêm, fe ddywedodd Prif Hyfforddwr Tîm o dan 19 Cymru, Richard Whiffin: “Fe herion ni’r bois i godi safon eu perfformiadau unigol yr wythnos hon a does dim amheuaeth i ni chwarae’n well heddiw na wnaethon ni’n erbyn Iwerddon.
“Roedd y bechgyn yn glinigol iawn heddiw ac ‘rwy’n credu eu bod wedi sylweddoli bod manylder ein paratoadau yn cael gwir effaith yn ystod gemau.
“Mae’n rhaid i mi ganmol ein chwarae gosod ac fe roddodd hynny sylfaen gadarn a hyder i’n holwyr allu dod o hyd i fylchau yn amddiffyn Yr Eidal.”
Gyda Phencampwriaeth o Dan y Byd ar y gorwel yr haf yma, fe lwyddodd nifer o chwaraewyr i greu argraff ar y Prif Hyfforddwr – wrth iddo ystyried ei garfan derfynol ar gyfer y gystadleuaeth.
Ychwanegodd Richard Whiffin: “Roedd Luke Evans a Tom Cottle yn ardderchog heddiw – fel yr oedden nhw’n erbyn Iwerddon hefyd – ac felly does dim amheuaeth y byddaf yn eu hystyried ar gyfer Cwpan y Byd.”
“Roedd Osian Darwin-Lewis a Lewis Edwards hefyd yn gampus yng nghanol cae unwaith eto ac yn ystod y ddwy gêm ddiwethaf yma, ‘ry’n ni wedi gallu rhoi’r cyfle i 28-29 o chwaraewyr i gynrychioli eu gwlad ar y lefel hon.
“Mae rhai o’r bois eisoes wedi cael rhywfaint o brofiad gyda’r garfan o dan 20 – ac mae nifer o’r garfan yn newydd i’r llwyfan o dan 19. Mae un peth yn sicr – ‘ry’n ni’n adeiladu dyfnder ar gyfer y timau iau rhyngwladol.”
Bydd Pencampwriaeth o Dan 20 y Byd yn digwydd yn Yr Eidal dros yr haf. Bydd Cymru yng Ngrŵp B – ynghŷd â Ffrainc, Ariannin a Sbaen.