News

Tocynnau Chwe Gwlad Dynion a Menywod Cymru ar werth ddydd Gwener yma

View of the stadium pyrotechnics as the players walk on to the pitch

Bydd tocynnau ar gyfer gemau Cymru ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad Guinness yn Stadiwm Principality a Rodney Parade ar gael i’r cyhoedd eu prynu yfory (dydd Gwener). Bydd timau’r Menywod a’r Dynion yn croesawu Iwerddon a Lloegr yma i Gymru ym Mhencampwriaethau 2025.

Bydd y Dynion a’r Menywod yn wynebu Lloegr yn y brifddinas – a’r gobaith pendant yw y bydd croesawu’r ‘Hen Elyn’ i Stadiwm Principality ar y 29ain o Fawrth yn sicrhau record o dorf i’r Menywod.

Mae disgwyl i docynnau’r Dynion yn erbyn Iwerddon (Sadwrn, 22ain Chwefror) a Lloegr (Sadwrn 15ed Mawrth), werthu’n gyflym a dylai brys mawr fod am docynnau gornest y Menywod yn erbyn y Gwyddelod hefyd – gan mai dim ond lle i 8,700 o bobl sydd yn Rodney Parade, Casnewydd.

I wylio’r Menywod yn herio Lloegr yn Stadiwm Principality mae prisiau cynnig cynnar ar gael –  CAT A (Haen Ganol) £15 Oedolion a £7.50 i rai o dan 18, CAT B (Haen Isaf) £10 i Oedolion a £5 i rai o dan 18, ac i wylio gêm Iwerddon yng Nghasnewydd (Sadwrn 20 Ebrill) mae’r tocynnau i sefyll ar y teras ar gael am £10 i Oedolion a £5 i rai o dan 18.

Mae tocynnau CAT A a CAT D i wylio tîm Dynion Cymru yn erbyn Lloegr bellach wedi’u gwerthu ; felly mae
gweddill y tocynnau ar gael o £80 Oedolion a £40 i rai o dan 18 oed sy’n ostyngiad o 50% i’r bobl ifanc.

Mae galw mawr hefyd eisoes am docynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon gyda llai na 500 o docynnau ar ôl yn CAT D. Gall cefnogwyr fanteisio ar y tocynnau CAT D sy’n weddill am £60 gyda’r holl docynnau eraill ar gael o £80 Oedolion a £40 i rai dan 18 oed

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Stadiwm Principality yw cartref rygbi Cymru wrth gwrs, ac ‘roedd gweld y Menywod yn cloi eu hymgyrch yno’r tymor diwethaf gyda buddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal yn anhygoel.

“Mae’n gam uchelgeisiol i Fenywod Cymru wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality, ond rydym yn hyderus y gallwn guro ein record o dorf unwaith eto ym mis Mawrth.


“Bydd dychwelyd i Rodney Parade ar ôl y fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Awstralia yno’r wythnos ddiwethaf yn hwb enfawr hefyd. 


“Mae gan Ddynion Cymru ddwy gêm anodd iawn wrth gwrs, ond mae’r gemau’n cynnig cyfle gwych i brofi ein hunain yn erbyn y goreuon – yng nghystadleuaeth orau hemisffer y Gogledd. 


“Mae gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn Nghaerdydd yn denu cefnogwyr o   bob cwr o’r byd i’r Brifddinas. Mae’r ffaith mai Iwerddon yw prif ddetholion y byd ar hyn o bryd yn ychwanegu at y cyffro – ac mae ymweliad yr Hen Elyn wastad yn tynnu dŵr i’r dannedd.”


Gwybodaeth am docynnau a phrisiau ar gyfer gemau Chwe Gwlad Guinness 2025 y Dynion


Cymru v Iwerddon, Dydd Sadwrn 22ain Chwefror, Stadiwm Principality: 14:15

CAT A £ 130, CAT B £ 120, CAT C £ 115, CAT D £ 60, Di-Alc £80/Dan 18 £40

Cymru v Lloegr, dydd Sadwrn 15 Mawrth, Stadiwm Principality: 16:45
CAT A £ 130, CAT B £ 120, CAT C £ 115, CAT D £ 60, Di-Alc £80/Dan 18 £40

Tocynnau ar gael: URC. CYMRU/TOCYNNAU

Mae pecynnau lletygarwch Stadiwm Principality ar gael hefyd a gall cefnogwyr sy’n dymuno sicrhau profiad lletygarwch yn Stadiwm Principality ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 ymweld â wru.cymru/vip

Am brofiad Gwely a Brecwast yng Nghwesty’r Parkgate – mae mwy o wybodaeth yma: www.theparkgatehotel.wales

Mae pecynnau lletygarwch swyddogol oddi ar y safle ar gael hefyd drwy gwmni Events International eventsinternational.co.uk ac mae Pecynnau Teithio Swyddogol ar gael trwy Gullivers Sports Travel gulliverstravel.co.uk

Gellir dod o hyd i Gyfnewidfa Swyddogol Cefnogwyr URC ar gyfer tocynnau yma https://welshrugbyticketexchange.seatunique.com

Gwybodaeth am docynnau a phrisiau ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 y Menywod

Cymru v Lloegr, Sadwrn 29ain Mawrth, Stadiwm Principality

CYNNIG CYNNAR (tan 01/01/25) CAT A (haen ganol) £15/£7.50, CAT B (haen isaf) £10/£5

​​Cymru v Iwerddon, Sul 20fed Ebrill, Rodney Parade, Casnewydd


CYNNIG CYNNAR (tan 01/01/25) £10/£5

Tocynnau ar gael drwy URC. CYMRU/TOCYNNAU

Related Topics

Newyddion
News