News

TREIAL AR GYFER YR HER GELTAIDD I’W GYNNAL FIS MEDI

01.01.24 - Gwalia Lightning v Brython Thunder

Bydd Undeb Rygbi Cymru’n cynnal treial fydd yn agored i bod chwaraewr sy’n gymwys i gynrychioli Cymru fis Medi. Bydd pob un sy’n mynychu’r treial yn cael eu hystyried ar gyfer cynrychioli Gwalia Lightning neu Brython Thunder yn yr Her Geltaidd yn nhymor 2024/25.

Gwahoddir chwaraewyr uchelgeisiol i gofrestru ar gyfer y digwyddiad yng Nghanolfan Ragoriaeth Undeb Rygbi Cymru yn Hensol ddydd Sul yr 8fed o Fedi.

Bydd dau dîm yr un o Iwerddon, Yr Alban a Chymru yn chwarae yn erbyn ei gilydd gartref ac oddi-cartref – fydd yn cynnig cyfanswm o ddeg o gemau i bob tîm.

Pwrpas yr Her Geltaidd yw pontio’r cystadlaethau domestig a phroffesiynol yn y tair gwlad sy’n cymryd rhan.

Fe gymrodd chwaraewyr rhyngwladol profiadol Cymru Alex Callender a Natalia John ran amlwg yn y gystadleuaeth y tymor diwethaf – ac yn dilyn eu perfformiadau addawol yn yr Her Geltaidd – aeth Gwennan Hopkins, Sian Jones, Catherine Richards a Molly Reardon ymlaen i ennill eu capiau cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Cofrestrwch eich diddordeb i gymryd rhan yma:

Dywedodd Catrina Nicholas- McLaughlin, Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning: “Fe drefnon ni dreial tebyg cyn y tymor diwethaf yn yr Her Geltaidd ac fe weithiodd hynny’n dda o safbwynt yr hyfforddwyr a’r chwaraewyr.

“Ry’n ni eisiau rhoi’r cyfle i chwaraewyr uchelgeisiol ddangos eu doniau i ni a bydd y broses hon hefyd yn ein galluogi i gynyddu’r niferoedd o chwaraewyr y gallwn ni eu hystyried ar gyfer y gystadleuaeth.

“Y llynedd fe gafodd Rhodd Parry a Katie Jenkins y cyfle i gamu o’r gêm gymunedol i gynrychioli Gwalia Lightning – a bydd cyfle i eraill efelychu hynny eleni.

“Mae’r ffaith fod nifer o chwaraewyr wedi perfformio’n dda yn yr Her Geltaidd y tymor diwethaf ac wedi camu i’r llwyfan rhyngwladol o’r herwydd, yn profi gwerth a safon y gystadleuaeth.

“’Rwy’n disgwyl i nifer o aelodau tîm o dan 20 Cymru i chwarae rhan amlwg unwaith eto eleni – ond ‘ry’n ni wastad yn chwilio am chwaraewyr addawol sydd y tu allan i’r garfan honno. Fe ddylai unrhyw un gyda gwir angerdd ac addewid i gamu i’r llwyfan proffesiynol gofrestru ar gyfer y treial i geisio dal ein llygad.”

Cafodd yr Her Geltaidd ei ffurfio gan undebau rygbi Iwerddon, Yr Alban a Chymru a gyda chefnogaeth World Rugby, mae’n cynnig cystadleuaeth o safon uchel i’r tair gwlad sy’n cymryd rhan.

Hon fydd trydedd tymor y gystadleuaeth ac eleni mae nifer y gemau wedi cael eu hymestyn gan y bydd pob tîm yn chwarae’n erbyn ei gilydd gartref ac oddi-cartref – rhwng Rhagfyr 2024 a Mawrth 2025.

Bydd y treial agored yn cael ei gynnal ddydd Sul yr 8fed o Fedi yng Nghanolfan Ragoriaeth URC yn Hensol, CF72 8JY rhwng 9.00am – 5.00pm.

Er mwyn cofrestru – mae’n rhaid i’r chwaraewyr fod yn gymwys i gynrychioli Cymru ac mae’n rhaid iddynt fod wedi cael eu geni cyn yr 31ain o Ragfyr 2006.

Dyddiad cau: 12.00 ddydd Gwener y 23ain o Awst 2024.

 

Related Topics

News