News

Sherratt eisiau ffarwelio gyda buddugoliaeth

Matt Sherratt

Mae Matt Sherratt yn edrych ymlaen yn fawr at ei gêm olaf wrth y llyw fel Hyfforddwr Dros Dro Cymru.

Er i Sherratt a’i dad gael eu geni yn Lloegr mae’n gobeithio’n fawr y gall y Crysau Cochion sicrhau buddugoliaeth gofiadwy’n erbyn yr Hen Elyn yn Stadiwm Principality ‘fory.

“Fe fyddai hynny’n wych ac yn ganlyniad anferth ac arwyddocaol i rygbi Cymru. Byddai’n arbennig iawn dod â fy nghyfnod byr wrth y llyw i ben gyda buddugoliaeth – yn enwedig felly o safbwynt y chwaraewyr a’r staff.

“Dy’n ni ddim yn trafod llawer am y rhediad diweddar o safbwynt canlyniadau ond yn hytrach yn canolbwyntio mwy ar agweddau tactegol a thechnegol ein chwarae.

“Mi fydd ‘na lawer o emosiwn ynghlwm ag achlysur ‘fory ac mi fydd calon ac angerdd ein chwaraewyr yn amlwg i bawb – ond bydd yn rhaid i ni wneud yn siwr ein bod yn chwarae’n effeithiol a chywir hefyd.

“Os y llwyddwn ni i ennill – fe fydd hynny’n rhoi hwb anferthol i bawb – yn enwedig gan mai Lloegr yw’n gwrthwynebwyr!

“Un o fy nghyfrifoldebau fel Hyfforddwr, yw tynnu’r pwysau oddi-ar y chwaraewyr gan adael iddyn nhw ganolbwyntio ar eu gêm a mwynhau’r profiad o chwarae dros Gymru.

“Mae hynny’n arbennig o wir am Jac (Morgan) ac mae ei berfformiadau diweddar wedi cadarnhau unwaith eto ei fod yn arwain drwy esiampl.

“Mae gennym nifer fawr o chwaraewyr profiadol yn y garfan sydd yn gallu codi llais a chymryd rhywfaint o gyfrifoldeb a phwysau oddi ar ysgwyddau Jac.

“Un o’r rheiny yw Gareth Anscombe. Mae’n ddeallus a phrofiadol iawn o safbwyt darllen a deall y gêm. Y gobaith yw y bydd yn rheoli’r chwarae a’n gosod ni yn y mannau cywir ar y cae ar yr adegau cywir.

“Unwaith i ni wneud hynny, mi all greddf Gareth a’n chwaraewyr eraill ni ein harwain ni at berfformiad fydd yn rhoi pob cyfle i ni sicrhau’r fuddugoliaeth.”

Related Topics

Newyddion
News