Mae’r ffaith bod Josh Adams a Liam Williams yn dod â llond trol o brofiad yn ôl i’r tîm a bod capten y llynedd Dafydd Jenkins ar gael unwaith eto wedi rhoi hwb i’r garfan.
Mae’r ffaith bod Taulupe Faletau’n obeithiol o fod ar gael ar gyfer y daith i’r Eidal yr wythnos nesaf hefyd yn cynnig hyder pellach.
Er mai Ffrainc yw un o ffefrynnau’r bwcis i ennill y Bencampwriaeth, mae’r Cymry’n gobeithio am ddechrau cadarnhaol i’w hymgyrch – gan gofio bod y crysau cochion wedi ennill ar dir Ffrainc yn amlach nac unrhyw un o’r gwledydd eraill yn y Chwe Gwlad.
Mae Cymru wedi ennill pum o’u deuddeg gêm yn y Bencampwriaeth yn Ffrainc – gan gynnwys hawlio tair buddugoliaeth ar eu chwe ymweliad diwethaf â Pharis.
Ai dyma felly fydd y cyfle i Jac Morgan a’i dîm i ennill eu gêm ryngwladol gyntaf mewn tri chynnig ar ddeg ers Cwpan y Byd 2023?
Dywedodd Jac Morgan, Capten Cymru:”Ry’n ni wedi dysgu llawer iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae gennym lawer o brofiad yn dod nôl mewn i’n tîm hefyd – ac felly ‘ry’n ni gyd yn edrych ymlaen at yr her.
“Fe fydden ni wrth ein bodd profi pawb yn anghywir gan bod llawer o bobl wedi ein disytyru ni’n barod.”
“Ry’n ni’n bwydo oddi ar hynny ym mhob sesiwn ymarfer ac eisiau gwneud ein gorau.
“Ry’n ni wedi ymarfer yn arbennig o dda ac mae Gats a’r hyfforddwr eraill wedi’n paratoi ni’n dda.
“Mae pawb wedi gweithio mor galed ers i ni ddod at ein gilydd fel carfan ac ‘ry’n ni’n ymwybodol iawn o ddoniau Ffrainc. Wrth gwrs ei bod hi’n mynd i fod yn gêm galed a chorfforol – felly mae’n rhaid i ni sefyll yn gadarn gyda’n gilydd. Wrth wneud hynny – gall unrhywbeth ddigwydd ar y noson.
“Ry’n ni eisiau gwella drwy’r amser. Dyna yw’r prif beth i ni fel carfan. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i ni wthio’n hunain a’n gilydd ac mae pawb yn gwneud hynny’n bendant.
“Mae’n wych cael Josh yn ôl. Mae’n chwaraewr gwych wrth gwrs – ond mae ganddo hefyd y profiad o ennill mas yma ym Mharis – ac mae’r bois ifanc yn bwydo oddi-ar hynny.
“Yn dilyn canlyniadau diweddar eu tîm rhyngwladol a pherfformiadau eu clybiau’n Ewrop – bydd y dorf yn disgwyl llawer iawn gan eu chwaraewyr – yn enwedig gan bod Antoine Dupont nôl yn y tîm wedi blwyddyn o seibiant.”
Ychwanegodd Warren Gatland, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae Antoine yn un o’r chwaraewyr rygbi gorau erioed siwr o fod ac fe fydd yn awchu i ennill Camp Lawn arall fel y gwnaeth yn 2022.
“Mae ei ddylanwad ar gemau’n amlwg iawn – os yw’n chwarae ar y maes rhyngwladol, dros Toulouse – neu’n ennill medal aur Olympaidd 7 bob ochr dros Ffrainc.
“Mae gennym barch aruthrol tuag ato fel chwaraewr a chapten. Efallai nad ef yw’r mwyaf o ran maint ei gorff – ond mae’n gryf, yn gyflym ac mae’n darllen y gêm yn wych.”