Daeth llwyddiant cyntaf erioed Cymru yn erbyn y Springboks ym 1999 yn y gêm gyntaf yn y stadiwm genedlaethol newydd – ond diwrnod De Affrica oedd hi heb amheuaeth yn Stadiwm Principality heddiw.
Cafodd y Cymry ergyd i’w paratoadau cyn y gic gyntaf wrth i Tom Rogers (coes) a Gareth Thomas (salwch) ildio’u llefydd yn y tîm i Josh Hathaway a Nicky Smith.
‘Roedd dynion Cymru’n gwisgo eu cit newydd gwyn,coch a gwyrdd am y tro cyntaf yn ystod yr ornest hon ond crysau gwyrddion De Affrica ddechreuodd gryfaf – a’u dau gawr o glo’n benodol.
O fewn yr wyth munud agoriadol ‘roedd Franco Mostert ac Eben Etzebeth wedi tirio a gyda throsiad Jordan Hendrikse o’r cais cyntaf – ‘roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 12 pwynt.
Y Springboks reolodd y meddiant o’r chwiban gyntaf ac fe arweiniodd eu grym a’u dawn at y ffaith i’r Cymry fethu 15 o daclau yn ystod y 18 munud cyntaf. Wrth i’r chwarter agoriadol ddirwyn i ben fe diriodd yr asgellwr Kurt-Lee Arendse drydydd cais ei dîm – ac wedi ail drosiad Hendrikse – ‘roedd bechgyn Warren Gatland ar ei hôl hi o 19 pwynt am yr ail benwythnos yn olynol.
Fe gafodd Dde Affrica 75% o’r meddiant yn ystod yr hanner awr cyntaf – ac fe groeson nhw am eu pedwerydd cais o’r prynhawn gyda 6 munud o’r cyfnod cyntaf ar ôl – pan fanteisiodd Elrigh Louw ar sgrym hynod bwerus ei dîm, gipiodd y meddiant oddi ar y tîm cartref yng nghysgod pyst eu hunain.
Er i Hendrikse gicio’i chweched pwynt o’r deugain munud agoriadol – Rio Dyer gafodd y gair olaf yn ystod yr hanner cyntaf – wrth i’w rediad cryf wedi i’r cloc droi’n goch – sicrhau ei wythfed cais rhyngwladol.
Hanner Amser: Cymru 5 De Affrica 26
Bum munud wedi troi fe fe newidiodd y Springboks eu rheng flaen gyfan yn ôl eu harfer a dau funud wedi hynny fe gamodd Freddie Thomas o’r fainc i gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf.
Bu’n rhaid i’r Cymry orfod gwneud 117 o daclau yn ystod yr hanner agoriadol ac wedi chwarter awr o’r ail gyfnod fe ddaeth De Affrica o hyd i fwlch allweddol yn amddiffyn y crysau gwynion am y pumed tro o’r prynhawn. Yn dilyn gwaith creu hudolus Damian de Allende, fe groesodd Aphelele Fassi’n orfoleddus yn y gornel.
Doedd cais yr eilydd o brop Gerhard Steenekamp gydag ugain munud yn weddill ddim mor drawiadol ond fe agorodd ei sgôr a throsiad arall gan Hendrikse y bwlch rhwng y timau i 33 o bwyntiau.
Yn dilyn cais hwyr Jordan Hendrikse, a’i drosiad ei hun – ‘roedd ganddo 15 pwynt personol yn ei boced – ond er gwaethaf prynhawn anodd arall i’r Cymry – fe groesodd James Botham am ail gais Cymru yn yr eiliadau olaf i roi cysur i’r cefnogwyr cartref – ac fe barchusodd trosiad Ben Thomas y canlyniad ymhellach.
Canlyniad: Cymru 12 De Affrica 45
Wedi’r chwiban olaf fe ddiolchodd chwarewyr a thîm hyfforddi Cymru’r cefnogwyr. Er gwaethaf eu rhediad siomedig diweddar o safbwynt canlyniadau – ‘roedd y dorf o 67,236 yn Stadiwm Principality bron i 3,000 yn fwy na chyfartaledd yr wyth gêm ddiwethaf rhwng y timau yng Nghaerdydd.
Wedi’r chwiban olaf, dywedodd Capten Cymru Dewi Lake: “Fe ddangosodd De Affrica heddiw pam mai nhw yw Pencampwyr y Byd. Maen nhw’n dîm cryf a dawnus ond dwi’n falch o ymdrechion pob un o’n chwaraewyr ni.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd – ond dy’n ni ddim yn colli’r ffydd.
“Fe wnawn ni barhau i weithio’n galed er mwyn gwella a chael dyddiau gwell.
“Mae’n rhaid i mi ddweud diolch wrth bob un cefnogwr am barhau i ddangos eu ffydd ynddon ni. Mae pob aelod o’r garfan yn gwerthfawrogi hynny.”
Nododd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Mae’n rhaid i mi dalu teyrnged i ymdrech pob aelod o fy ngharfan heddiw. Fe ddysgwn ni lawer wrth chwarae yn erbyn tîm mor arbennig o dda â De Affrica.”
Ychwanegodd Capten De Affrica, Siya Kolisi: “Mae angen i Gymru gadw’r ffydd – mae’r addewid yno. ‘Ry’n ni wedi cael amseroedd anodd ac ‘ry’n ni’n gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd.
“Erbyn flwyddyn nesaf – fe fyddan nhw’n dîm mwy profiadol a chryfach. Mae hi wastad yn fraint chwarae yma yng Nghymru – ac mae rygbi eu hangen i ddod yn ôl yn gryfach – ac fe wnawn nhw hynny.”