News

Diweddariad gan Undeb Rygbi Cymru am ddiogelu data

04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Gall Undeb Rygbi Cymru gadarnhau bod ymchwiliad ar y gweill i amheuaeth o dorri diogelwch cyber yng nghyd-destun manylion rhai aelodau o’r clwb cefnogwyr oedd yn cael eu gwarchod gan bartneriaid swyddogol allanol.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn ystyried diogelu data cefnogwyr yn flaenoriaeth ac mae’r Undeb yn y broses o gynnal ymchwiliad trylwyr i’r honiadau sydd wedi eu gwneud ac yn cydweithio’n llwyr gyda gofynion cyflwyno gwybodaeth i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae URC yn credu bod yr honiadau’n berthnasol i un o’i darparwyr gwasanaethau allanol – sydd hefyd yn y broses o gynnal eu hymchwiliad eu hunain i mewn i’r honiadau.

Bellach mae’r holl ddata wedi ei ddileu o’r ffynonnell ar-lein o dan sylw – a gellir cadarnhau nad oes unrhyw gyfrineiriau na gwybodaeth am daliadau wedi eu heffeithio.

Yn dilyn proses drylwyr – nid oes unrhyw weithgareddau amheus eraill wedi eu darganfod yn systemau URC.

Gall Undeb Rygbi Cymru sicrhau eu haelodau a chwsmeriaid y byddant yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa ac yn parhau i ddilyn cyngor arbenigol ei phartneriaid diogelu data er mwyn sicrhau bod arfer da yn parhau i gael ei weithredu yng nghyd-destun diogelu data.

Bydd Undeb Rygbi Cymru yn rhannu unrhyw ddiweddariad pellach am ddatblygiadau yn y cyd-destun hwn. Diolch.

Related Topics

News