Mae Prif Hyfforddwr Tîm o dan 20 Cymru yn gobeithio y bydd cefnogaeth gref yn Rodney Parade heno’n sbarduno ei garfan i fuddugoliaeth yn erbyn un o dimau cryfa’r byd ar y lefel hon.
Iwerddon sydd yn ymweld â Chasnewydd heno ar gyfer y drydedd rownd o gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad – a hon fydd gêm gartref gyntaf y Crysau Cochion o’r gystadleuaeth eleni.
Harry Beddall fydd y capten unwaith eto a bydd yr holl garfan yn gobeithio adeiladu ar eu llwyddiant o ddeubwynt yn erbyn Yr Eidal yn Nhreviso bythefnos yn ôl – eu buddugoliaeth gyntaf oddi-cartref yn y Bencampwriaeth ers pum mlynedd.
Mae carfan Cymru’n cydnabod bod dipyn o her o’u blaenau’n erbyn Iwerddon, gan mai’r Gwyddelod sydd wedi ennill y chwe ornest ddiwethaf rhwng y ddwy wlad ar y lefel hon – a hynny’n eithaf cyfforddus ar y cyfan fel mae’r sgoriau’n awgrymu – 43-8, 44-27, 53-5, 40-12, 36-22 a 26-17.
Y tro diwethaf i Gymru guro’r Gwyddelod oedd yn Nulyn yn 2018 mewn gêm gofiadwy ddaeth i ben gyda’r ymwelwyr wedi ennill o 41-38. Flwyddyn ynghynt ym Mae Colwyn y daeth llwyddiant diwethaf y Crysau Cochion yn erbyn Iwerddon ar dir Cymru pan enillwyd o 41-27.
Dywedodd Prif Hyffordwr tîm o dan 20 Cymru, Richard Whiffin:”Fe ddywedais cyn i’r Bencampwriaeth ddechrau eleni fy mod eisiau’n gweld yn cipio buddugoliaeth yn erbyn un o’r cewri’n y gystadleuaeth ar hyn o bryd – sef Ffrainc, Lloegr neu Iwerddon – a dyna yw’r nod o hyd.
“Bydd yr ornest hon yr dangos yn glir i ni ble ‘ry’n ni o safbwynt ein datblygiad gan ein bod yn wynebu tîm arbennig o gryf y penwythnos yma.
“Ro’n i’n arbennig o falch bod y bechgyn wedi ennill yn Yr Eidal – er bod mwy nag un agwedd o’n perfformiad oedd yn rhwystredig i mi fel hyfforddwr.
“Wedi dweud hynny, ‘roedd gweld gorfoledd y bois ar y chwiban olaf yn eiliad arbennig iawn.
“Mae sicrhau’r fuddugoliaeth honno’n codi rhywfaint o bwysau oddi-ar ysgwyddau’r bechgyn ac fe allwn adeiladu ar hynny dros yr wythnosau nesaf.
“Mae timau da’n dilyn un fuddugoliaeth gydag un arall yn eu gêm nesaf – ac ‘ry’n ni am wneud ein gorau glas i sicrhau bod hynny’n digwydd yn erbyn y Gwyddelod.
“Mae timau Iwerddon ar bob lefel yn cael eu hyfforddi’n dda iawn ac maen nhw’n siwr o’n herio ym mhob agwedd o’r gêm yn Rodney Parade.
“Fe gawson nhw ornest agoriadol anodd iawn yn erbyn Lloegr – ond fe ddangoson nhw’u gallu’n gwbl glir yn erbyn Yr Alban yn yr ail rownd o gemau.
“Maen nhw’n gallu bod yn gyfrwys yn eu chwarae hefyd ac mae ganddyn nhw’r ddawn i gadw’r bêl yn fyw am nifer fawr o gymalau.
“Ein gwaith ni fydd atal hynny rhag digwydd ac ‘rwy’n gobeithio’n fawr y bydd cefnogaeth ein torf yn ein hysbrydoli ni i wneud hynny.
“Gobeithio y bydd ein llwyddiant yn Nhreviso yn denu mwy o dorf i Gasnewydd oherwydd bydd ein bois ni’n bwydo oddi-ar eu cefnogaeth – yn enwedig pan fydd y Gwyddelod yn cadw’u gafael ar y bêl am gyfnodau hir.
“Mae gennyf obeithion mawr ar gyfer y grŵp yma o fechgyn ac maen nhw wedi dangos fflachiadau amlwg o beth sy’n bosib iddyn nhw ei gyflawni yn y ddwy gêm gyntaf.
“Y nod amlwg heno yw perfformio am 80 munud yn erbyn Iwerddon o flaen ein cefnogwyr ein hunain.”