Mae’r clo profiadol Abbie Fleming yn credu’n gryf y gall Menywod Cymru hawlio eu buddugoliaeth gyntaf o’r Bencampwriaeth eleni wrth drechu Iwerddon y penwythnos hwn.
Tra bod colli gartref yn erbyn Yr Alban wedi bod yn siom yng ngêm gynta’r ymgyrch, ‘roedd perfformiad Cymru’n erbyn Lloegr yn dangos gwir addewid. Er mwyn cael unrhyw obaith o efelychu camp y tymor diwethaf o orffen yn y trydydd safle – mae curo Iwerddon yng Nghorc y penwythnos yma’n gwbl angenrheidiol.
Dywedodd Abbie Fleming: “Mae gennym bac cryf ac ‘ry’n ni’n credu y gallwn ddefnyddio hynny’n effeithiol yn erbyn y Gwyddelod ddydd Sadwrn.
“Mae’r dyfnder yn ein carfan yn cryfhau sy’n golygu bod gennym ferched ar y fainc erbyn hyn sy’n gallu dylanwadu ar y chwarae pan maen nhw’n cael eu galw i’r maes.
“Ry’n ni gyd yn siomedig ein bod wedi colli’r ddwy gêm gyntaf – yn enwedig felly’n erbyn Yr Alban – ond ‘roedd digon o addewid yn ein perfformiad yn erbyn Lloegr i gynnig gwir obaith a hyder i ni.
“Mae’r hyder hwnnw wedi bod yn amlwg wrth i ni ymarfer ers yr ornest yn Ashton Gate.”
Mae rygbi menywod yn Iwerddon wedi cryfhau’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac fel Cymru – mae gan nifer fawr o’r garfan bresennol gytundebau proffesiynol bellach.
Mae canran uchel o’r garfan hefyd wedi bod yn cystadlu yn yr Her Geltaidd a’r Gwyddelod enillodd y WXV3 yn ddiweddar.
Er iddynt golli o 38-17 yn Ffrainc yn eu gêm agoriadol yn y Chwe Gwlad eleni – ‘roedd nifer wedi darogan colled dipyn trymach na hynny cyn y gic gyntaf – sy’n arwydd o ddatblygiad diweddar y garfan.
Yn eu hail gêm o’r Bencampwriaeth – fe sicrhawyd pwynt bonws wrth golli o 27-21 yn erbyn Yr Eidal yn Nulyn o flaen torf arbennig o 6,505.
‘Roedd tîm Sam Monahan ar ei hôl hi o 15 pwynt gydag 20 munud yn weddill – ond wrth berfformio’n gryf yn ystod y chwarter olaf – fe sicrhawyd y pwynt bonws gwerthfawr hwnnw wrth orffen o fewn chwe phwynt i’r Eidalwyr.
Er bod Iwerddon bellach wedi colli eu 7 gêm ddiwethaf yn y Bencampwriaeth does dim amheuaeth eu bod yn cryfhau fel carfan ac y byddant yn cynnig gwir her i Gymru ddydd Sadwrn.
Ychwanegodd Abbie Fleming:”Er bod Iwerddon wedi cryfhau ymysg eu blaenwyr – ein bwriad ni yw defnyddio ein goruchafiaeth yn yr agweddau hynny o chwarae i sicrhau ein bod ar y droed flaen.
“Byddwn wedyn yn gallu lledu’r bêl a dangos ein doniau ymosodol fydd gobeithio yn sicrhau ein buddugoliaeth gyntaf o’r Chwe Gwlad eleni.”