Neidio i'r prif gynnwys
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru

Gael Fickou yn dathlu sgorio un o bum cais Ffrainc.

Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru

Colli eu pedwaredd gêm o’r bron eleni oedd hanes Cymru heddiw wrth i Ffrainc ennill o 24-45 mewn gêm gyffrous o dan do Stadiwm Principality – y nifer mwyaf o bwyntiau iddynt eu sgorio yng Nghymru erioed.

Rhannu:

Mae Ffrainc bellach wedi ennill eu chwe gornest ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth yn erbyn y Crysau Cochion ac mae Cymru wedi colli eu pedair gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y trydydd tro yn eu hanes – wedi hynny i hynny ddigwydd yn ôl yn 2007 a 2003.

Cafodd y Cymry ergyd cyn y chwiban gyntaf wrth i Ryan Elias orfod ildio’i le o ganlyniad i dyndra yn ei goes. O’r herwydd dechreuodd Elliot Dee’r gêm ar achlysur ein 50fed cap a dyrchafwyd Evan Lloyd o Gaerdydd i’r fainc fel eilydd o fachwr.

DFP – Leaderboard

Roedd Max Boyce wedi diddanu’r dorf cyn y gic gyntaf – ac fe ysbrydolodd hynny’r tîm cartref ar ddechrau’r ornest gan i ddwy dacl nerthol gan Tommy Reffell o fewn y 40 eiliad cyntaf arwain at gic gosb lwyddiannus o bron i 40 llath gan Sam Costelow wedi munud yn unig o chwarae.

Yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn Yr Eidal bythefnos yn ôl, ‘roedd Fabien Galthié wedi gwneud 8 newid i’w dîm ac fe ddangosodd Les Bleus eu grym a’u trefn wedi iddyn nhw fynd ar ei hôl hi. Yn dilyn 20 cymal o chwarae yn y seithfed munud – llwyddodd Thomas Ramos i efelychu gôl gosb Costelow i wneud pethau’n gyfartal.

Dim ond dwy o’u 14 gêm ddiwethaf ‘roedd Cymru wedi eu hennill yn y Chwe Gwlad cyn yr ornest hon – ond wedi 9 munud o’r gêm – fe agorodd amddiffyn yr ymwelwyr fel y môr coch – a gwaith hawdd oedd gan Rio Dyer i garlamu o dan y pyst i wneud gwaith Costelow’n syml i droi’r 5 pwynt yn 7.

10.03.24 – Rio Dyer yn dathlu ei gais gyda’i gyd-chwaraewyr.

‘Roedd gan bac anferth Ffrainc fantais pwysau o 70kg dros eu gwrthwynebwyr –  ac wedi iddynt ennill cic gosb yn sgrym gynta’r ornest wedi 12 munud – mater syml oedd gan Ramos i ddyblu sgôr ei dîm.

Wrth i’r frwydr symud i’w hail chwarter aeth y Ffrancod ar y blaen am y tro cyntaf wrth i rediad cryf Gael Fickou sicrhau eu cais cyntaf o’r prynhawn. Dim ond am dri munud y parodd eu mantais – wrth i fylchiad nerthol Owen Watkin greu llwybr clir i Tomos Williams groesi am ail gais y Cymry. Unwaith eto – tasg hawdd oedd gan Costelow i ychwanegu’r ddeubwynt.

Roedd hon yn chwyrligwgan o hanner agoriadol gan i Les Bleus ail-gipio’r fantais wrth i’r cloc nesáu at hanner awr o chwarae. Ar achlysur dechrau ei gêm gyntaf dros ei wlad – tiriodd y mewnwr Nolan Le Garrec o glwb Racing 92 yng nghysgod y pyst.

Wedi pedwaredd cic lwyddiannus Ramos o’i bedwar cynnig, ‘roedd Ffrainc ar y blaen o 20-17 a dyn oedd sgôr olaf y cyfnod cyntaf.

Hanner Amser Cymru 20 Ffrainc 17

‘Roedd bechgyn Warren Gatland wedi sgorio 70% o’u pwyntiau yn eu tair gêm agoriadol yn ystod yr ail hanner – ac wedi dim ond dau funud wedi troi – fe hyrddiodd Joe Roberts ei hun dros y llinell gais i hawlio’i gais rhyngwladol cyntaf yn ei ail gêm dros ei wlad. Felly wedi tri ymosodiad yn nwy ar hugain Ffrainc, ‘roedd Cymru wedi sgorio’r uchafswm posib o 21 o bwyntiau.

Trosodd Costelow’n gampus o’r ystlys i roi mantais o 4 pwynt i Gymru a chodi ei gyfrif personol i 9 pwynt.

Trydydd pwynt ar ddeg Thomas Ramos o’r prynhawn wedi awr o chwarae oedd sgôr nesaf yr ornest. Er ildio’r pwyntiau hynny – doedd hynny ddim yn adlewyrchu bygythiad cyson a di-gyfaddawd yr ymwelwyr – na chwaith amddiffyn dewr y Crysau Cochion.

Efallai nad oedd hi’n syndod yng nghyd-destun y gêm agored a chyffrous hon i Ffrainc groesi am eu trydydd cais nhw o’r ornest gyda chwarter awr o’r gêm yn weddill. Yn dilyn cyfnod di-gyfaddawd o bwyso gan flaenwyr mawr y Ffrancod – llwyddodd yr eilydd o brop Georges-Henri Colombe i dirio – a llwyddodd Ramos i drosi’n ogystal.

Dyna oedd y pumed tro i’r fantais drosglwyddo o un tîm i’r llall – ac yn anffodus o safbwynt y cefnogwyr cartref – dyna’r tro diwethaf i hynny ddigwydd. Yn wir wedi i gic Gareth Davies o fôn y sgrym gael ei tharo i lawr bum munud yn ddiweddarach – eilydd arall, Romain Toafifenua fanteisiodd i’r eithaf i hawlio pwynt bonws i Ffrainc a sicrhau’r fuddugoliaeth i bob pwrpas.

Parhau wnaeth record gicio gampus Ramos gyda’r trosiad a chic gosb arall gyda chwe munud ar ôl – prynhawn cofiadwy ac 20 pwynt i’r maswr.

Wrth i’r cloc droi’n goch – fe groesodd Maxime Lecu am bumed cais ei wlad – olygodd bod Ffrainc wedi sgorio 25 o bwyntiau yn chwarter ola’r ornest. Am unwaith methiant fu trosiad Ramos.

Er gwaetha’r ffaith i Gymru ildio’r nifer mwyaf o bwyntiau gartref yn erbyn Ffrainc – bydd Evan Lloyd yn cofio’r diwrnod am byth gan iddo ennill ei gap cyntaf dros ei wlad yn ystod deng munud olaf yr ornest.

Pedwaredd colled ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 i Gymru felly – ond unwaith yn rhagor, ‘roedd elfennau addawol iawn i chwarae’r Cymry ifanc.

Bydd gan Warren Gatland a’i garfan un cyfle olaf i ennill gêm yn y Bencampwraieth eleni – pan fydd Yr Eidal yn dod i Gaerdydd ddydd Sadwrn nesaf.

Canlyniad Cymru 24 Ffrainc 45

Wedi’r chwiban olaf, dywedodd Dafydd Jenkins, Capten Cymru: “Dy’n ni ddim yn hapus gyda hynny. Aeth pethau ddim fel yr oedden ni’n gobeithio ac felly mae’r wythnos nesaf yn anferth.”

Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Fe ildion ni ormod o bwyntiau hawdd sy’n siomedig. Fe wnaethon ni greu gormod o broblemau i ni’n hunain wrth i ni fethu rheoli’n chwarae yn ystod chwarter olaf yr ornest. Mae’r wythnos nesaf yn anferth nawr – ond fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i baratoi ar gyfer her yr Eidalwyr.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru
Rhino Rugby
Sportseen
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru
Amber Energy
Opro
Ffrainc yn croesi am bum cais a phedwaredd colled i Gymru