Neidio i'r prif gynnwys
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies

Jonathan Davies

Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies

Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi blwyddyn dysteb i ganolwr y clwb Jonathan Davies.

Rhannu:

Mae ‘Foxy’, fel mae’n cael ei adnabod, wedi chwarae 209 o gemau dros y Scarlets dros 16 tymor. Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros y clwb yn erbyn Northampton yn ddeunaw oed nôl yn 2006.

Wedi’i fagu ym Mancyfelin yn Sir Gaerfyrddin, chwaraeodd Jonathan i Sanclêr a Hendy-gwyn cyn iddo ymuno ag Academi’r Scarlets a mynd ymlaen i fod yn un o ganolwyr mwyaf blaenllaw’r byd rygbi.

DFP – Leaderboard

Bu ar daith gyda’r Llewod ddwywaith – i Awstralia (2013) a Seland Newydd (2017), lle cafodd ei enwi’n chwaraewr y gyfres yn y frwydr epig yn erbyn y Crysau Duon. Mae hefyd wedi chwarae 96 o gemau dros Gymru, gan ennill dwy Gamp Lawn. Fe chwaraeodd mewn dwy gystadleuaeth Cwpan y Byd yn Seland Newydd (2011) a Japan (2019). Yn ystod ei amser gyda Chymru, fe gafodd Jonathan yr anrhydedd o gapteinio’r tîm cenedlaethol ar bedwar achlysur.

Ar ôl treulio cyfnod yn Ffrainc gyda Clermont Auvergne, dychwelodd i’w glwb gartref ar gyfer tymor 2016-17 a chwaraeodd ran allweddol wrth i’r Scarlets ennill teitl Pencampwriaeth Deuddeg Disglair Guinness yn Nulyn y tymor hwnnw.

Dywedodd Jonathan Davies: “Fedrwn i byth fod wedi dychmygu pan o’n i’n blentyn yn rhedeg mas ar  Barc y Strade ar ôl y chwiban olaf, yn ceisio cael cymaint o lofnodion chwaraewyr ag y gallwn, y byddwn i’n ddigon ffodus i ddod yn chwaraewr fy hun a chwarae i’r Scarlets dros 200 o weithiau,” meddai.

“Dwi wedi creu atgofion na fyddaf byth yn eu hanghofio wrth wisgo crys enwog y Scarlets. O guro Gwyddelod Llundain yn y Madjeski yn Ewrop, lle’r oedd y gefnogaeth yn aruthrol, i fy hoff foment, yn ennill y cynghrair yn 2016-17 gyda fy nghyd-chwaraewyr  oedd hefyd yn ffrindiau.

Jonathan Davies gyda thlws y Pro 12 yn Nulyn.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Scarlets am eu holl gefnogaeth dros y blynyddoedd ac am roi’r flwyddyn dysteb yma i mi.”

Mae’r flwyddyn dysteb yn digwydd o fis Mehefin 2024 tan fis Mai 2025 ac mae digwyddiadau wedi’u trefnu yn Llanelli, Caerdydd, Llundain a Dubai. Bydd y flwyddyn dysteb hefyd yn cefnogi elusen ddewisol Jonathan, LATCH, sy’n darparu cymorth i blant a’u teuluoedd sy’n cael eu trin gan yr Uned Oncoleg yn Ysbyty Plant Cymru.

Dywedodd Tim Griffiths, Cadeirydd pwyllgor tysteb Jonathan: “Rwyf wrth fy modd ac yn falch o fod yn gadeirydd pwyllgor tysteb Jon. Mae Jon wedi bod yn bencampwr ein gêm genedlaethol; un o fawrion y gêm fodern yng Nghymru, sydd wedi cyflawni cymaint dros y Scarlets, Cymru a’r Llewod.

“Edrychwn ymlaen at ddathlu’r llwyddiannau hynny yn ystod blwyddyn gyffrous, wrth godi arian ar gyfer gwaith gwych LATCH.”

Ychwanegodd Cadeirydd Gweithredol y Scarlets, Simon Muderack: “Dymunwn y gorau i Jon ar ei flwyddyn dysteb, Mae’n chwaraewr sydd wedi rhoi cymaint i’r gêm, yn orllewinwr balch a ddaeth yn un o ganolwyr gorau byd.”

Siya Kolisi Capten De Affrica a Jonathan Davies

Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Mae Jonathan Davies wedi bod yn un o weision mwyaf ffyddlon a gorau rygbi Cymru. Ar ei anterth bu’n un o’r canolwyr gorau yn y byd  ac mae’n dal i ddiddanu cefnogwyr Parc y Scarlets gyda’i ddoniau.

“Yn sicr, yn ystod taith lwyddiannus y Llewod i Awstralia yn 2013, roedd pawb yn gwybod ei fod yn un o’r enwau cyntaf yn y tîm ac mae Warren Gatland wedi ei enwi’n gyson, ers hynny, fel un o’r chwaraewyr gorau y mae wedi’i hyfforddi erioed. .

“Mae Jonathan yn glod i’w wreiddiau, i’w deulu ac i ysgolion a hyfforddwyr ei ieuenctid.

“Mae’n unigolyn hynod wylaidd ac mae’n haeddu pob clod ddaw yn ei flwyddyn dysteb gyda’i annwyl Scarlets.”

Bydd y digwyddiad cyntaf  JD13, sef cinio yn Lolfa Quinnell ym Mharc y Scarlets, yn cael ei gynnal ym mis Mehefin  fydd hefyd yn cefnogi Sefydliad Phil Bennett.

Bydd gwybodaeth lawn am y digwyddiad hwnnw yn dilyn maes o law.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies
Rhino Rugby
Sportseen
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies
Amber Energy
Opro
Y Scarlets yn cynnig blwyddyn dysteb i Jonathan Davies