Neidio i'r prif gynnwys
Cais a chap cyntaf i Hopkins ond colled drom i’r Cymry yn Iwerddon

Fe sgoriodd Hopkins ei chais lai na phum munud wedi iddi ddod i'r maes.

Cais a chap cyntaf i Hopkins ond colled drom i’r Cymry yn Iwerddon

Chwarae tair a cholli tair yw record Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yn dilyn eu colled siomedig o 36-5 yn erbyn Iwerddon yng Nghorc.

Rhannu:

Er i ferched Ioan Cunningham chwalu’r Gwyddelod o 31-5 y tymor diwethaf – talwyd y pwyth yn ôl yn ddi-ffuant yn Stadiwm Virgin Media wrth i’r hyfforddwr Scott Bemand brofi ei lwyddiant cyntaf yn y Bencampwriaeth. Colli chwe gêm ryngwladol o’r bron yw hanes Cymru bellach wrth iddynt iddynt ildio pump o geisiau yn heulwen Corc.

Er i Carys Phillips fygwth gwyngalch y Gwyddelod o fewn y ddau funud agoriadol, bu’n rhaid aros tan y 14eg munud am sgôr agoriadol y gêm pan hyrddiodd y blaenasgellwr Aoife Wafer ei hun dros linell gais y Cymry i dirio’r cais cyntaf. Trosodd Dannah O’Brien yn gampus o’r ystlys.

DFP – Leaderboard

Dair blynedd yn ôl fe enillodd Eve Higgins ei chap cyntaf yn erbyn Cymru ac wrth i chwarter agoriadol yr ornest ddirwyn i ben fe agorodd y canolwr y bwlch rhwng y ddau dîm ymhellach wrth iddi groesi yng nghysgod y pyst. Gwaith tipyn haws oedd gan O’Brien i drosi y tro hwn.

Y bachwr Neve Jones sgoriodd drydydd cais y Gwyddelod o’r cyfnod cyntaf wedi 26ain munud gan dirio ei 9fed cais rhyngwladol yn y broses. Parhau wnaeth cicio cywir Dannah O‘Brien i roi matais o 21 pwynt i’w thîm wrth droi.

Hanner Amser Iwerddon 21 Cymru 0

Pe byddai Iwerddon wedi cael eu llorio’r prynhawn yma – byddent wedi colli wyth gêm o’r bron yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf yn eu hanes – ond gyda llai na dau funud o’r ail hanner wedi ei chwarae – sicrhawyd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws i’r tîm cartref.

Wrth i Lleucu George geisio codi’r pwysau o’i dwy ar hugain ei hun – fe darwyd ei chic i lawr ac fe groesodd yr asgellwr Katie Corrigan yn orfoleddus o dan y pyst am ei hail gais ar y llwyfan rhyngwladol.

Nid dim ond y golled fydd wedi siomi Ioan Cunningham a’i dîm hyfforddi ond camgymeriadau cyson y Crysau Cochion hefyd. Yn dilyn camsefyll yng nghanol cae, hawliodd O’Brien ei 11eg pwynt o’r prynhawn gan barhau gyda’i record 100% wrth anelu tuag at y pyst. Golygodd hynny  bod mantais y Gwyddelod yn fwy na’r hyn oedd gan y Cymry ym Mharc yr Arfau flwyddyn yn ôl – ac ‘roedd hi’n amlwg o ymateb chwaraewyr Iwerddon eu bod yn ymwybodol o hynny hefyd.

Collodd y Cymry bum lein ar eu tafliad eu hunain yn ystod yr ornest a gwaethygu ymhellach wnaeth pethau o safbwynt y Cymry wedi awr o chwarae wrth i’r asgellwr chwith Beibhinn Parson’s goroni symudiad gorau’r prynhawn i hawlio pumed cais ei gwlad. ‘Doedd y ffaith i O’Brien fethu’r trosiad yn fawr o gysur i’r ymwelwyr.

‘Roedd y Gwyddelod yn llawn haeddu eu buddugoliaeth swmpus, sy’n gadael y Cymry ar waelod tabl y Bencampwriaeth gyda dim ond un pwynt bonws wedi tair gêm.

Er y golled drom hon yn ninas Corc – bydd Gwennan Hopkins yn cofio chwarter olaf y gêm am weddill ei dyddiau gan iddi ennill ei chap cyntaf dros ei gwlad a chroesi am ei chais rhyngwladol cyntaf gwta bedwar munud wedi iddi ddod i’r maes. Fe ddangososdd yr wythwr ifanc gryfder ac aeddfedrwydd wrth wneud yn siwr ei bod hi’n tirio’n gywir am unig bwyntiau ei gwlad o’r prynhawn.

Trydedd colled siomedig i Ioan Cunningham a’i garfan.

Parhau felly mae record anffodus y Cymry o ennill dim ond ddwywaith ar dir Iwerddon yn y Chwe Gwlad – ac yn dilyn y golled drom hon – mae gobeithion carfan Ioan Cunningham o gystadlu’n y WXV1 eleni wedi pylu’n sylweddol.

Bydd gan Gymru y fantais o chwarae gartref yn eu dwy gêm olaf o’r Bencampwriaeth eleni. Byddant yn croesawu Ffrainc i Barc yr Arfau ddydd Sul nesaf – cyn herio’r Eidal yn Stadiwm Principality y Sadwrn canlynol.

Canlyniad Iwerddon 36 Cymru 5

Yn dilyn y golled dywedodd Hannah Jones Capten Cymru: “Mae’r golled yna’n gwneud loes. Wnaethon ni ddim troi lan heddiw ac mae llawer iawn o waith i’w wneud. ‘Roedd heddiw yn anodd ac yn siomedig iawn.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cais a chap cyntaf i Hopkins ond colled drom i’r Cymry yn Iwerddon
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cais a chap cyntaf i Hopkins ond colled drom i’r Cymry yn Iwerddon
Cais a chap cyntaf i Hopkins ond colled drom i’r Cymry yn Iwerddon
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cais a chap cyntaf i Hopkins ond colled drom i’r Cymry yn Iwerddon
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cais a chap cyntaf i Hopkins ond colled drom i’r Cymry yn Iwerddon