Neidio i'r prif gynnwys
Mackenzie Martin

Mackenzie Martin

Macca yn gwneud ei farc

Mae llygaid unrhyw un o chwaraewyr o Dan 20 Cymru yn pefrio pan fyddwch yn dechrau siarad â nhw am ddatblygiad cyflym rhai o sêr ifanc Warren Gatland – fel Dafydd Jenkins, Alex Mann, Cam Winnett a Mackenzie Martin.

Mae’r pedwar chwaraewr hwnnw wedi dod drwy system ieuenctid Undeb Rygbi Cymru ac maen nhw i gyd wedi chwarae yn y Chwe Gwlad y tymor hwn. Jenkins yw’r ail gapten ieuengaf erioed i arwain Cymru ac mae ef, Mann, Winnett a Martin i gyd yn 22 oed neu’n iau.

Rhannu:

Cofiwch hefyd bod Christ Tshiunza, Louis Rees-Zammit a Joe Hawkins, i gyd ond yn 20 oed neu’n iau pan enillon nhw eu capiau cyntaf dros eu gwlad. Mae’n dod yn amlwg bod Cymru’n fodlon rhoi’r cyfle i ieuenctid brifio ar y llwyfan rhyngwladol.

Felly pwy fydd y chwaraewr nesaf i godi o’r tîm o dan 20 i’r garfan ryngwladol? Mae pob aelod o garfan Richard Whiffin bellach yn credu bod y drws hwnnw’n gil-agored iddyn nhw – os y gwnawn nhw berfformio’n dda yn y ddwy gêm sy’n weddill o’u hymgyrch.

DFP – Leaderboard

Chwaraeodd Winnett a Martin ym Mhencampwriaeth o Dan 20 Rygbi’r Byd yn Ne Affrica yr haf diwethaf ac maent wedi sefydlu eu hunain yn gyflym iawn ym mhrif garfan Warren Gatland. Maent yn cynnig ysbrydoliaeth gwirioneddol i’r garfan o Dan 20 – ac yn achos Martin, dim ond 20 oed oedd ef pan enillodd ei gap cyntaf yn Iwerddon gwta bythefnos yn ôl.

Mae ei glwb, Caerdydd, wrth eu bodd gyda’i gynnydd ac wedi cynnig ei gytundeb llawn cyntaf iddo ym mis Ionawr eleni. Mae Martin wedi chwarae 10 gwaith dros ei glwb y tymor hwn ac fe sicrhaodd ei berfformiadau yn rheng ôl tîm y Brifddinas – le i’r ‘crwt’ 6′ 5 modfedd o daldra, 18fed 4lb yng ngharfan Gatland ar gyfer y Chwe Gwlad.

Mae ei gymuned leol – cymuned Trelái yng Nghaerdydd wedi ymateb yn wych a balch i’w ddatblygiad diweddar. Mae rhai o fechgyn ifanc yr ardal hyd yn oed yn ceisio efelychu ei steil gwallt trawiadol!

Dywedodd Mackenzie Martin:”Mae pethau wedi digwydd mor sydyn i mi. Mae’r holl beth yn wallgo’. Dechreuais y tymor yn chwarae gyda thîm Caerdydd yn Uwch Gynghrair Indigo – ond fe roddodd Matt Sherratt y cyfle i mi ddangos fy noniau ar y lefel rhanbarthol.

“Fe wnes i fanteisio ar y cyfle hwnnw, a dyna’n union rydw i eisiau ei wneud gyda Chymru hefyd. Dydw i ddim wir wedi meddwl am y dyfodol pell, dwi ond yn poeni am y sesiwn ymarfer nesaf a beth ddaw yn sgîl hynny.

“Rwy’n gobeithio y gallaf osod esiampl dda i bobl ifanc fy ardal.Pan es i lawr i Drelái yr wythnos o’r blaen, hyd yn oed cyn i mi wneud fy ymddangosiad cyntaf dros Gymru, roedd yna ychydig o blant eisoes wedi copïo steil fy ngwallt.

“Roedd pob un ohonyn nhw’n edrych yn well na fi, felly roeddwn i braidd yn genfigennus.”

Mae Martin yn un o’r nifer fawr o wynebau newydd yng ngharfan Cymru ar hyn o bryd. Mae’n amlwg bod Warren Gatland yn gobeithio adeiladu ar gyfer y dyfodol – gan roi cyfle gwirioneddol i dalentau addawol iawn fel Mackenzie Martin. Mae gan Martin yr holl nodweddion corfforol angenrheidiol ac mae ei ymdrech a’i barodrwydd i wella trwy’r amser yn sicr o greu argraff bellach ar yr Hyfforddwr Cenedlaethol.

Ychwanegodd Mackenzie Martin: “Dwi’n gryf o gwmpas yr ymylon, ond dwi’n bendant yn gweithio’n galed hefyd. Wrth dyfu i fyny, cefais fy nysgu bod gweithio’n galed yn arwain at bethau da.

“Fy nhad yw’r gweithiwr caletaf i mi erioed ei weld ac mae ef a fy mrodyr wastad yn fy atgoffa bod bachgen o Drelái yn gallu llwyddo hefyd os yw ei agwedd yn iawn.”

Mackenzie Martin

Mackenzie Martin

Ym gwbl naturiol felly ‘roedd balchder aruthrol ar aelwyd y teulu Martin pan gamodd Mackenzie i faes Stadiwm Aviva yn Nulyn wedi 54 munud o chwarae bythefnos yn ôl:” Dod i’r maes i ennill fy nghap cyntaf oedd moment fwyaf fy mywyd hyd yn hyn. Mae’n wallgof mod i wedi chwarae dros Gymru ac nid yw hynny wedi suddo i mewn yn iawn eto.

“Dwi’n meddwl bod fy nheulu wedi gwirioni mwy na fi ar y pryd gan fy mod i’n byw yn y foment pan ddes i i’r maes yn lle Alex Mann. Dim ond gêm arall oedd hi i fi ar y pryd – os yw hynny’n gwneud synnwyr.”

Y freuddwyd nawr i Martin yw dechrau gêm dros Gymru. Mae dwy gêm gartref ar ôl yn ymgyrch y Crysau Cochion ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 pan fydd Cymru’n croesawu Ffrainc a’r Eidal i Stadiwm Principality.

“Pan fydd y tîm hyfforddi’n meddwl mod i’n barod i ddechrau – dwi’n siŵr y byddan nhw’n fy newis i. Ond tan hynny mi fydda i’n parhau i weithio’n galed ar bob agwedd o fy chwarae.

“Rwy’n croesi fy mysedd ac yn gweddïo y bydd fy nghyfle’n dod. Os bydd hynny’n digwydd – bydd yn golygu llawer iawn i mi – yn enwedig wrth ystyried bod 12 o’r garfan bresennol yn dod o Gaerdydd.

“Mae rhywbeth yn bendant yn digwydd yn y Brifddinas ar hyn o bryd. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn fechgyn ifanc o Gaerdydd sydd heb lawer o brofiad hyd yma.

“Rwy’n gwybod bod Cam (Winnett) a Manny (Alex Mann) wedi bod o gwmpas carfan tîm cyntaf Caerdydd am sbel, ond dwi ac Evan Lloyd yn dal yn eithaf di-brofiad yn y cyd-destun hwnnw.

“Mae’n bleser rhannu’r siwrnai anhygoel yma a’r holl gyffro gyda nhw.

“Rydw i wedi chwarae gyda Cam i bum tîm gwahanol ar bum lefel wahanol – Cymru dan 18 ac o dan 20, Clwb Uwch Gynghrair Caerdydd ac wedyn i Gaerdydd ar y lefel rhanbarthol – ac yna gyda Chymru wrth gwrs. Mae’n chwaraewr gwych – ac mae e wastad yr un fath – byth yn gadael i unrhywbeth ei boeni’n ormodol.”

Flwyddyn yn ôl doedd Mackenzie Martin ddim yn siwr os y byddai’n sicrhau cytundeb lled broffesiynol gyda Chlwb Caerdydd – ond fe sicrhaodd ei berfformiadau cadarn dros Gymru o dan 20 y tymor diwethaf – bod drysau eraill yn agor iddo hefyd.
“Doedd chwarae dros brif dîm Cymru ddim wir yn agos at fy meddwl ar y pryd ond ‘roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi chwarae’n rymus dros y tîm o dan 20. Fe berfformiais yn dda – a diolch i’r drefn fe gefais gytundeb gan Gaerdydd ac mae pethau wedi bod yn anhygoel ers hynny.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Macca yn gwneud ei farc
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Macca yn gwneud ei farc
Macca yn gwneud ei farc
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Macca yn gwneud ei farc
Rhino Rugby
Sportseen
Macca yn gwneud ei farc
Macca yn gwneud ei farc
Macca yn gwneud ei farc
Macca yn gwneud ei farc
Macca yn gwneud ei farc
Macca yn gwneud ei farc
Amber Energy
Opro
Macca yn gwneud ei farc