News

Cymry'n cipio'r Cynghrair yn Lloegr cyn ceisio curo Sbaen

Sean Lynn yn dathlu'r fuddugoliaeth

Wrth i Fenywod Cymru edrych ymlaen at yr ornest allweddol yn erbyn Sbaen y Sadwrn hwn, bydd y capten Hannah Jones yn llawn hyder gan bod ei chlwb Hartpury-Caerloyw newydd gadw’u gafael ar goron Uwch Gynghrair yn Lloegr.

Fe groesodd Jones ei hun am bumed cais ei thîm – ac fe ymunodd ei chyd-chwaraewyr Lleucu George, Beth Lewis, Sisi Tuipulotu a Kate Williams gyda hi’n y dathlu wrth i Hartpury-Caerloyw daro’n ôl i drechu Bryste o 36-24 ym Mharc Sandy yng Nghaerwysg.

‘Roedd asgellwr Cymru Courtney Keight wedi rhoi’r dechrau perffaith i Fryste ond doedd dau gais pellach gan ei thîm yn ystod y cyfnod cyntaf ddim yn ddigon i drechu’r Pencampwyr yn y pendraw.

Y Cymro Sean Lynn yw Prif Hyfforddwr Hartpury-Caerloyw ac ‘roedd wedi arwain ei garfan at 14 o fuddugoliaethau mewn 15 gêm yn ystod y tymor arferol. Fe enillon nhw eu rownd gyn-derfynol o’r gemau ail-gyfle’n hawdd o 50 pwynt cyn i Fryste gynnig her a hanner iddyn nhw yn y Ffeinal.

Wedi i Fryste reoli’r cyfnod cyntaf – fe darodd y Pencampwyr yn ôl gan sgorio 26 o bwyntiau heb ymateb.

Gorfoledd felly i’r pump o Gymry yn rhengoedd Hartpury-Caerloyw dros y penwythnos – ond siom i Courtney Keight, Keira Bevan, Alisha Joyce-Butchers a Jenny Hesketh chwaraeodd dros Fryste.

Dod at ei gilydd i gydweithio dros eu gwlad yw eu hanes bellach – yn y gobaith y gall Cymru guro Sbaen ddydd Sadwrn gan hawlio’u lle yn Ail Haen y WXV.

Related Topics

Newyddion
News