Neidio i'r prif gynnwys
Penwythnos da i Ferched a Bechgyn o dan 18 Cymru

Penwythnos da i Ferched a Bechgyn o dan 18 Cymru

Cafwyd penwythnos llwyddiannus i dimau o dan 18 Merched a Bechgyn Cymru wrth i’r Merched ennill yn Yr Alban a’r Bechgyn ennill yn Iwerddon.

Rhannu:

Wrth baratoi ar gyfer Gŵyl y Chwe Gwlad sy’n dechrau yng Ngogledd Cymru mewn pythefnos – fe chwaraewyd tri chyfnod o 30 munud yr un yn erbyn yr Albanwyr a’r Crysau Cochion aeth â hi o 48-10 yng Nghaeredin.

Sgoriwyd ceisiau carfan Siwan Lillicrap gan Nia Fajeyisan (x2), Robyn Davies; Hannah Lane; Crystal James; Hanna Tudor; Shanelle Williams ac Alaw Pyrs ac fe giciodd Kacey Morkot a Hanna Marshall bedwar pwynt yr un.

DFP – Leaderboard

Dywedodd Siwan Lillicrap: “ Wedi i ni fynd ar ei hôl hi’n gynnar – fe gawson ni berfformiad penderfynol iawn gan ein merched ni oedd yn baratoad da iawn ar gyfer y gemau pwysig ymhen pythefnos.”

Cummings & Bowen

‘Roedd Ruben Cummings a Tom Bowen ymhlith sgorwyr Cymru

Wedi iddynt guro’r Alban yn Ystrad Mynach wythnos ynghynt, parhau wnaeth paratoadau cadarnhaol tîm Richie Pugh ar gyfer Gŵyl Chwe Gwlad y Bechgyn – wrth iddyn nhw guro’r Gwyddelod o 27-19 yn Nulyn.

Sgoriodd y Cymry ifanc dri chais – gan Ruben Cummings, Tom Bowen a Joseff Jones a chicio cywir Carwyn Jones a gôl adlam hwyr Stef Jac Jones gadarnhaodd y fuddugoliaeth.

Dywedodd Richie Pugh: “Mae’r Gwyddelod yn hynod o gorfforol ac felly ‘roedden ni’n gwybod bod ychydig mwy o her yn ein wynebu’r wythnos hon. ‘Ro’n i’n hynod o falch o’r modd y rheolon ni’r chwarae ac ‘roedd ein hamddiffyn yn gampus am gyfnodau hir iawn o’r gêm.

“Mae dal gwaith i’w wneud cyn i mi benderfynu pa 26 fydd yn y garfan ar gyfer yr Ŵyl (pan fydd Cymru’n herio Lloegr, Portiwgal a Ffrainc yn Parma rhwng y 30ain o Fawrth a’r 7fed o Ebrill) ac mae’r perfformiadau diweddar wedi rhoi digon i mi gnoi cil arno.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Penwythnos da i Ferched a Bechgyn o dan 18 Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Penwythnos da i Ferched a Bechgyn o dan 18 Cymru
Penwythnos da i Ferched a Bechgyn o dan 18 Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Penwythnos da i Ferched a Bechgyn o dan 18 Cymru
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Penwythnos da i Ferched a Bechgyn o dan 18 Cymru