Mae James Botham o glwb Caerdydd wedi cael ei alw i garfan ymarfer Cymru ar gyfer Gemau Cyfres yr Haf 2024 – sy’n codi nifer y chwaraewyr yn y garfan i 38.
Mae Botham yn gyfarwydd â chwarae ym mhob un o safleoedd y rheng ôl.
Bydd Cymru’n teithio oddi-cartref i wynebu De Affrica yn Twickenham ar yr 22ain o Fehefin cyn teithio i Awstralia ar y 26ain o’r mis er mwyn chwarae dwy gêm brawf yn erbyn y Wallabies ac un ornest yn erbyn y Queensland Reds.
Bydd cadarnhad o’r 34 fydd yn teithio i Awstralia’n cael ei wneud maes o law yn dilyn yr ornest yn erbyn De Affrica.
Related Topics
Newyddion
Teithiau Haf
News