Fe gafodd olwr Caerfaddon Jack Woods noson i’w chofio ar ei ymddangosaid cyntaf dros dîm o dan 20 Cymru’n erbyn Iwerddon.
‘Roedd ennill ei gap cyntaf ar ei faes ei filltir sgwâr yn Rodney Parade yn gofiadwy ac ‘roedd curo’r Gwyddelod am y tro cyntaf ers 2018 yn fwy cofiadwy fyth!
Fe gafodd y cefnwr ei gyfle wrth iddo gamu mewn i esgidiau Scott Delnevo o glwb Aberafan oedd wedi chwarae’n y ddwy gêm agoriadol yn erbyn Ffrainc a’r Eidal. Fe wnaeth Woods y mwyaf o’i gyfle – gyda’i amddiffyn cadarn yn amlwg iawn wrth i’r Crysau Cochion frwydro i ddal eu gafael ar eu mantais yn erbyn Iwerddon.
Dywedodd Jack Woods: “Roedd ennill fy nghap cyntaf yn Rodney Parade o bobman yn brofiad anhygoel. ‘Roedd yr awyrgylch ar y noson yn wych ac fe lwyddon ni i weithredu a gwireddu ein cynlluniau o’r maes ymarfer i’r ornest ei hun.
“Mae’r Gwyddelod yn hoff o fynd trwy’r cymalau a chadw’r bêl yn fyw ac felly rhan o’n cynllun ni oedd amddiffyn yn ddewr a thorri llif y chwarae wrth gicio dros yr ystlys pan oedd gofyn i ni wneud hynny.
“Ry’n ni wedi gweithio’n arbennig o galed ar ein hamddiffyn ac ‘ry’n ni’n gyfforddus heb y bêl erbyn hyn.
“Mae ‘na deimlad bod gennym gyfle gwirioneddol i adeiladu rhywbeth arbennig gyda’r garfan yma ac mae hynny’n rhoi hyder a gobaith i ni.
“Mae’n rhaid i ni gamu ‘mlaen yn hyderus.”
Daeth maswr y Dreigiau Harri Ford i ymuno â Woods ar y maes yng Nghasnewydd ac ‘roedd ei gic gosb yn allweddol yn y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon.
Fe gamodd Ford o’r fainc yn Parma’r penwythnos diwethaf er mwyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros y Dreigiau yn y golled yn erbyn Zebre yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig. Wrth wneud hynny, fe efelychodd gamp wythwr o dan 20 Cymru, Evan Minto gynrychiolodd y Dreigiau am y tro cyntaf ei hun wythnos ynghynt.
Er na chafodd Owain James ei alw o’r fainc yn Parma – mae’n amlwg bod gan Filo Tiatia ffydd yn y bechgyn ifanc sy’n dangos gwir addewid.
Dywedodd Harri Ford: “Roedd curo Iwerddon yn ganlyniad enfawr i ni fel carfan ac mae’r ffaith ein bod wedi ennill ein dwy gêm ddiwethaf yn ein plesio’n fawr. Er mwyn curo’r Gwyddelod, ‘roedd yn rhaid i ni ddangos gwir gymeriad wrth amddiffyn – ac fe wnaethon ni hynny.
“Y perfformiad hwnnw oedd yr un gorau ers i mi ymuno â’r garfan o dan 20 a bydd hynny’n rhoi gwir hyder wrth i ni baratoi ar gyfer teithio i’r Alban ac yna groesawu Lloegr i Gaerdydd.
“Fe chwaraeodd nifer o’r bechgyn yn y gystadleuaeth y llynedd hefyd ac felly ‘ry’n ni’n griw agos iawn at ein gilydd ac mae hynny’n dangos ar y cae.
“Mae’n rhaid diolch i’r dorf yn Rodney Parade. ‘Roedden nhw’n bendant fel dyn ychwanegol i ni. Byddai’n wych cael hyd yn oed mwy o gefnogaeth ar gyfer y gêm yn erbyn y Saeson a byddai’n wych eu curo nhw hefyd.”