News

Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality

Joe Roberts and Aaron Wainwright
Joe Roberts and Aaron Wainwright in action against Ireland

Mae Prif Hyfforddwr Dros Dro Cymru, Matt Sherratt wedi enwi ei dîm i herio Lloegr ym mhumed rownd o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 ddydd Sadwrn y 15fed o Fawrth, (16.45pm yn fyw ar S4C a’r BBC).

Wrth baratoi ar gyfer gêm olaf Cymru’n y Bencampwriaeth eleni – a’i ornest olaf ef wrth y llyw – mae Matt Sherratt wedi gwneud dau newid i’r tîm heriodd Yr Alban y penwythnos diwethaf.

Mae Sherratt wedi dewis Aaron Wainwright yn safle’r blaen-asgellwr ochr dywyll. Y capten Jac Morgan a Taulupe Faletau fydd yn cadw cwmni iddo’n y rheng ôl.

Bydd Joe Roberts yn dechrau ei gêm gyntaf o Bencampwriaeth 2025 ar yr asgell chwith sy’n golygu bod Ellis Mee yn symud i’r asgell dde. Blair Murray sy’n cwblhau’r tri ôl.

Mae Nicky Smith (prop pen rhydd), WillGriff John (prop pen tynn) ac Elliot Dee (bachwr) yn cael cyfle arall i ddechrau’n y rheng flaen gyda’i gilydd.

Felly hefyd Will Rowlands a Dafydd Jenkins yn yr ail reng.

Parhau mae partneriaeth chwaraewyr clwb Caerloyw – Gareth Anscombe a Tomos Williams fel haneri – ac yn y canol mae Ben Thomas a Max Llewellyn yn dechrau gyda’i gilydd unwaith eto.

O safbwynt yr eilyddion, mae Nick Tompkins yn dychwelyd i’r garfan ar gyfer y gêm. Rhodri Williams a Jarrod Evans yw’r ddau olwr arall ar y fainc.

Dewi Lake, Gareth Thomas, Keiron Assiratti, Teddy Williams a Tommy Reffell yw’r blaenwyr sydd wedi eu dewis i’w galw o’r fainc.

Dywedodd Matt Sherratt: “Mae Cymru’n erbyn Lloegr wastad yn achlysur arbennig ac ‘ry’n ni gyd yn gwybod y bydd yn awyrgylch anhygoel yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

“Ry’n ni’n gyffrous i orffen ein hymgyrch yn erbyn yr ‘Hen Elyn’ ar ein tomen ein hunain – a’n bwriad yw perfformio hyd gorau’n gallu yn erbyn Lloegr.”

Tîm Cymru v Lloegr
15. Blair Murray (Scarlets – 7 cap)
14. Ellis Mee (Scarlets – 2 gap)
13. Max Llewellyn (Caerloyw – 7 cap)
12. Ben Thomas (Caerdydd – 11 cap)
11. Joe Roberts (Scarlets – 4 cap)
10. Gareth Anscombe (Caerloyw – 41 cap)
9. Tomos Williams (Caerloyw – 63 chap)
1. Nicky Smith (Caerlŷr – 53 chap)
2. Elliot Dee (Dreigiau – 55 cap)
3. WillGriff John (Sale – 4 cap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 40 cap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 22 cap)
6. Aaron Wainwright (Dreigiau – 56 chap)
7. Jac Morgan (Gweilch – 22 cap) – capten
8. Taulupe Faletau (Caerdydd – 107 o gapiau)

Eilyddion

16. Dewi Lake (Gweilch – 19 cap)
17. Gareth Thomas (Gweilch – 39 cap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 13 chap)
19. Teddy Williams (Caerdydd – 5 cap)
20. Tommy Reffell (Caerlŷr – 26 chap)
21. Rhodri Williams (Dreigiau – 8 cap)
22. Jarrod Evans (Harlequins – 10 cap)
23. Nick Tompkins (Saraseniaid – 40 cap)

Related Topics

Newyddion
News