News

Whiffin eisiau ennill tair yn olynol

Mae Tom Bowen yn symud o'r asgell i safle'r cefnwr

Wedi iddyn nhw amddiffyn am eu bywydau yn erbyn Iwerddon bydd y Cymry o dan 20 yn gobeithio ennill eu trydedd gêm o’r bron yn Yr Alban heno.

Y fuddugoliaeth hwyr o 20-18 yn erbyn Yr Eidal yn Parma oedd dechrau’r tro ar fyd i Richard Whiffin a’i garfan cyn i’r Crysau Cochion ddangos eu doniau a’u dewrder i guro’r Gwyddelod yn Rodney Parade o 20-12 bythefnos yn ôl.

Bwriad y garfan bellach yw ceisio ennill yng Nghaeredin heno a sicrhau tair buddugoliaeth o’r bron am y tro cyntaf ers y rhediad o ennill wyth gêm yn olynol rhwng 2015 a 2017.

Byddai buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban yn rhoi mwy o awch fyth ar yr ornest yn erbyn Lloegr ar Barc yr Arfau’r wythnos nesaf – ond mae Richard Whiffin yn canolbwyntio’n llwyr ar her yr Albanwyr heno: “Roedd yn brofiad gwych gweld gorfoledd y bechgyn ar y chwiban olaf yn Parma ac eto wedyn yn erbyn y Gwyddelod yn Rodney Parade – ond mae’n rhaid i ni barhau i adeiladu a chynnal y momentwm sydd gennym erbyn hyn.

“Ry’n ni fel tîm hyfforddi wastad wedi credu yng ngallu ac addewid y garfan yma.

Maen nhw wedi bod yn gadarn, dewr ac wedi ymroi’n llwyr i’r achos hefyd. Yn nat”uriol, ‘ry’n ni eisiau gweld y rhinweddau hynny ar unwaith eto heno yng Nghaeredin.

“Fe ddylai’r maes synthetig weddu’r math o gêm ‘ry’n ni am ei chwarae ac os yw’n blaenwyr ni’n parhau i wneud eu gwaith – bydd ein holwyr yn cael digon o gyfleoedd i arddangos eu doniau.”

Mae Richard Whiffin wedi dewis tîm sy’n ymosodol wrth reddf ac mae symud Tom Bowen o’r asgell i safle’r cefnwr yn brawf o hynny. O’r herwydd mae asgellwr y Dreigiau Hary Rees-Weldon yn cael ei gyfle ar yr asgell ac Elijah Evans sydd wedi ei ddewis yn y canol. Ar gyfer y gêm hon yng Nghaeredin, Harri Ford sydd wedi ei ddewis yn faswr sy’n golygu mai dechrau ar y fainc fydd Harri Wilde.

Ymysg y blaenwyr mae Deian Gwynne yn dychwelyd i’r rheng ôl, i gadw cwmni i’w gapten Harry Beddall ac wythwyr y Dreigiau Evan Minto.

Yn ystod y gêm yn erbyn Iwerddon, fe wnaeth Beddall 34 o daclau – ac fe lwyddodd y tîm cyfan i daclo’r Gwyddelod 230 o weithiau.

Ychwanegodd Richard Whiffin: “ Fe chwaraeon ni ddwy gêm ddatblygu yn erbyn Yr Alban cyn y Nadolig ac felly ‘ry’n ni’n gwybod cryn dipyn amdanyn nhw. Mae eu capten Freddy Douglas eisoes wedi cynrychioli prif dîm yr Albanwyr ac felly ‘ry’n ni’n eu parchu’n fawr.

“Mae unrhyw gêm oddi-cartref yn y Bencampwriaeth yn anodd iawn – a gan mai hon fydd gêm gartref olaf Yr Alban yn y Chwe Gwlad eleni – fe fyddan nhw ar dân i’n curo ni.”

Related Topics

Newyddion
News