Wedi dwy fuddugoliaeth o’r bron yn y Bencampwriaeth – fe brofodd y Cymry ifanc siom aruthrol yng Nghaeredin heno wrth i’r Albanwyr fanteisio ar ddiffyg disgyblaeth yr ymwelwyr a churo’r Crysau Cochion o 27-12.
Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Yr Alban yn y Chwe Gwlad mewn tair gêm ar ddeg.
Er bod y tîm cartref wedi bod ar rediad gwael yn ddiweddar, ‘doedd Cymru heb ennill ar dir Yr Alban ers eu buddugoliaeth swmpus o 65-34 yn ôl yn 2017 – a pharhau wnaeth rhediad diffrwyth diweddar y Cymru ar dir yr Alban wrth i’r tîm cartref groesi am bedwar o geisiau yng Nghaeredin heno.
Fe benderfynodd Prif Hyfforddwr Cymru, Richard Whiffin symud Tom Bowen o’r asgell i safle’r cefnwr ar gyfer yr ornest hon ac wedi dim ond chwe munud o chwarae fe redodd Bowen yn ddwfn o’i dir ei hun o fewn modfeddi at linell gais Yr Alban. Ar yr eiliad olaf llwyddodd amddiffyn y tîm cyntaf i atal y cais.
Un o benderfyniadau mawr eraill y Prif Hyfforddwr oedd dechrau Harri Ford fel maswr am y tro cyntaf eleni – ond yn anffodus i chwaraewr y Dreigiau dim ond am chwarter awr y llwyddodd i aros ar y cae cyn i anaf i’w droed chwith ei orfodi i adael y maes.
Y Cymry reolodd pob agwedd o’r chwarae yn ystod y chwarter agoriadol – ond wedi i’r capten Freddy Douglas hyrddio Evan Minto o’r neilltu – Yr Alban oedd y cyntaf i groesi’r gwyngalch.
Yn dilyn trosiad Matthew Urwin – yn groes i rediad y chwarae –‘roedd y tîm cartref ar y blaen o seithpwynt.
Gyda chwarter awr o’r cyfnod cyntaf yn weddill cafodd gobeithion y Cymry ergyd drom arall wrth i’r mewnwr Logan Franklin dderbyn cerdyn coch am dacl beryglus ar Nairn Moncrieff.
Mantais o ddyn ychwanegol i’r Alban am 20 munud oedd canlyniad ei drosedd.
Yn eironig, dri munud yn ddiweddarach, Moncrieff ei hun elwodd ar y ffaith bod Cymru ddyn yn brin gan i’r asgellwr fanteisio’n llwyr ar ei gyfle cyntaf gyda’r bêl yn ei ddwylo.
‘Roedd Richard Whiffin wedi canmol agwedd ac undod ei garfan yn eu buddugoliaethau yn erbyn Yr Eidal ac Iwerddon – ac amlygwyd hynny eto 10 munud cyn troi. Dangosodd y prop pen rhydd Ioan Emanuel gryfder a thechneg wrth agor cyfrif ei wlad ar y noson.

Ioan Emanuel (Llun gan Laszlo Geczo / Inpho)
Trosodd yr eilydd o faswr, Harri Wilde yn gampus o’r ystlys ac ‘roedd mantais Yr Alban wedi ei gwtogi i bum pwynt.
Yn anffodus o safbwynt Cymreig, fe brofodd yr ymwelwyr bum munud olaf hynod heriol i’r cyfnod cyntaf.
Yn dilyn cic letraws gampus Urwin – fe hawliodd y cefnwr Jack Brown drydydd cais yr Albanwyr ac yna’n syth o’r ail-ddechrau – fe benderfynodd y dyfarnwr Katsuki Furuse o Japan bod tacl Tom Cottle ar y mewnwr Noah Cowan yn haeddu cerdyn coch llawn.
Y Cymry lawr i dri dyn ar ddeg am bedwar munud – ond o ganlyniad i ddifrifoldeb trosedd Cottle – doedd dim dychwelyd i fod i glo Rygbi Gogledd Cymru.
Wedi i 20 munud Franklin yn y cell cosb ddod i ben, daeth Siôn Davies i’r maes yn ei le fel mewnwr.
Er eu diffyg disgyblaeth – fe roddodd y ffaith bod y Cymry wedi hawlio 65% o’r tir yn ystod yr hanner cyntaf, rywfaint o hyder i’r Crysau Cochion a chwarter awr wedi’r ail-ddechrau fe fanteisiodd Harry Thomas ar friwsion lein wallus yr Albanwyr i lusgo’i dîm yn ôl i’r ornest.
Pumed cais y bachwr o’r gystadleuaeth a chwistrelliad o obaith i’w gyd-chwaraewyr.
Penderfynu cadw pethau’n syml wnaeth yr Albanwyr wedi hynny a blino amddiffyn y Cymry ymhellach yn y broses.
Yn dilyn trosedd gan y capten Harry Beddall gwaith hawdd oedd gan yr eilydd Isaac Coates i hollti’r pyst gan greu bwlch o ddwy sgôr rhwng y timau unwaith yn rhagor.
Blino ymhellach wnaeth bechgyn Richard Whiffin a gyda 6 munud yn weddill – fe diriodd Seren y Gêm Freddy Douglas ei ail gais o’r noson gan sicrhau’r fuddugoliaeth a phwynt bonws i’w dîm a chadarnhau siom y Cymry wedi addewid yr wythnosau diwethaf.
Canlyniad: Yr Alban 27 Cymru 12.
Bydd y Bencampwriaeth yn dod i ben o safbwynt y Cymry nos Wener nesaf wrth i’r Hen Elyn ymweld â Pharc yr Arfau. Wedi i’r Saeson guro’r Eidal o 33-24 heno – fe fyddan nhw’n awchu i hawlio’r Gamp Lawn yng Nghaerdydd y penwythnos nesaf.
Wedi’r gêm, fe gadarnhaodd y capten Harry Beddall mai diffyg disgyblaeth ei dîm ar eiliadau allweddol o’r ornest oedd y gwahaniaeth rhwng y timau yn y pendraw :” Roedden ni eisiau adeiladau ar fomentwm y ddwy gêm ddiwethaf ond fe gostiodd ein diffyg disgyblaeth yn ddrud i ni.
“Fe reolon ni’r ornest am y chwarter awr cyntaf ond yna fe newidiodd pethau’n amlwg.
“Er y golled, ‘ry’n ni’n grŵp sy’n gweithio dros ein gilydd ac yn garfan sy’n credu yn ein gilydd hefyd – ond ‘ry’n ni gyd yn gwybod heno bod yn rhaid i ni wella’n disgyblaeth.
“Bydd y gêm yn erbyn Lloegr yr wythnos nesaf yn anferth ac mae pob un o’n chwaraewyr yn edrych ymlaen at ddangos i’r Saseon beth allwn ni ei wneud.”