Neidio i'r prif gynnwys
Merched o dan 18 Cymru’n curo’r Eidal wrth gloi Gŵyl y Chwe Gwlad

Merched o dan 18 Cymru wedi'r chwiban olaf.

Merched o dan 18 Cymru’n curo’r Eidal wrth gloi Gŵyl y Chwe Gwlad

Buddugoliaeth i Ferched o dan 18 oed Cymru wedi iddynt drechu’r Eidal yn eu gêm olaf yng Ngŵyl y Chwe Gwlad yn Stadiwm CSM Bae Colwyn gan guro 41-22

Rhannu:

Wedi iddynt guro’r Alban a cholli yn erbyn Iwerddon, Lloegr a Ffrainc mewn gemau byr yn ystod yr wythnos – hon oedd yr ornest gyflawn gyntaf o’r ŵyl i garfan Siwan Lillicrap.

Ar brynhawn Gwyntog ym Mae Colwyn roedd Cymru yn gobeithio gorffen gŵyl y Chwe gwlad ar nodyn positif. Yr Eidal ddechreuodd y gêm orau gyda Cheli Chiara yn sgorio’r cais cyntaf o’r gêm. Ychwanegodd Alia Bitonci bwyntiau ychwanegol gyda’r trosiad i roi Eidal saith pwynt ar y blaen.

DFP – Leaderboard

Mi wnaeth tîm Lilicrap ymateb yn syth gyda’r capten, Branwen Metcalfe yn tirio. Wedi trosiad llwyddiannus Hanna Marshall roedd y sgôr yn gyfartal.

Parhaodd Cymru ar y droed flaen ac ar ôl pasio gwych ganddynt – llwyddon nhw i gael y bêl allan i’r asgell i Saran Jones sgorio ei chais cyntaf o’r gêm. Sgoriodd Branwen Metcalfe ei ail chais o’r gêm ar ôl sgarmes symudol bwerus gan y Cymry.

Cyfle’r Eidal oedd hi i sgorio nesaf gyda Vittoria Francolini yn croesi’r gwyngalch gan gau’r bwlch i bum pwynt rhwng y ddau dîm cyn hanner amser.

Dechreuodd y tîm cartref yr ail hanner yn dda. Cafodd Elisa Cecati ei chosbi am dacl uchel ac ar ôl cyfnod o bwyso cafodd Evie Hill gais cyntaf Cymru o’r ail hanner.

Aeth Cymru ymhellach ar y blaen ddwy funud yn ddiweddarach gyda Hannah Lane yn defnyddio ei chyflymder i sgorio cais unigol arbennig. Roedd y canolwr ymysg y ceisiau unwaith eto ddeg munud yn ddiweddarach.

Parhaodd tîm Diego Saccã i ymosod a chawson nhw ei gwobrwyo gyda Cheli Chiara yn sgorio ei ail chais o’r gêm.

Gyda 9 munud ar ôl ar y cloc – dangosodd Saran Jones ei chyflymder wrth iddi rhyng-gipio’r bêl a tirio yn y gornel.

Sgoriodd Alice Antonazzo gais olaf y gêm i’r Eidal gyda pum munud ar ôl o’r gêm.

Perfformiad gwych gan garfan Siwan Lilicrap a ffordd arbennig o orffen gŵyl y Chwe Gwlad.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Merched o dan 18 Cymru’n curo’r Eidal wrth gloi Gŵyl y Chwe Gwlad
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Merched o dan 18 Cymru’n curo’r Eidal wrth gloi Gŵyl y Chwe Gwlad
Merched o dan 18 Cymru’n curo’r Eidal wrth gloi Gŵyl y Chwe Gwlad
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Merched o dan 18 Cymru’n curo’r Eidal wrth gloi Gŵyl y Chwe Gwlad
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Merched o dan 18 Cymru’n curo’r Eidal wrth gloi Gŵyl y Chwe Gwlad