Bydd cyfle i Joe Roberts greu argraff ar Warren Gatland wrth iddo wneud ei ail ymddangosiad dros ei wlad ym mhedwaredd rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yn erbyn Ffrainc ddydd Sul.
Bydd canolwr y Scarlets yn creu cyfuniad newydd yng nghanol cae gydag Owen Watkin wrth i Warren Gatland roi mwy o gyfrifoldeb i’r chwaraewyr ifanc yn y garfan.
Mae Roberts a Watkin yn cymryd lle George North a Nick Tompkins – dau aelod profiadol o’r garfan. Er eu siom, mae North a Tompkins wedi derbyn a deall penderfyniad y Prif Hyfforddwr i arbrofi gyda phartneriaeth newydd yng nghanol cae.
Dywedodd Mike Forshaw, Hyfforddwr Amddiffyn Cymru:“Mae hyn yn gyfle i ni gael cipolwg ar Joe Roberts, chwaraewr oedd yn anlwcus i beidio bod yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd. Ry’n ni wedi penderfynu rhoi Owen Watkin (37 cap) – sydd â digon o brofiad – gydag ef yn y canol.
“Ry’n ni’n credu mai hon yw’r gêm orau i weld sut mae’r bartneriaeth yma’n gweithio.
“Dyw George a Nick heb eu hanafu, ond ry’n ni wedi siarad gyda’r ddau a maen nhw’n deall y penderfyniad.
“Maen nhw wedi bod yn wych ac wedi bod yn rhoi cyngor gwerthfawr i’r ddau arall.”
Bydd Cymru yn anelu at ennill eu gêm gyntaf o’r Bencampwriaeth eleni ddydd Sul – a sicrhau eu buddugoliaeth gartref gyntaf yn y gystadleuaeth ers curo’r Alban yn 2022. Dyma fydd un o’r carfanau lleiaf profiadol y mae Warren Gatland wedi’i dewis erioed, ond mae’r tîm hyfforddi yn mynnu parhau rhoi cyfle i’r genhedlaeth nesaf.
Ychwanegodd Forhsaw, “Rwy’n deall fod y cefnogwyr eisiau ennill pob gêm – maen nhw’n Gymry balch. Dwi fel hyfforddwr eisiau yr un peth, dyna pam ry’n ni’n gweithio mor galed bob dydd.
“Ry’n ni’n ceisio adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd, ac mae’n dewisiadau yn ystod y Chwe Gwlad yn mynd i fod yn help mawr wrth i ni benderfynu pwy fydd yn teithio i Awstralia dros yr haf. Ond yn y tymor byr rwy’n siwr y gallwn ennill y ddwy gêm nesaf a gorffen y Bencampwriaeth ar nodyn uchel.”