Mae Taulupe Faletau wrth ei fodd bod yn ôl yn ei chanol hi dros ei glwb a’i wlad.
Mae hynny’n amlwg yn newyddion da i Gaerdydd ac i Gymru ond ddim yn newyddion cystal i’w gwrthwynebwyr.
Pan fo’r wythwr – sydd wedi cynrychioli ei wlad 106 o weithiau hyd yma – yn dechrau mwynhau ei hun ar y maes – mae hynny’n heintus i ba bynnag dîm y mae’n ei gynrychioli.
‘Roedd hynny’n bendant yn wir yng nghyd-destun Cymru’n erbyn Iwerddon bythefnos yn ôl gan iddo gario’n effeithiol 15 gwaith. Yn erbyn Yr Eidal yn y gêm flaenorol, ef oedd y taclwr a’r cludwr mwyaf amlwg mewn crys coch – gan iddo ennill 56 metr o dir ar y diwrnod.
Mae Faletau sydd bellach yn 34 oed – wedi ennill dros 100 o gapiau dros ei wlad ac wedi ymddangos mewn pum gêm brawf dros y Llewod. Heb amheuaeth mae’n wir arwr yn hanes rygbi Cymru.
Mae wedi chwarae’r mwyafrif o’i rygbi rhyngwladol yng nghwmni Dan Lydiate a Sam Warburton – tipyn o drindod yn y rheng ôl. Fe gynrychiolon nhw Gymru 30 o weithiau gyda’i gilydd ac mewn un prawf dros y Llewod hefyd.
Mae Taulupe Faletau bellach yn mwynhau cyd-chwarae gyda Tommy Reffell, Aaron Wainwright, James Botham a Jac Morgan.
Dywedodd Faletau: “Er fy mod wedi fy anafu’n eithaf aml yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wnes i erioed ystyried rhoi’r gorau iddi. Canolbwyntio ar wella o fy anaf oedd fy unig ffocws.
“Wedi dweud hynny, mae’r ffaith bod cymaint o’r bechgyn yr wyf wedi chwarae gyda nhw dros y blynyddoedd wedi ymddeol bellach yn gwneud i mi ystyried fy sefyllfa’n gyson – ond ‘dwi’n dal i deimlo bod gennyf lawer i’w gynnig ac fy mod yn gallu cadw lan gyda’r bechgyn ifanc ar hyn o bryd!
“Wrth edrych ar rhai o’r garfan – maen nhw’n eu hugeiniau cynnar – sy’n fy ngwneud i’n hen ddyn mewn cymhariaeth!
“Mae dioddef o fy anafiadau wedi bod yn rhwystredig wrth gwrs – ond mae’n rhaid gweithio’n galed a chadw’r ffydd y bydd pethau’n dod i drefn ac yn gwella’n llwyr yn y pendraw.
“Ar ddechrau’r flwyddyn, ‘doeddwn i ddim yn meddwl y bydden i’n holliach i wynebu Iwerddon – ond fe wnes i wir fwynhau chwarae’n erbyn y Gwyddelod.
“Mae’n rhaid i ni adeiladu ar y perfformiad hwnnw yn erbyn Yr Alban ac fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i wneud hynny.”