News

Awstralia'n sgorio wyth cais i guro'r Cymry'n Stadiwm Principality

Tom Wright yn sgorio cais cynta'r prynhawn

Colli am yr eildro fu hanes Cymru yng Nghyfres yr Hydref eleni wrth i Awstralia ennill o 52-20 yn Stadiwm Principality gan gofnodi eu sgôr uchaf erioed yng Nghaerdydd.

Wedi eu buddugoliaeth hanesyddol o 40-6 yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd 2023 – hon oedd trydedd colled y Cymry o’r bron yn erbyn y Wallabies a’u hunfed colled ar ddeg yn olynol ar y llwyfan rhyngwladol – sy’n record newydd anffodus i’r crysau cochion.

Yn dilyn eu buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf – ‘roedd hyder yr ymwelwyr yn amlwg o’r chwiban gyntaf ac wedi 10 munud o chwarae fe groesodd Samu Kerevi’r llinell gais – ond o ganlyniad i dacl amddiffynol wych Tom Rogers – methiant fu ymgais canolwr y Brumbies i dirio’r bêl ar achlysur ei hanner canfed cap.

Ond 7 munud wedi hynny ‘roedd y Wallabies wedi hawlio’u dau gais cyntaf o’r prynhawn. Yn gyntaf fe lwyddodd Tom Wright dorri tacl Blair Murray i groesi yn y gornel, cyn i’r clo Nick Frost garlamu o dan y pyst o 40 metr wedi i Awstralia gipio’r meddiant yng nghanol y cae.

Tri chynnig i Gymro medd yr hen air – ond tri chais i Awstralia oedd hi wedi 21 munud. Doedd amddiffyn Cymru methu ag atal sgarmes symudol y Wallabies – a’r bachwr Matt Faessler gododd o waelod y pentwr cyrff gyda gwên mor llydan â’r bwlch rhwng y ddau dîm.

Dangosodd y Cymry wir gymeriad am weddill y cyfnod cyntaf. Dri munud wedi trydydd cais Awstralia – fe grëodd rhediad grymus Murray a chwarae deallus a phwyllog y pac, y cyfle i Aaron Wainwright hawlio cais yng nghysgod y pyst.

Wedi trosiad Gareth Anscombe a dwy gôl gosb ganddo yn y 10 munud wedi hynny – yn sydyn ‘roedd mantais yr ymwelwyr wedi ei dorri o 19 pwynt i 6 ac ‘roedd torf Stadiwm Principality yn dechrau credu a chodi llef. Hanner cyntaf o ddau hanner heb os.

Hanner Amser: Cymru 13 Awstralia 19

Gan bo Archie Griffin wedi cael y gorau ar Angus Bell yn ystod sgrymiau’r cyfnod cyntaf – daeth Joe Schmidt â’r profiadol James Slipper i’r maes wedi troi ac fe brofodd hynny i fod yn benderfyniad doeth iawn.

Gyda llai na dau funud o’r ail hanner wedi ei chwarae cafodd y Cymry hwb pellach pan ddangoswyd cerdyn melyn i Samu Kerevi am dacl anghyfreithlon ar Jac Morgan. Uwchraddiwyd y cerdyn hwnnw i gerdyn coch – olygodd bod gan Gymru ddyn o fantais am 20 munud.

Yn anffodus o safbwynt Gymreig, 14 dyn yr ymwelwyr ymatebodd orau i’r sefyllfa a nhw groesodd am gais nesaf y prynhawn. ‘Roedd ail gais y bachwr Faessler wedi 46 munud yn debyg iawn i’w gais cyntaf. Lein, sgarmes gref – cais.

Chwe munud wedi hynny – hawliodd y bachwr ei hatrig yng nghysgod y pyst a’r sgôr hwnnw i bob pwrpas ddiogelodd y fuddugoliaeth i Awstralia.

Matt Faessler yw’r bachwr cyntaf i sgorio tri chais mewn Prawf dros Awstralia.

Crëwyd darn bach o hanes wrth i’r mewnwr Rhodri Williams ddod i’r maes yn lle Ellis Bevan i ennill ei bedwerydd cap a hynny dros ddegawd ers ei gêm ddiwethaf dros ei wlad yn erbyn Yr Alban.

Ond mynd o ddrwg i waeth pethau i’r tîm cartref wedi awr o chwarae, wrth i bas yr eilydd Sam Costelow gael ei rhyng-gipio gan Tom Wright, redodd yn rhwydd am 60 metr i hawlio’i ail gais o’r gêm a chweched ei dîm. Yn dilyn pumed trosiad Noah Lolesio o’r prynhawn, ‘roedd Awstralia wedi cyrraedd y 40 pwynt gyda 21 o’r rheiny wedi eu cofnodi gyda dim ond 14 dyn ar y maes.

Hanerwyd mantais y Wallabies gydag 13 munud yn weddill wrth i Ben Thomas redeg yn gryf ar ongl ddeallus er mwyn sgorio’i gais cyntaf dros ei wlad ac wrth i Costelow ychwanegu’r ddeubwynt.

Ond er holl ymdrechion ac addewid y Cymry bu Awstralia’n ddigyfaddawd ym munudau olaf yr ornest ac fe rwbiodd gais hwyr Len Ikitau a thrydydd Tom Wright gyda symudiad ola’r ornest – halen ym mriwiau’r Crysau Cochion – olygodd bod y Wallabies wedi cofnodi dros hanner cant o bwyntiau yng Nghaerdydd am y tro cyntaf erioed.

Bydd gan Warren Gatland a’i garfan un cyfle arall i sicrhau buddugoliaeth yng Nghyfres yr Hydref eleni – pan fydd Pencampwyr y Byd  De Affrica yn dod i Gaerdydd i ddathlu pen-blwydd ein stadiwm genedlaethol yn 25 oed.

Canlyniad: Cymru 20 Awstralia 52

Dywedodd Capten Cymru, Dewi Lake; “Mae pob un ohonon ni fel chwaraewyr yn rhannu siom pob un o’n cefnogwyr gyda chanlyniad heddiw a’n rhediad diweddar heb ennill. ‘Ry’n ni’n rhoi popeth i mewn i’n perfformiadau ac er nad yw pethau’n mynd ein ffordd ni ar hyn o bryd – ‘rwy’n hyderus y byddwn ni’n gallu newid pethau’n fuan.”

Nododd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Mae’r golled hon yn brifo. ‘Roedd ildio 21 o bwyntiau gyda dyn o fantais yn siom a dyma’r cyfnod anoddaf i mi ei brofi fel hyfforddwr.

“Rwy’n teimlo’n angerddol am rygbi Cymru a fe fyddaf yn parchu unrhyw benderfyniad gaiff ei wneud er lles y gamp yma yng Nghymru.”

Ychwanegodd Seren y Gêm Tom Wright: “Fe chwaraeon ni’n wych am 80 munud heddiw. ‘Roedd ein perfformiad yn gadarn a dyma’r math o gemau y mae’n fraint i fod yn rhan ohonyn nhw. Mae’r ffaith ein bod wedi curo Lloegr yr wythnos ddiwethaf ac wedi curo Cymru heddiw yn dangos ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.”

Related Topics

News