Mae 23 o flaenwyr wedi eu dewis ac 18 o olwyr. Bydd y garfan yn cael ei harwain gan flaen-asgellwr Caerlŷr, Harry Beddall. Canolwr Caerdydd, Steffan Emanuel fydd ei îs-gapten.
Chwaraeodd wyth o’r olwyr ran yn y Bencampwriaeth y llynedd. Felly hefyd saith o’r blaenwyr.
Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch gyda dwy gêm oddi-cartref yn erbyn Ffrainc a’r Eidal cyn croesawu Iwerddon i Rodney Parade. Taith i’r Alban fydd yn dilyn hynny cyn cloi wrth wynebu Lloegr ar Barc yr Arfau.
Dywedodd Richard Whiffin, Prif Hyfforddwr Tîm o dan 20 Cymru: “Mae gennym gryfder, pŵer a chyflymdra yn y garfan yn ogystal â phrofiad y bechgyn chwaraeodd y llynedd a doniau newydd hefyd.
“Ry’n ni wedi cael tipyn o amser i baratoi a chreu partneriaethau gwahanol wrth herio’r Alban ddwywaith a chwarae yn erbyn yr Academïau Rhanbarthol ar ddau achlysur hefyd.
“Mae’r garfan yn awchu i gael eu dannedd i mewn i’r gystadleuaeth.”
Fe ddefnyddiodd Richard Whiffin garfan estynedig dros yr wythnosau diwethaf er mwyn cael golwg ar gymaint o chwaraewyr addawol â phosib – cyn dewis y 41 terfynol.
“Fe ddywedom o’r dechrau ein bod eisiau rhoi’r cyfle i nifer o chwaraewyr greu argraff arnom fel tîm hyfforddi ac ‘rwy’n hyderus fod gennym ddyfnder ym mhob safle erbyn hyn.
“Mae’r gystadleuaeth ar gyfer y pymtheg lle cychwynol yn y gêm gyntaf yn Vannes yn mynd i fod yn chwyrn.”
Mae’r ffaith fod 15 o chwaraewyr yn dychwelyd i’r garfan yn gysur mawr i Richard Whiffin wrth ddechrau eu hymgyrch heriol gyda dwy gêm ar y lôn:
“Fe all y bois hynny rannu eu profiad gyda’r chwaraewyr ifanc wrth gwrs – a bydd hynny’n werthfawr iawn i ni.
“Mae’r Bencampwriaeth yn ddigyfaddawd a phrin yw’r amser rhwng y gemau – ond er bod gennym nifer o chwaraewyr ifanc yn ymuno gyda ni am y tro cyntaf – maen nhw’n gyfarwydd iawn â’i gilydd wedi iddyn nhw chwarae i’r tîm o dan ddeunaw y tymor diwethaf.
‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn arddangos eu doniau.
“Yn ogystal â’r ffaith bod gennym ddwy gêm anodd ar nosweithiau Gwener i ddechrau’n hymgyrch – mae llawer o deithio i’w wneud mewn cyfnod byr hefyd.
“Mae’n debygol y byddwn yn amrywio’r pymtheg fydd yn dechrau’r ddwy gêm agoriadol er mwyn sicrhau bod yr awch mwyaf posib yn ein chwarae wrth i ni deithio i wynebu Ffrainc a’r Eidal.
“O safbwynt ein gemau cartref, byddai’n wych cael cefnogaeth gref yn Rodney Parade a Pharc yr Arfau – felly dewch i gefnogi’r garfan os gwelwch yn dda.”