News

Buddugoliaeth gyntaf i Brython a Bluck ar ben ei digon

Seren Singleton yn croesi am un o'i dau gais.

Fe enillodd Brython Thunder eu gêm gyntaf o’r tymor yn yr Her Geltaidd wedi eu buddugoliaeth ddramatig o 38-32 yn erbyn Caeredin yn Rownd 7 o gemau’r gystadleuaeth.

Yn y pendraw, dau gais hwyr canolwr Cymru, Hannah Bluck, wedi iddi ddod i’r maes fel eilydd, oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm ar Barc y Scarlets heddiw.

Hawliodd y mewnwr bywiog Seren Singleton ddau gais ei hun hefyd – a’r clo Robyn Davies a’r bachwr Chloe Gant diriodd geisiau eraill y tîm cartref.

Fe arweiniodd Singleton a’r capten Natalia John drwy esiampl a bydd Caeredin wedi cael llond bol o wynebu’r clybiau Cymreig gan iddynt golli eu dwy gêm ddiwethaf yn y Bencampwriaeth yn erbyn Gwalia Lightning dros yr wythnosau diwethaf hefyd.

Yr ymwelwyr agorodd y sgorio wrth i brif sgoriwr ceisiau’r cynghrair hyd yma’r tymor hwn, Hannah Walker ddangos ei doniau unwaith yn rhagor – cyn i Singleton daro’n ôl dros y tîm cartref. Wedi trosiad Hanna Marshall, ‘roedd Brython ar y blaen o 7-5 hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf.

Fe ymatebodd yr ymwelwyr yn gadarn wrth i’r prop Hannah McMahon dirio ac wedi i Hannah Ramsay ychwanegu’r ddeubwynt, ‘roedd gan yr Albanwyr fantais o bum pwynt.

Pendiliodd yr ornest unwaith eto wrth i Robyn Davies hawlio’i chais ac am yr eildro, fe roddodd drosiad Marshall y Cymry’n ôl ar y blaen o drwch blewyn.

Lucia Scott gafodd y sgôr nesaf cyn i McRae ychwanegu’r trosiad – ond yn fuan wedi hynny fe fylchodd Savannah Picton-Powell yn drawiadol gan ryddhau Singleton i goroni cais gorau’r gêm. Yn dilyn trosiad arall gan Hanna Marshall, ‘roedd Brython Thunder ar y blaen o 21-19 ar hanner amser.

Er i gôl gosb gynnar Macrae wedi troi roi trwynau’r ymwelwyr ar y blaen yn gynnar wedi troi – ‘roedd carfan Ashley Beck yn benderfynol o ad-ennill y fantais unwaith yn rhagor. Dyna’n union wnaethon nhw yn dilyn cais y bachwr Grant, olygodd bod Brython Thunder wedi hawlio pwynt bonws a’r flaenoriaeth o 26-22.

Mewn gêm ryfeddol, fe hawliodd Caeredin eu pedwerydd a’u pumed cais nhw o ganlyniad i waith campus yr eilydd Amy Conchie a’r wythwr Merryn Gunderson – gan roi chwephwynt o fantais i’r ymwelwyr.

Ond gêm Hannah Bluck oedd hi wedi hynny.

Fe gamodd canolwr Cymru o’r fainc ac fe hawliodd hi ddau gais personol – ond yn bwysicach na dim fe sicrhaodd ei cheisiau fuddugoliaeth gyntaf ei thîm o’r tymor yn yr Her Geltaidd.

Related Topics

Newyddion
News