Neidio i'r prif gynnwys
Colled hwyr a chreulon yn erbyn Lloegr i fechgyn o dan 18 Cymru

Lloegr yn dangos eu grym yn Parma. (Llun gan Federico Zovadelli/Actionpress)

Colled hwyr a chreulon yn erbyn Lloegr i fechgyn o dan 18 Cymru

Colli mewn modd hynod greulon o 36-35 fu hanes tîm o dan 18 Cymru yn erbyn Lloegr yng Ngŵyl y Chwe Gwlad yn Parma ddydd Sadwrn o ganlyniad i drosiad James Linegan gyda chic olaf y gêm.

Rhannu:

Er i fechgyn Richie Pugh fod ar ei hôl hi ddwywaith yn ystod y cyfnod cyntaf, ‘roedden nhw ar y blaen o 21-19 wrth droi a phan groesodd y capten Steffan Emanuel yn fuan wedi troi, ‘roedd pethau’n edrych yn addawol i’r Cymry.

Croesodd Tom Bevan am gais i’r Crysau Cochion hefyd ond methiant fu eu hymdrechion i dorri’n rhydd o grafangau’r Saeson.

DFP – Leaderboard

Un sgôr oedd ynddi yn yr eiliadau olaf pan lwyddodd George Knowles i ddod â’i dîm yn ôl o fewn pwynt – a phan lwyddodd Linegan gyda’r trosiad – amddifadwyd y Cymry o’u buddugoliaeth gyntaf yn erbyn yr Hen Elyn ar y lefel yma ers 2018.

Dywedodd Richie Pugh: “Ni oedd y tîm gorau heddiw – ond yn anffodus ‘dyw hynny ddim yn cael ei ddangos ar y sgorfwrdd nac yn y llyfrau hanes.

“Mae’n rhaid i ni baratoi’n drylwyr ar gyfer gêm Portiwgal ddydd Mercher ac wedi hynny bydd y Ffrancod yn cynnig her a hanner i ni. Maen nhw’n arbennig o dda ar hyn o bryd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Colled hwyr a chreulon yn erbyn Lloegr i fechgyn o dan 18 Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Colled hwyr a chreulon yn erbyn Lloegr i fechgyn o dan 18 Cymru
Colled hwyr a chreulon yn erbyn Lloegr i fechgyn o dan 18 Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Colled hwyr a chreulon yn erbyn Lloegr i fechgyn o dan 18 Cymru
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro