News

Tîm Cymru i wynebu Awstralia

Elils Bevan gets ready to put the ball in at the scrum
Ellis Bevan ready for Wales put in at the scrum

Mae Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu Awstralia yn ail gêm Cyfres yr Hydref 2024 yn Stadiwm Principality, ddydd Sul 17 Tachwedd am 4.10pm. (Bydd yr ornest yn fyw ar S4C a TNT Sports).

Mae pedwar newid o’r tîm ddechreuodd yr ornest yn erbyn Fiji ddydd Sul diwethaf gyda dau o’r newidiadau hynny yn y rheng ôl.

Tra bo Aaron Wainwright yn parhau’n wythwr, mae’r blaen asgellwyr James Botham a Jac Morgan wedi eu dewis i herio’r Wallabies.
Mae’r ddau newid arall yn gweld Ellis Bevan yn dechrau’n fewnwr a Tom Rogers ar yr asgell.

Prynnwch eich tocynnau am Cymru yn erbyn Awstralia yma

Mae tri newid pellach ymhlith yr eilyddion: Bydd Tommy Reffell yn cynnig opsiyniau o safbwynt y rheng ôl tra bydd Rhodri Williams ac Eddie James yn ymuno â Sam Costelow fel yr olwyr ar y fainc.

Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni wedi bod yn onest iawn gyda’n gilydd wedi i ni edrych yn ôl ar y gêm ddiwethaf. Fe wnaethon rai pethau’n dda a’r bwriad yw adeiladu ar yr agweddau hynny’r penwythnos yma.

“Wedi dweud hynny, mae angen i ni fod yn fwy cywir a disgybledig – yn enwedig ar yr eiliadau allweddol hynny yn ystod gemau.

“Bydd Awstralia ar ben eu digon yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Lloegr. Maen nhw wedi gwella’n sylweddol ers i ni deithio yno dros yr haf ac maen nhw wedi chwarae nifer o gemau cystadlaeuol ers hynny hefyd.

“Ry’n ni gyd yn gwybod bod yn rhaid i ni berfformio am yr 80 munud cyfan ddydd Sul yma.”

Tîm Cymru i wynebu Awstralia
15. Cameron Winnett (Caerdydd – 8 cap)
14. Tom Rogers (Scarlets – 4 cap)
13. Max Llewellyn (Caerloyw – 3 chap)
12. Ben Thomas (Caerdydd – 5 cap)
11. Blair Murray (Scarlets – 1 cap)
10. Gareth Anscombe (Caerloyw – 38 cap)
9. Ellis Bevan (Caerdydd – 4 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 34 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 16 chap) Capten
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 4 cap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 34 cap)
5. Adam Beard (Gweilch – 57 cap)
6. James Botham (Caerdydd – 14 cap)
7. Jac Morgan (Gweilch – 16 chap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 51 cap)

Eilyddion

16. Ryan Elias (Scarlets – 42 cap)
17. Nicky Smith (Caerlŷr – 47 cap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 8 cap)
19. Christ Tshiunza (Caerwysg – 13 chap)
20. Tommy Reffell (Caerlŷr – 21 cap)
21. Rhodri Williams (Dreigiau – 3 chap)
22. Sam Costelow (Scarlets – 16 chap)
23. Eddie James (Scarlets – 1 cap)

Related Topics

News