Bydd Gwalia Lightning yn teithio i Iwerddon i herio’r Wolfhounds, yn 7fed Rownd gemau’r Her Geltaidd ym Mharc Virgin Media Park, Corc, ddydd Sul y 9fed o Chwefror am 12.30pm.
Mae’r tîm Cymreig wedi ennill eu tair gêm gynghrair ddiwethaf y tymor hwn ac felly’n awchu i wynebu’r Pencampwyr presennol ar eu tomen eu hunain.
Y dylanwadol Bryonie King fydd yn arwain y tîm unwaith eto – sy’n cynnwys dau newid o’r ornest ddiwethaf yn erbyn Caeredin.
Gwennan Hopkins a Catrin Stewart fydd yn ymuno gyda King yn y rheng ôl.
Mae un newid yn y pac, sy’n gweld Danyelle Dinapoli yn cymryd ei lle’n y rheng flaen gyda Maisie Davies a Molly Wakely.
Y ddau glo rhyngwladol Alaw Pyrs a Lily Terry fydd yn yr ail reng.
Camu o’r fainc wnaeth cefnwr Cymru, Jenny Hesketh yn y fuddugoliaeth yn erbyn Caeredin yn y gêm ddiwethaf – ond bydd hi’n dechrau ei gornest gyntaf dros Gwalia Lightning yn erbyn y Wolfhounds.
Bydd ei chyd-chwarewr rhyngwladol Caitlin Lewis a Courtney Greenway yn cwblhau’r tri ôl.
Yn dilyn eu perfformiadau addawol yn erbyn Caeredin, mae Kelsie Webster ac Anwen Owen yn parhau gyda’u partneriaeth yn y canol. Carys Hughes a mewnwr Cymru, Sian Jones fydd yr haneri.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning, Catrina Nicholas-McLaughlin: “Mae’r Wolfhounds yn dîm sydd wastad tua brig y tabl ac felly ‘ry’n ni’n gwybod bod dipyn o her yn ein wynebu.
“Wedi dweud hynny, ‘ry’n ni’n garfan hyderus ar hyn o bryd gan ein bod wedi dangos ein bod yn gallu cystadlu gydag unrhyw dîm yn yr Her Geltaidd y tymor yma.
“Ry’n ni’n haeddu bod yn uchel yn y tabl ac mae’n perfformiadau diweddar wedi dangos ein bod yn gystadleuol ac yn gyffrous hefyd.
“Mae’r Wolfhounds yn llawn o chwaraewyr rhyngwladol Iwerddon – ond dyma’r union gemau sydd angen arnom i wella ymhellach a datblygu fel carfan.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at y frwydr.”
Gwalia Lightning (v Wolfhounds)
Jenny Hesketh, Courtney Greenway, Kelsie Webster, Anwen Owen, Caitlin Lewis, Carys Hughes, Sian Jones; Maisie Davies, Molly Wakely, Danyelle Dinapoli, Lily Terry, Alaw Pyrs, Bryonie King (capten), Catrin Stewart, Gwennan Hopkins
Eilyddion: Molly Mae Crabb, Dali Hopkins, Cana Williams, Paige Jones, Lottie Buffery-Latham, Katie Bevans, Freya Bell, Carys Williams-Morris