Neidio i'r prif gynnwys
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc

Ioan Cunningham - Prif Hyfforddwr Cymru

Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc

Mae’r Prif Hyfforddwr Ioan Cunningham wedi enwi tîm Cymru ar gyfer eu trydedd gêm ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yn erbyn Iwerddon.

Rhannu:

Bydd yr ornest yn cael ei chynnal ar Barc Virgin Media yn ninas Corc, ddydd Sadwrn y 13eg o Ebrill gyda’r gic gyntaf am 4.45pm.

Mae Ioan Cunningham wedi gwneud pedwar newid o’r tîm ddechreuodd yn erbyn Lloegr ym Mryste yn Rownd 2.

DFP – Leaderboard

Mae cysondeb yng nghanol cael wrth i’r capten Hannah Jones bartneru Kerin Lake unwaith eto.

Yn dilyn ei hanaf, mae Jasmine Joyce yn dychwelyd ar yr asgell ac yn ymuno gyda Carys Cox a Jenny Hesketh yn y tri ôl.

Yn dilyn ei chais unigol yn erbyn Lloegr, Keira Bevan sydd wedi ei dewis yn fewnwr gyda Lleucu George yn parhau yn safle’r maswr.

Sisilia Tuipulotu, Carys Phillips a Gwenllïan Pyrs fydd rheng flaen Cymru, gydag Abbie Fleming a Georgia Evans y tu ôl iddynt yn yr ail reng.

Yr is-gapten Alex Callender, Alisha Butchers a Bethan Lewis sydd wedi eu dewis yn y rheng ôl.

Mae Gwennan Hopkins wedi ei henwi ar y fainc – ac os y caiff ei galw i’r maes, hi fydd y pedwerydd chwaraewr i gynrychioli Cymru am y tro cyntaf yn ystod y Bencampwriaeth eleni.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’r wythnos heb gêm wedi bod yn werthfawr i ni gan ein bod wedi cael y cyfle i ddadansoddi ein perfformiadau ac i asesu hynny’n onest ac yn adeiladol.

“Ry’n ni wedi canolbwyntio ar weithio’n galed, yn enwedig felly ar ambell agwedd y bydd yn rhaid i ni gryfhau yn erbyn y Gwyddelod – ond hefyd ar lawer o bethau positif ‘ry’n ni wedi eu gwneud yn ystod y ddwy gêm gyntaf.

“Fe berfformion ni’n dda yn erbyn y Saeson – ond mae’n rhaid i ni gymryd mwy o’r cyfleon ‘ry’n ni’n eu creu yn erbyn Iwerddon.

“Mae cael chwaraewr o safon Jazz ar gael i ni unwaith eto’n hwb enfawr. Mae ganddi’r ddawn a’r profiad i boeni’r Gwyddelod. Mae Sisilia’n cael ei chyfle i ddechrau’r wythnos hon ac mae’r gystadleuaeth rhyngddi hi a Donna Rose am safle’r prop pen tynn yn elwa’r ddwy ohonyn nhw a’r tîm yn gyffredinol hefyd.

“Mae’r un peth yn wir am safle’r mewnwr gyda Keira Bevan a Sian Jones. Er i Sian wneud yn dda unwaith eto, fe ddangosodd Keira y dylanwad sydd ganddi yn erbyn Lloegr ac felly mae hi wedi cael ei dewis i ddechrau’r tro hwn.

“Gwnaeth Alisha wahaniaeth pan ddaeth hi o’r fainc yn Ashton Gate hefyd ac mae hi’n haeddu cael ei chyfle i ddechrau’r gêm hon yn y rheng ôl.

“Does dim amheuaeth bod Gwennan Hopkins yn llawn haeddu ei chyfle ar y fainc. Mae’r tîm hyfforddi yn edrych ymlaen yn fawr at weld beth y gall hi ei wneud ar y llwyfan rhyngwladol.

“Bydd curo Iwerddon ar eu tomen eu hunain yn dipyn o her – ond yn her ‘ry’n ni’n ni’n edrych ymlaen ati’n fawr. ‘Ry’n ni gyd yn benderfynol y gwelwn ni berfformiad o safon gan y garfan – perfformiad y bydd pawb yn falch ohono.”

CYMRU i herio Iwerddon ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024

Jenny Hesketh, Jasmine Joyce, Hannah Jones (Capten), Kerin Lake, Carys Cox, Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Georgia Evans, Alisha Butchers, Alex Callender (Is-gapten), Bethan Lewis.

Eilyddion: Molly Reardon, Abbey Constable, Donna Rose, Natalia John, Gwennan Hopkins, Sian Jones, Kayleigh Powell, Courtney Keight.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc
Rhino Rugby
Sportseen
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc
Amber Energy
Opro
Pedwar newid i dîm Cymru i herio Iwerddon yng Nghorc