Bydd Brython Thunder yn gobeithio cyflawni’r dwbl yn erbyn Glasgow ddydd Sul.
Yn dilyn eu buddugoliaeth o 33-17 yn Yr Alban y penwythnos diwethaf bydd Brython yn gobeithio gorffen eu hail ymgyrch yn yr Her Geltaidd yn gadarnhaol.
Fe lwyddodd tîm Ashley Beck i ennill tair gêm yn y gystadleuaeth y tymor diwethaf a byddai curo Glasgow am yr eildro o fewn wythnos yn efelychu’r gamp honno. Byddai trechu’r Albanwyr hefyd yn golygu bod Brython yn gorffen uwchben Glasgow yn y tabl.
Gyda Phencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod ar y gorwel bydd gêm agoriadol carfan gyntaf Sean Lynn yn digwydd yn Yr Alban. Bydd hynny’n rhoi awch ychwanegol i’r ornest hon ar Barc y Scarlets amser cinio ddydd Sul (12.00).
Cyfle olaf felly i nifer o chwaraewyr Brython Thunder sydd wedi cael eu dewis yng ngharfan estynedig Sean Lynn ar gyfer y Chwe Gwlad, i greu argraff ffafriol ar y Prif Hyfforddwr newydd.
Y chwaraewyr hynny sydd wedi cael eu dewis yn y garfan genedlaethol yw: Stella Orin, Rosie Carr, Cadi-Lois Davies, Robyn Davies, Gwen Crabb, Lucy Isaac, Hannah Bluck a Niamh Terry.
Does dim amheuaeth i’r clo Gwen Crabb greu argraff arbennig y penwythnos diwethaf yn Glasgow gan iddi groesi am dri chais. Bydd Crabb yn hynod awyddus i ychwanegu at y 28 o gapiau sydd ganddi hyd yn hyn.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Brython Thunder, Ashley Beck: “Roedd perfformiad Gwen y penwythnos diwethaf yn gampus gan iddi arddangos holl rinweddau’r clo cyfoes.
“Roedd hi’n gryf yn y chwarae gosod, ‘roedd hi’n athletaidd, yn gyflym ac yn gampus gyda’r bêl yn ei dwylo hefyd.
“Yn amlwg, ‘ry’n ni’n gobeithio ail-adrodd y fuddugoliaeth yn erbyn Glasgow fel y gallwn orffen uwch eu pennau – ond fe fyddan nhw’n awyddus iawn i dalu’r pwyth yn ôl i ni wedi’r hyn ddigwyddodd y penwythnos diwethaf.
“Mae llawer iawn o chwaraewyr addawol wedi dysgu’r hyn sydd ei angen ei wneud i gystadlu’n yr Her Geltaidd y tymor yma. Er bod hynny wedi bod yn anodd ar adegau – mae’n fater o edrych ymlaen at y dyfodol – a byddai ennill ddydd Sul yn gam cadarhaol arall i’r cyfeiriad hwnnw.
“Fe fyddai’n braf gorffen y tymor gyda buddugoliaeth arall – ac fe fyddai hynny’n braf i’n cefnogwyr ni hefyd.”
Mae Ashley Beck wedi gwneud un newid ymhlith yr olwyr sy’n gweld y maswr Hanna Marshall yn partneru’r mewnwr Seren Singleton.
O safbwynt y blaenwyr mae Rosie Carr yn dychwelyd fel bachwr yn lle Chloe Grant tra bod Catrin Jones yn disodli Lucy Isaac yn y rheng ôl.
Brython Thunder: Hannah Lane; Ellie Tromans, Hannah Bluck, Gabby Healan, Eleanor Hing; Hanna Marshall, Seren Singleton; Stella Orrin, Rosie Carr, Cadi Lois Davies, Robyn Davies, Gwen Crabb, Catrin Jones, Danai Mugabe, Jess Rogers (Capten)
Eilyddion: Meg Lewis, Lowri Williams, Katie Carr, Anna Stowell, Rhiannon Griffin, Savannah Picton-Powell, Meg Webb, Ffion Davies