News

Does unman yn debyg i gartref i Wainwright

Aaron Wainwright
Aaron Wainwright yn erbyn Yr Eidal

Mae Aaron Wainwright eisiau i gefnogwyr Cymru godi’r to yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn er mwyn creu awyrgylch danllyd yn erbyn Iwerddon.

Mae pob tocyn wedi ei werthu ac mae’n cefnogwyr yn rhoi hwb anferthol i’r chwaraewyr. ‘Roedd llawer iawn ohonyn nhw ym Mharis a Rhufain a hyd yn oed yn Awstralia dros yr haf hefyd. Mae’r chwaraewyr eisiau ad-dalu’r ffydd hwnnw yn ôl iddyn nhw.

“Pan fydd y dorf yn canu a gweiddi’n uwch na’r Gwyddelod ddydd Sadwrn – bydd hynny’n ein hysbrydoli – heb sôn am roi ias i lawr ein cefnau.

“Ein cyfrifoldeb ni fel chwaraewyr fydd dechrau’n dda – gyda’r dacl gyntaf un. Gobeithio wir y gwnawn ni roi rhywbeth i’r cefnogwyr ffyddlon i weiddi amdano o’r eiliad gyntaf ddydd Sadwrn.

“Pan ‘rwy’n chwarae dros y Dreigiau yn Rodney Parade, ‘rwyf wrth fy modd clywed eu sŵn – ac ambell sylw direidus hefyd! Gobeithio y bydd yr awyrgylch yn y Stadiwm yn swnllyd a thanllyd dros y penwythnos.”

Mae Wainwright Bellach wedi cynrychioli Cymru 54 o weithiau. Dim ond am 4 munud y bu ar y maes yn y gêm agoriadol yn y Stade de France eleni gan iddo orfod cael 11 o bwythau yn ei wyneb. Gwta wythnos wedi hynny – fe gamodd o’r fainc i gynrychioli ei wlad unwaith eto yn y Stadio Olimpico.

“Fe ges i’r anaf wrth i fy ngwyneb daro esgid Antoine Dupont.

“Doeddwn i ddim yn ceisio cusanu traed Dupont !”

“Pan sylweddolais bod gwaed yn dod o fy ngwyneb – ‘roeddwn yn ofni bod fy noson ar ben – a hynny mor gynnar yn y gêm.

“Mae’n wir i ddweud nad oes llawer o bositifrwydd yn amgylchynu rygbi Cymru ar hyn o bryd. Er na allwn wadu’r ffaith bod ein canlyniadau diweddar yn siomedig – mae pawb yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i newid hynny.

“Does dim un aelod o’r garfan yn camu i’r maes i geisio colli – ond gyda’r dorf y tu ôl i ni ddydd Sadwrn yn Stadiwm Principality – mae gennym gyfle i ddangos beth allwn ni ei wneud yn erbyn un o dimau gorau’r byd.

“Mae cefnogaeth y dorf ar eiliadau allweddol mewn gemau allweddol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr a bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau os ydym am guro’r Gwyddelod.

“Bydd curo Iwerddon yn her a hanner gan eu bod mor ddawnus , trefnus, dyfeisgar a heriol ym mhob agwedd o’u chwarae ond mae Matt Sherratt wedi dweud wrthym i fwynhau’r achlysur ac i fynegi ein hunain yn reddfol ar y cae. Os y gwnawn ni hynny, ‘rwy’n siwr y bydd y dorf yn codi llais i’n cefnogi.

“Byddwn yn ceisio torri llif eu chwarae a’u hyder wrth chwarae yn eu hwynebau yn y gobaith y gallwn brofi nifer o bobl yn anghywir dros y penwythnos.”

Related Topics

Newyddion
News