Neidio i'r prif gynnwys
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues

Dim byd i'w golli yn erbyn Ffrainc medd Ioan Cunningham.

Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues

Mae’r Prif Hyfforddwr Ioan Cunningham wedi enwi tîm Cymru ar gyfer eu pedwaredd gêm ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yn erbyn Ffrainc.

Rhannu:

Bydd yr ornest yn cael ei chynnal ar Barc yr Arfau, Caerdydd, ddydd Sul yr 21ain o Ebrill gyda’r gic gyntaf am 3.15pm.

Mae Ioan Cunningham wedi gwneud pum newid o’r tîm ddechreuodd yn erbyn Iwerddon ym Mharc Virgin Media, Corc, yn y Drydedd Rownd o gemau, yn ogystal â dau newid safle ychwanegol.

DFP – Leaderboard

Bydd yr asgellwr Catherine Richards, yn cynrychioli ei gwlad am y tro cyntaf brynhawn Sul. Hi fydd y pumed chwaraewr i ennill ei chap cyntaf dros Gymru yn ystod Pencampwriaeth eleni.

Y maswr Mollie Wilkinson fydd y chweched – os y caiff hi ei galw o’r fainc.

Ymysg yr olwyr – Hannah Jones fydd yn arwain y tîm unwaith eto gyda Carys Cox yn symud o’r asgell i’w phartneru yng nghanol cae.

Bydd Kayleigh Powell yn dechrau gêm ym Mhencampwriaeth eleni am y tro cyntaf a hynny yn safle’r cefnwr. Dyma fydd y tro cyntaf iddi ddechrau dros Gymru ers y gêm yn erbyn Seland Newydd yng Nghwpan y Byd 2022.

Y dilyn dau ymddangosiad cadarn oddi ar y fainc yn ystod y ddwy ornest ddiwethaf – mae Courtney Keight yn cael y cyfle i ddechrau ar yr asgell ddydd Sul.

Sian Jones a Lleucu George sydd wedi eu dewis fel haneri yn erbyn y Ffrancod.

Mae saith o’r pac gollodd yn Iwerddon y Sadwrn diwethaf yn dechrau eto’r penwythnos hwn. Daw Natalia John i mewn i bartneru Abbie Fleming yn yr ail reng – tra bo Georgia Evans yn symud o’i safle arferol fel clo i safle’r wythwr, i gydweithio gydag Alisha Butchers a’r is-gapten Alex Callender.

Gwenllïan Pyrs, Carys Phillips a Sisilia Tuipulotu fydd yn dechrau yn y rheng flaen unwaith yn rhagor.

Dwy gêm gartref sydd gan Gymru i gloi’r Bencampwriaeth eleni. Chwe niwrnod wedi iddynt groesawu Ffrainc i Barc yr Arfau bydd y Crysau Cochion yn symud i Stadiwm Principality i herio’r Eidalwyr. Dyma fydd y tro cyntaf erioed i dîm y Menywod chwarae yn y Stadiwm pan nad yw’r dynion yn cystadlu yno ar yr un diwrnod.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham: “Mae Ffrainc yn un o dimau gorau’r byd ac maen nhw’n mynd i gynnig her gwirioneddol i ni.

“Nhw fydd y ffefrynnau i ennill ddydd Sul ond ‘ry’n ni wedi edrych yn hir ac yn galed ar ein hunain ers colli’n erbyn Iwerddon. Mae’r golled honno wedi digwydd ac mae’n rhaid i ni gydnabod bod yn rhaid i ni wella’r penwythnos yma. ‘Ry’n ni angen perfformio’n dda ym Mharc yr Arfau o flaen ein cefnogwyr ein hunain.

“Mae’r gêm yma’n cynnig y cyfle i ni ddangos ein bod yn dîm da – yn garfan gref. ‘Does gennym ddim byd i’w golli.

“‘Dwi wedi dewis tîm cryf fydd gobeithio’n dangos ein cryfderau a’n doniau – tîm fydd yn gallu wynebu her sylweddol Ffrainc yn effeithiol.

“Mae Catherine Richards wedi bod yn amyneddgar yn disgwyl am ei chyfle. Mae hi’n llawn haeddu cael ei dewis wedi iddi berfformio’n gryf yn yr Her Geltaidd ac yn yr Uwch Gynghrair yn Lloegr. Catherine fydd y pumed cap newydd o’n hymgyrch hyd yma sy’n dangos bod gennym gryfder a thalent ifanc cyffrous yn ein carfan erbyn hyn.

“Mae Kayleigh a Courtney wedi creu argraff o’r fainc yn y gemau diwethaf ac felly’n haeddu eu cyfle nhw o’r dechrau’n deg y penwythnos yma.”

CYMRU i herio Ffrainc ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024

Kayleigh Powell, Catherine Richards, Hannah Jones (Capten), Carys Cox, Courtney Keight, Lleucu George, Sian Jones; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Natalia John, Alisha Butchers, Alex Callender (Is-gapten), Georgia Evans.

Eilyddion: Molly Reardon, Abbey Constable, Donna Rose, Kate Williams, Gwennan Hopkins, Keira Bevan, Mollie Wilkinson, Jasmine Joyce.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues
Rhino Rugby
Sportseen
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues
Amber Energy
Opro
Cunningham yn gwneud nifer o newidiadau i herio Les Bleues