News

50 diwrnod tan Ddydd y Farn

04.02.23 - Wales v Ireland - Guinness Six Nations - Prematch pyrotechnics at Principality Stadium

Mewn Hanner Cant o ddyddiau bydd Dydd y Farn yn digwydd – diwrnod mawr i’r teulu i gyd – pan fydd y pedwar rhanbarth o Gymru yn chwarae ar yr un diwrnod – yn yr un lle. Bydd y gemau yn Rownd 18 o Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT rhwng y Scarlets a’r Dreigiau ac yna […]

Mewn Hanner Cant o ddyddiau bydd Dydd y Farn yn digwydd – diwrnod mawr i’r teulu i gyd – pan fydd y pedwar rhanbarth o Gymru yn chwarae ar yr un diwrnod – yn yr un lle.

Bydd y gemau yn Rownd 18 o Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT rhwng y Scarlets a’r Dreigiau ac yna Caerdydd yn erbyn y Gweilch ar Fehefin y 1af yn tynnu dŵr i’r dannedd.

Bydd deiliaid tocynnau tymor y ddau glwb cartref – sef y Scarlets a Chaerdydd – yn cael mynediad i’r ddwy gêm a bydd modd iddynt brynu tocynnau ychwanegol ar gyfer y gemau hefyd – fel y gallant eistedd gyda ffrindiau neu deulu. Bydd y ddau ranbarth yn rhannu gwybodaeth pellach am y ddarpariaeth ar gyfer deiliaid tocyn tymor.

Cofiwch fwynhau y ddwy ornest gyffrous – Scarlets v Dreigiau (15.00) a Chaerdydd v Gweilch (17.15).

Dydd y Farn – Prisiau Tocynnau – Ar gael yma : https://www.cardiffcitystadiumevents.co.uk/

SCARLETS v DREIGIAU & CAERDYDD v GWEILCH

CAT A
Oedolyn: £35
Gostyngiad: (Dros 65 oed/Myfyrwyr Llawn Amser): £25
O dan16: £15

CAT B
Oedolyn: £25
Gostyngiad: (Dros 65 oed/Myfyrwyr Llawn Amser): £20
O dan 16: £15

CAT C (Nifer Cyfyngedig ar Gael)
Oedolyn & Gostyngiad: £10
O dan 16 : £5

Related Topics

Dreigiau
Gleision
Newyddion
Scarlets CY
Y Gweilch
News