Roedd yr ymweliad yn nodi dechrau cyfres o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon i ddathlu ‘Cymru yn Japan 2025’ sy’n cadarnhau’r cysylltiadau cryfion rhwng y ddwy wlad.
Mae’r bartneriaeth hon wedi blodeuo ymhellach ers i gystadleuaeth Cwpan y Byd gael ei chynnal yn Japan yn 2019 ac mae ymweliad y Llysgennad â stadiwm eiconig Principality yn dyfnhau’r parch sydd gan y ddwy wlad, at ei gilydd ac at rygbi – cyn i dîm dynion Cymru deithio i Japan dros yr haf. Bydd manylion llawn am y daith honno’n cael eu cyheoddi maes o law.
Dywedodd Richard Collier-Keywood, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru :“Mae gan rygbi’r ddwy wlad gysylltiad arbennig iawn ac ‘roeddem yn hynod o falch ein bod wedi gallu estyn croeso i Lysgennad Japan i Stadiwm Principality yr wythnos yma.
“Dyma ddechrau blwyddyn arbennig i Gymru a Japan wrth i ni edrych ymlaen at gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddathlu’r cysylltiad arbennig rhwng y ddwy wlad – a’r dyfodol cyffrous sydd o’n blaenau yn 2025.
“Bydd Undeb Rygbi Cymru’n parhau i gryfhau’r berthynas sydd gennym gydag undeb Japan ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen at gydweithio pellach o safbwynt diwylliant a datblygu rygbi rhwng ein gwledydd.”
Meddai’r Prif Weinidog, Eluned Morgan:
“Mae cysylltiadau dwfn rhwng Cymru a Japan sy’n ymestyn yn ôl i’r 19eg ganrif, pan chwaraeodd arloesedd Cymru ran bwysig yn y broses o lunio rhwydwaith trafnidiaeth Japan. Heddiw, mae’r bartneriaeth honno’n ffynnu mewn ffyrdd newydd ac ystyrlon.
“Bydd 2025 yn flwyddyn i ddechrau sgyrsiau newydd, datblygu cysylltiadau ac agor pennod newydd ar gyfer twf ar y cyd mewn meysydd allweddol. Rwy’n edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd o’n blaenau eleni i ddathlu a chryfhau’r cysylltiadau chwaraeon, economaidd, addysgol, a diwylliannol rhwng Cymru a Japan.”
Ychwanegodd ei Fawrhydi, Llysgennad Japan i’r Deyrnas Unedig:
“Cefais bleser mawr o gyfarfod y Cadeirydd yn Stadiwm Principality. ‘Roedd hi’n fraint derbyn y gwahoddiad i gamu ar y maes. Fe gawsom sgyrsiau cadarnhaol iawn dros ginio hefyd ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymweliad tîm rygbi Cymru â Japan eleni! Mae rygbi yn adeiladu a chadarnhau cyfeillgarwch rhwng ein dwy wlad.”