News

Pedwar cais on colled i'r menywod ifanc yn erbyn yr Hen Elyn

Jess Rogers yn cario'n gryf (Llun gan Ben Brady / Inpho)

Colli yn erbyn Lloegr o 55-24 oedd hanes Menywod o dan 20 Cymru yng Nghyfres Haf y Chwe Gwlad yn Parma nos Iau.

Er yr ail golled hon o’r gystadleuaeth, bydd y Cymry’n falch iawn o agweddau o’u chwarae – yn enwedig y ffaith iddynt sgorio 4 cais yn erbyn un o dimau gorau’r byd ar y lefel yma.

Y blaenasgellwr Lucy Isaac, ac aelodau undeb y rheng flaen – Masie Davies, Cadi-Lois Davies a Molly Wakely hawliodd y ceisiau yng ngwres hwyrnos Parma.

Cafwyd perfformiad hyderus unwaith yn rhagor gan Hanna Marshall ac oni bai am dacl ar yr eiliad olaf, byddai’r maswr wedi croesi am gais unigol cofiadwy.

Rhoi’r cyfle i nifer o chwaraewyr ifanc brofi cystadlu ar y lefel rhyngwladol oedd un o brif amcanion Prif Hyfforddwr y Cymry Liza Burgess cyn teithio i’r Eidal – ac fe wnaeth hi 10 newid i’r tîm gollodd yn yr ornest agoriadol yn erbyn Ffrainc.

Cafwyd perfformiad corfforol gan Gymru – olygodd bod Lloegr yn mynd yn rhwystredig wrth fethu â gosod eu steil eu hunain ar batrwm cyfnod agoriadol y gêm.

Fe roddodd ail gais Isaac o’r gystadleuaeth y Cymry ar blaen yn gynnar – ac yn dilyn trosiad Nel Metcalfe, ‘roedd hi’n 7-0.

Er gwaethaf amddiffyn ymosodol gan Gymru i geisio gwarchod eu mantais – fe groesodd y Saeson am dri chais yn hwyr yn yr hanner cyntaf i’w gwneud hi’n 29-7 wrth droi.

Trödd tri chais Lloegr yn bedwar yn gynnar yr yr ail gyfnod – cyn i Masie Davies a Cadi-Lois Davies ddangos eu cryfder a’u techneg i groesi am eu ceisiau nhw. Hanner ffordd drwy’r ail hanner 34-17 oedd mantais y Saeson.

‘Roedd digon o amser i’r ddau dîm groesi am un cais arall yr un cyn y chwiban olaf. Y bachwr Wakely hawliodd hwnnw i Gymru – yn dilyn hyrddiad campus gan y pac o lein ymosodol. Llwyddodd Metcalfe am yr eildro gyda’r trosiad.

Bydd Cymru’n herio’r Eidal yn eu gêm olaf o’r gystadleuaeth ddydd Sul (14/07/24) am 5.30pm.

Related Topics

International Tournaments CYM
Newyddion
Newyddion Menywod Cymru
News