News

Dillon yn ymuno â’r Dreigiau

Dillon Lewis wrth chwarae dros yr Harlequins yn erbyn Caerdydd

Mae prop pen tynn yr Harlequins, Dillon Lewis, wedi cadarnhau y bydd yn ymuno gyda’r Dreigiau wedi iddo dreulio dau dymor yn Lloegr.

 

Mae Lewis, sydd bellach yn 29 oed, wedi ennill 57 o gapiau dros Gymru – a daeth y cyntaf o’r rheiny yn erbyn Tonga yn 2017. Bu’n aelod o’r garfan enillodd y Gamp Lawn yn 2019 – pan gamodd o’r fainc ym mhedair o’r pum gêm yn ystod yr ymgyrch.

 

Cyn symud at yr Harlequins – fe chwaraeodd 88 o weithiau dros Gaerdydd – a chyn hynny fe enillodd y Gamp Lawn gyda thîm o dan 20 Cymru yn 2016.

 

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Dreigiau, Filo Tiatia:” Bydd Dillon yn dod â chadernid a hyder i’n chwarae gosod y tymor nesaf – fydd yn creu sail cadarn i ni ar gyfer y dyfodol.

 

“Mae Dillon wedi bod yn cynrychioli’r Harlequins ar lefel uchel iawn ers dwy flynedd – yn Uwch Gynghrair Lloegr ac yn Ewrop hefyd wrth gwrs.”

 

Er bod Lewis wedi ei anafu ar hyn o bryd – mae’n gobeithio bod yn holliach yn fuan iawn – fel y gall orffen y tymor hwn yn gryf cyn dychwelyd yn ôl dros Bont Hafren.

 

Dywedodd Dillon Lewis: “Mae’r cyfle i ddod adref yn gyffrous iawn ac ‘rwy’n gobeithio y bydd hynny’n ail-agor y drws i mi chwarae dros Gymru eto.

 

“Mae llawer o dalent yng ngharfan y Dreigiau ac ‘rwy’n hyderus bod dyfodol disglair o’n blaenau ni.

 

“Mae’r awydd i gynrychioli fy ngwlad unwaith eto yn gryf iawn – ond cyn cael fy ystyried – mae’n rhaid i mi berfformio’n gyson dros y Dreigiau a dyna ‘rwy’n gobeithio ei wneud wrth gwrs.”

Related Topics

Newyddion
News