Neidio i'r prif gynnwys
Pumed colled i Gymru wrth i George North ffarwelio â’r llwyfan rhyngwladol

16.03.24 - Nid y diweddglo perffaith i George North.

Pumed colled i Gymru wrth i George North ffarwelio â’r llwyfan rhyngwladol

Am ond yr eildro yn eu hanes – mae Cymru wedi colli eu pum gêm ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn dilyn eu colled o 24-21 yn erbyn Yr Eidal.

Rhannu:

Ddwy flynedd yn ôl fe enillodd yr Azzurri ar dir Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes gan ddod â rhediad o golli 36 o gemau Chwe Gwlad yn erbyn y pum gwlad arall yn olynol i ben. O ganlyniad i lwyddiant  yr Eidalwyr heddiw – efelychwyd y fuddugoliaeth honno o dan do Stadiwm Principality.

‘Roedd cefnogwyr Cymru’n gobeithio mai diwrnod George North oedd hwn i fod wrth i’r cawr o Ynys Môn ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi ymddangosiad rhif 121 yng nghrys ei wlad ond yn anffodus nid fel yna y bu pethau.

DFP – Leaderboard

Er bod Cymru wedi colli 11 o’u 12 gêm ddiwethaf yn y Bencampwriaeth cyn gêm heddiw –  llwyddodd carfan Warren Gatland i ennill yn gymharol gyfforddus o 29-17 yn y Stadio Olimpico’r llynedd a byddai’r ffaith mai’r golled hwyr honno ddwy flynedd yn ôl oedd yr unig dro yn eu 16 cyfarfyddiad diwethaf i’r Eidalwyr drechu’r Cymry, wedi rhoi gobaith i garfan ifanc Cymru hawlio buddugoliaeth arall yn eu herbyn.

Er i’r Cymry ymosod yn addawol yn ystod y 12 munud agoriadol – dwy gic gosb Paolo Garbisi oedd yr unig sgoriau i’w cofnodi. Ond wrth i chwarter cynta’r gêm dynnu at ei therfyn – fe gafodd gwaith caled a chreadigol tîm Gonzalo Quesada eu gwobrwyo wrth i Monty Ioane sgorio ei 13eg cais ar y llwyfan rhyngwladol – gan roi mantais o 11 pwynt i’w dîm.

Y Cymry fyddai’r cyntaf i gyfaddef bod eu chwarae’n fratiog yn ystod y cyfnod cyntaf – ac er iddynt fygwth yn ymosodol yn achlysurol – methiant fu eu hymdrechion i gofnodi unrhyw bwyntiau yn ystod y deugain munud agoriadol.

Hanner Amser Cymru 0 Yr Eidal 11

‘Roedd angen dechrau addawol i’r ail hanner ar y Crysau Cochion – ond gwrthymosodiad campus o’u hanner eu hunain gan Yr Eidal arweiniodd at gais cynta’r ail gyfnod wedi pum munud o chwarae. Ar achlysur ei 8fed cap fe groesodd y cefnwr Lorenzo Pani am ei drydydd cais yng nghrys ei wlad gan greu mynydd yn rhy uchel i’r Cymry ei ddringo.

Doedd Cymru heb fethu â sgorio pwynt mewn gêm ryngwladol ers y golled o 31-0 yn Awstralia yn 2007 ac o leiaf y llwyddwyd i osgoi ail-adrodd y gamp honno wedi 63 o funudau pan diriodd Elliot Dee. Yn dilyn trosiad Sam Costelow – ‘roedd y bwlch i lawr i 11 pwynt.

16.03.24 Elliot Dee yn croesi dros Gymru.

Does dim amheuaeth bod rheolaeth Yr Eidal o’r chwarae yn haeddu sicrhau’r fuddugoliaeth iddynt a bod Cymru wedi eu cosbi’n gyson yn y chwarae gosod. Yn ystod y 10 munud diwethaf ychwanegodd Garbisi a’r eilydd Martin Page-Relo driphwynt yr un o bellter – gan sicrhau ail fuddugoliaeth yr Azzurri yn olynol yn Stadiwm Principality.

Wrth i amser yr amen gyrraedd cafodd y Crysau Cochion gryn dipyn o gysur wrth i’r eilyddion Will Rowlands a Mason Grady hawlio ail a thrydydd cais y Cymry – ac fe barchusodd trosiadau Costelow’r sgorfwrdd ymhellach.

Er y golled bydd Harri O’Connor yn cofio’r diwrnod hwn am byth gan i’r prop ifanc gamu o’r fainc gyda 7 munud yn weddill, i gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf – gan ennill yr anrhydedd o fod yr 1202 fed dyn i wneud hynny.

Er y cafwyd fflachiadau o addewid gan Gymru yn ystod y Bencampwriaeth –  bydd y llyfrau hanes yn cofnodi pum colled a’r llwy bren cyntaf ers 2003. Nid y diweddglo yr oedd Cymru gyfan eisiau ei weld wrth ffarwelio a dweud diolch wrth George North am ei wasanaeth i’w wlad.

Sgôr Terfynol Cymru 21 Yr Eidal 24

Wedi’r chwilban olaf dywedodd  Dafydd Jenkins, Capten Cymru: “Ry’n ni’n hynod o siomedig. Mae’r bois wedi rhoi popeth i’r achos a dy’n ni heb gael y canlyniadau yr oedden ni’n gobeithio eu cael. Diolch i bobl Cymru am eich cefnogaeth unwaith eto. Cadwch y ffydd ynom ni fel carfan – ac fe wnawn ni bopeth i ad-dalu eich ffydd yn fuan.”

Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Mae colli eto a gorffen ar waelod y tabl yn brofiad poenus iawn i ni gyd. Fe drion ni’n rhy galed ar adegau heddiw ond alla’i ddim amau ymdrech fy ngharfan. Llongyfarchiadau i’r Eidal – ‘roedden nhw’n haeddu ennill heddiw. ‘Rwyf wedi cynnig fy ymddiswyddiad i’r Prifweithredwr – ond yn falch bod Abi Tierney eisiau i mi barhau yn fy swydd. ‘Rwy’n gyffrous wrth feddwl am addewid y garfan yma – a pha mor bell y gallwn fynd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Pumed colled i Gymru wrth i George North ffarwelio â’r llwyfan rhyngwladol
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Pumed colled i Gymru wrth i George North ffarwelio â’r llwyfan rhyngwladol
Pumed colled i Gymru wrth i George North ffarwelio â’r llwyfan rhyngwladol
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Pumed colled i Gymru wrth i George North ffarwelio â’r llwyfan rhyngwladol
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Pumed colled i Gymru wrth i George North ffarwelio â’r llwyfan rhyngwladol