Neidio i'r prif gynnwys
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn Stadiwm Principality

Mae Warren Gatland wedi gwneud ambell newid cyn herio Ffrainc ddydd Sul.

Tîm Cymru i herio Ffrainc yn Stadiwm Principality

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi ei dîm i herio Ffrainc ym mhedwaredd rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 ddydd Sul y 10fed o Fawrth. (3pm yn fyw ar S4C a’r BBC).

Rhannu:

Mae’r capten Dafydd Jenkins wedi ei enwi ar ochr dywyll y rheng ôl sy’n creu lle i Will Rowlands ddechrau ei gêm gyntaf o Bencampwriaeth eleni yn yr ail reng. Adam Beard yw’r clo arall.

Mae Ryan Elias wedi ei enwi’n fachwr a bydd yn dechrau ei ail gêm o’r ymgyrch.

DFP – Leaderboard

Bydd Joe Roberts yn ennill ei ail gap rhyngwladol ddydd Sul a’i bartner yng nghanol cae fydd Owen Watkin.

Ymhlith yr eilyddion – mae’r bachwr Elliot Dee yn debygol o ennill ei 50fed cap ac mae’r mewnwr Gareth Davies wedi ei gynnwys yng ngharfan y gêm unwaith eto.

Dywedodd Warren Gatland: “Mae ambell newid yr wythnos hon gan bod rhai chwaraewyr yn haeddu cael cyfle a munudau ar y maes.

“Does dim amheuaeth y bydd y gêm yr arbennig o gorfforol – yn enwedig felly ymhlith y blaenwyr. Bydd Ffrianc yn bendant yn ceisio dechrau’r gêm ar garlam ac yn hynod galed hefyd.

“Bydd yn rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ni’n gorfforol, yn gyflym ac yn ddisgybledig o’r chwiban gyntaf. Unwaith eto ry’n ni’n edrych am berfformiad 80 munud.

“Mae’r garfan yn gyffrous am y ffaith ein bod yn chwarae ein dwy gêm olaf yn Stadiwm Principality o flaen ein cefnogwyr angerddol.”

———————————————————————————————–

Tîm Cymru v Ffrainc – Stadiwm Principality – Sul y 10fed o Fawrth am 3pm
Yn Fyw ar S4C a’r BBC

15. Cameron Winnett (Caerdydd – 3 chap)
14. Josh Adams (Caerdydd – 57 cap)
13. Joe Roberts (Scarlets – 1 cap)
12. Owen Watkin (Gweilch – 37 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 17 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 10 cap)
9. Tomos Williams (Caerdydd – 56 chap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 28 cap)
2. Ryan Elias (Scarlets – 41 cap)
3. Keiron Assiratti (Caerdydd – 5 cap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 31 cap)
5. Adam Beard (Gweilch – 54 cap)
6. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 15 cap) Capten
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 16 chap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 46 chap)

Eilyddion

16. Elliot Dee (Dreigiau – 49 cap)
17. Corey Domachowski (Caerdydd – 9 cap)
18. Dillon Lewis (Harlequins – 55 cap)
19. Alex Mann (Caerdydd – 3 chap)
20. Mackenzie Martin (Caerdydd – 1 cap)
21. Gareth Davies (Scarlets – 75 cap)
22. Ioan Lloyd (Scarlets – 5 cap)
23. Mason Grady (Caerdydd – 9 cap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn Stadiwm Principality
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn Stadiwm Principality
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn Stadiwm Principality
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn Stadiwm Principality
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn Stadiwm Principality