Neidio i'r prif gynnwys
Darbi Gymreig i gloi ymgyrch yr Her Geltaidd

Hon fydd gêm broffesiynol olaf Sioned Harries.

Darbi Gymreig i gloi ymgyrch yr Her Geltaidd

Bydd Gwalia Lightning yn wynebu Brython Thunder ym Mharc y Scarlets ddydd Sul i gwblhau eu hymgyrchoedd cyntaf yn yr Her Geltaidd.

Rhannu:

Dyma fydd yr eildro i’r ddau dîm wynebu ei gilydd yn dilyn eu cyfarfyddiad cyntaf erioed ar Rodney Parade Ddydd Calan eleni – pan enillodd Gwalia o 20-5.

Bydd gwledd o rygbi i’w gael ar Barc y Scarlets ddydd Sul gan bydd y gêm ddarbi rhwng y ddau dîm Cymreig (2.45pm) yn dilyn gornest y Clovers yn erbyn Caeredin – fydd yn dechrau am 12:30pm.

DFP – Leaderboard

Cafodd Gwalia Lightning fuddugoliaeth swmpus o 43-5 yn erbyn Glasgow y penwythnos diwethaf, eu trydedd buddugoliaeth o’r gystadleuaeth.

Cafodd carfan Brython ganlyniad cadarnhaol yn eu gêm ddiwethaf hefyd gan iddynt sicrhau eu hail fuddugoliaeth o’r gystadleuaeth pan guron nhw Glasgow am yr eildro’r tymor yma. Llwyddodd tîm Ashley Beck i sicrhau pwynt bonws yn eu gêm yn Scotstoun, sy’n golygu eu bod yn 5ed yn y tabl ar hyn o bryd gydag 11 pwynt cyn gêm olaf eu hymgyrch.

Gorffen y tymor ar nodyn uchel fydd gobaith yr hyfforddwyr Catrina Nicholas-McLaughlin (Gwalia Lightning) ac Ashley Beck (Brython Thunder) – tra gorffen ei gyrfa’n gadarnhaol fydd gobaith Sioned Harries.

Hon fydd gêm gystadleuol olaf wythwr cydnerth a digyfaddawd Brython Thunder a Chymru wedi iddi gyhoeddi ei hymddeoliad o rygbi proffesiynol ddydd Iau. Sgoriodd Harries 28 cais dros Gymru yn ystod ei 78 ymddangosiad dros ei gwlad.

Dywedodd Sioned Harries: “Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle i gwblhau fy ngyrfa, gan chwarae fy ngêm olaf o rygbi ym Mharc y Scarlets – stadiwm fy rhanbarth fy hun – o flaen fy holl ffrindiau a theulu.”  

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Darbi Gymreig i gloi ymgyrch yr Her Geltaidd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Darbi Gymreig i gloi ymgyrch yr Her Geltaidd
Darbi Gymreig i gloi ymgyrch yr Her Geltaidd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Darbi Gymreig i gloi ymgyrch yr Her Geltaidd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Darbi Gymreig i gloi ymgyrch yr Her Geltaidd