Neidio i'r prif gynnwys
Ffeithiau am Ddydd y Farn

Prif Hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel a Ryan Elias, gydag Aaron Wainwright a Dai Flanagan o'r Dreigiau.

Ffeithiau am Ddydd y Farn

DREIGIAU AR DDYDD Y FARN – OEDDECH CHI’N GWYBOD . . . .

Rhannu:
  • Mae tri chwaraewr wedi goroesi o garfan gyntaf y Dreigiau ar Ddydd y Farn yn 2013 i chwarae’r tymor hwn – Dan Lydiate, Taulupe Faletau (Caerdydd) a Sam Parry (Gweilch).
  • Y mewnwr Jonathan Evans sgoriodd y pwyntiau cyntaf dros y Dreigiau ar Ddydd y Farn yn 2013. Fe sgoriodd wedi 36 munud o chwarae ond colli fu ei hanes o 28-20 i’r Scarlets yn y pendraw.
  • Elliot Dee sgoriodd y cais cyflymaf yn hanes Dydd y Farn y llynedd pan diriodd wedi dim ond tri munud yn y fuddugoliaeth dros y Scarlets
  • Clo Cymru, Matthew Screech yw’r unig chwaraewr o ranbarth y Dreigiau i sgorio dau gais mewn gêm ar Ddydd y Farn. Digwyddodd hynny yn y fuddugoliaeth o 34-32 dros y Scarlets yn 2019.
  • Josh Lewis sy’n dal y record am y nifer fwyaf o bwyntiau a sgoriwyd mewn gêm i’r Dreigiau ar Ddydd y Farn (17) yn 2019.
  • Angus O’Brien sydd wedi sgorio’r cyfanswm mwyaf o bwyntiau i’r Dreigiau ar Ddydd y Farn gyda 32.

SCARLETS AR DDYDD Y FARN – OEDDECH CHI’N GWYBOD . . . .

  • Daeth pwyntiau cyntaf yn hanes Dydd y Farn o gic Owen Williams dros y Scarlets yn y 19eg munud o’r fuddugoliaeth o 28-20 dros y Dreigiau yn 2003.
  • Sgoriodd George North y cais cyntaf ar Ddydd y Farn yn y 26ain munud yn yr un gêm.
  • Roedd naw chwaraewr o garfan y Scarlets o’r diwrnod hwnnw yn 2013 yn dal i chwarae’r tymor hwn – Jonathan Davies, Scott Williams (Scarlets), Liam Williams (Japan), George North, Owen Williams (Gweilch), Aled Davies (Saraseniaid), Rhodri Jones, Rhodri Williams (Dreigiau), Josh Turnbull (Caerdydd).
  • Mae’r Scarlets wedi sgorio mwy o geisiau nag unrhyw dîm arall ar Ddydd y Farn – 32. Mae hynny’n eu rhoi saith ar y blaen i’r Gweilch.
  • Yn 2022 sgoriodd y Scarlets chwe chais yn erbyn y Dreigiau – gan efelychu camp y Gweilch yn 2018. Fe sgorion nhw 41 pwynt y diwrnod hwnnw – sy’n parhau’n record yn ystod gemau Dydd y Farn.
  • Mae’r Scarlets wedi sgorio 245 o bwyntiau yn ystod eu 9 gornest ar Ddydd y Farn – sy’n well na’r rhanbarthau eraill ac sy’n cynnig cyfartaledd pwyntiau iddynt o 27.
  • Mae tri chwaraewr wedi sgorio dau gais i’r Scarlets ar Ddydd y Farn – George North 2013, Tadhg Beirne 2018 a Johnny McNichol 2019.
  • Mae 19 pwynt Steve Shingler yn y fuddugoliaeth dros y Dreigiau yn 2016 yn golygu mai ef yw’r sgoriwr pwyntiau uchaf i’r Scarlets mewn gêm ar Ddydd y Farn.

GWEILCH AR DDYDD Y FARN – WYDDOCH CHI . . . .

  • Chwaraewr presennol y Gweilch Owen Williams sgoriodd y pwyntiau cyntaf erioed ar Ddydd y Farn – ond i’r Scarlets yn erbyn y Dreigiau! Ciciodd y cyntaf o’i dair gic cosb a dau drosiad yn y 19eg munud i lywio’r Scarlets i fuddugoliaeth o 28-20 dros ranbarth Gwent.
  • Y capten Justin Tipuric yw’r unig un sydd yn dal i chwarae o garfan wreiddiol y Gweilch o 2013, er bod yr eilydd o brop ar y pryd – Dmitri Arhip yn chwarae i’r Dreigiau erbyn hyn.
  • James King oedd sgoriwr y cais cyntaf i’r Gweilch, pan groesodd yn yr 20fed munud yn Stadiwm Principality yn y fuddugoliaeth o 23-16 dros Gaerdydd.
  • Mae’r Gweilch wedi ennill chwech o’u naw gêm ar Ddydd y Farn – pump yn erbyn Caerdydd ac un yn erbyn y Dreigiau. Maen nhw wedi colli deirgwaith i Gaerdydd.
  • Y Gweilch oedd y tîm cyntaf i sgorio chwe chais mewn gêm ar Ddydd y Farn pan guron nhw Gaerdydd o 40-27 yn 2018. Efelychod y Scarlets y gamp honno yn 2020 yn eu buddugoliaeth o 41-20 yn erbyn y Dreigiau
  • Dan Biggar yw’r unig chwaraewr sydd wedi sgorio pob math posib o bwyntiau personol ar Ddydd y Farn pan hawliodd 21 pwynt yn y fuddugoliaeth o 26-23 dros Gaerdydd yn 2020. Sgoriodd gais, dau drosiad, pedair cic gosb ac enillodd y gêm gyda gôl adlam yn nhri munud olaf yr ornest.
  • 21 pwynt Biggar yw’r sgôr uchaf mewn un gêm gan chwaraewr ar Ddydd y Farn sydd ddeubwynt yn fwy na chyfanswm Jason Tovey i Gaerdydd yn 2022 a Steve Shingler dros y Scarlets yn 2016.
  • Gareth Anscombe sy’n arwain y ffordd gyda’r cyfanswm mwyaf –  gydag 86 – 77 i Gaerdydd a naw i’r Gweilch. Biggar yw’r ail gyda 70.

RYGBI CAERDYDD AR DDYDD Y FARN – WYDDOCH CHI . . .

  • Daeth y cais a’r pwyntiau cyntaf a sgoriwyd i Gaerdydd ar Ddydd y Farn gan Leigh Halfpenny yn ôl yn 2013.
  • Mae Halfpenny’n dal i chwarae (i’r Crusaders yn Seland Newydd), fel y mae ei gyd-chwaraewyr y diwrnod hwnnw Lloyd Williams (Ealing) a Lewis Jones (Dreigiau).
  • Yr wythnos nesaf fydd y 10fed Dydd y Farn. Mae Caerdydd wedi cwrdd â’r Gweilch wyth o weithiau, ac mae’n 5-3 yn y gyfres i’r Gweilch.
  • Jason Tovey sy’n dal y record am sgorio’r nifer fwyaf o bwyntiau dros Gaerdydd mewn gêm ar Ddydd y Farn – 19 yn yr ornest y tu ôl i ddrysau caeedig ym Mharc yr Arfau yn 2020 yn y fuddugoliaeth o 29-20 dros y Gweilch.
  • Gareth Anscombe yw prif sgoriwr Caerdydd ar Ddydd y Farn – gyda chyfanswm o 77 pwynt mewn pum gêm. (3chais 13trosiad 12gôl gosb)
  • Roedd brawd Lopeti Timani, Sione, yn chwarae dros y Scarlets yn ystod achlysur cyntaf Dydd y Farn yn 2013.

DYDD Y FARN 2024 – DYDD SADWRN 1af o FEHEFIN

Scarlets v Dreigiau – 3.00pm

Caerdydd v Gweilch – 5.30pm

Gall cefnogwyr brynu tocynnau YMA

CAT A
Oedolyn: £35
Consesiwn (dros 65 / Myfyrwyr llawn amser): £25
Dan 16: £15

CAT B
Oedolyn: £25
Consesiwn (dros 65 / Myfyrwyr llawn amser): £20
Dan 16: £15

CAT C (Nifer cyfyngedig ar gael)
Oedolyn & Chonsesiwn: £10
Dan 16: £5

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Ffeithiau am Ddydd y Farn
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Ffeithiau am Ddydd y Farn
Ffeithiau am Ddydd y Farn
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Ffeithiau am Ddydd y Farn
Rhino Rugby
Sportseen
Ffeithiau am Ddydd y Farn
Ffeithiau am Ddydd y Farn
Ffeithiau am Ddydd y Farn
Ffeithiau am Ddydd y Farn
Ffeithiau am Ddydd y Farn
Ffeithiau am Ddydd y Farn
Amber Energy
Opro
Ffeithiau am Ddydd y Farn