News

Croeso'r Llywydd: Cymru dan 20 v Iwerddon dan 20

Terry Cobner
Welsh Rugby Union President Terry Cobner

Noswaith dda a chroeso cynnes iawn i Rodney Parade ar gyfer gêm gartref gyntaf ein tîm o dan 20 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Mae’n hymwelwyr heno, Iwerddon wedi bod yn arbennig o gryf ar y lefel o dan 20 yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd angen i fechgyn Cymru fod ar eu gorau i geisio dod â’r rhediad o golli’r chwe gêm ddiwethaf yn eu herbyn i ben heno. Mae’n arbennig o bwysig felly ein bod cefnogi ein bois yn frwd ac yn groch gan gynnig yr holl gefnogaeth y gallwn iddynt.

Fe berfformiodd y bechgyn yn gryf yn yr hanner cyntaf yn erbyn Ffrainc ond yn anffodus, fe wnaeth y Ffrancod brofi’n llawer rhy gryf i ni yn yr ail hanner ac ennill yn gyfforddus yn y pendraw. Bythefnos yn ôl yn erbyn Yr Eidal – fe ddechreuon ni’n araf cyn dangos gwir gymeriad a dawn i hawlio buddugoliaeth o 20-18. Ein llwyddiant cyntaf oddi-cartref yn y Bencampwriaeth hon ers curo Lloegr yn Kingsholm yn 2020.

Mae Rob Howley wedi bod yn cynnig arweiniad i’r llwybr datblygu’n ddiweddar gan ddod â phrif dîm cenedlaethol y dynion a’r bechgyn o dan 20 yn agosach at ei gilydd ac mae’n amlwg bod y gwaith hwnnw’n dechrau gwneud gwahaniaeth.

Mae’r garfan wedi ymarfer gyda phrif dîm hŷn Cymru’n ddiweddar a gyda’r Scarlets hefyd – sydd wedi bod yn ddatblygiadau cyffrous a gwerthfawr.Mae ffurfio a chyflwyno Super Rygbi Cymru hefyd wedi bod yn gam cadarnhaol.

Mae chwaraewyr yr Academïau bellach yn chwarae’n rheolaidd mewn cynghrair sy’n pontio’r bwlch rhwng y gêm rhannol-broffesiynol a’r lefel ranbarthol, gan brofi rygbi hŷn yn rheolaidd ac mewn awyrgylch gadarnhaol.

Cyn y Nadolig, fe chwaraeodd y garfan o dan 20 ddwy gêm baratoadol yn erbyn Yr Alban cyn wynebu tîm dethol yr Academïau Rhanbarthol ddwywaith cyn dechrau’r Chwe Gwlad eleni.

Bydd yr holl brofiadau cystadleuaol ac amrywiol hyn yn werthfawr wrth i’n chwaraewyr mwyaf addawol geisio sicrhau cytundebau proffesiynol yn y dyfodol a chymryd cam arall at wireddu eu breuddwydion rygbi.Bydd y gêm heno yn rhoi cyfle i bawb ddangos eu doniau yn erbyn cenedl sydd yn amlwg iawn ar bob lefel o’r gamp ar hyn o bryd.

Cyfle gwych felly i’r holl chwarawyr a chefnogwyr i fwynhau ein hunain!

Terry Cobner
Llywydd Undeb Rygbi

Related Topics

Newyddion
News