Neidio i'r prif gynnwys
Harry Beddall

Harry Beddall will captain Wales U20 against Italy

Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas

Mae Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru, Richard Whiffin wedi enwi ei dîm i herio’r Eidalwyr ar Barc yr Arfau nos Wener. Hon fydd gêm olaf y bechgyn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni a bydd yr ornest yn cael ei dangos yn fyw ar S4C am 7.30pm. 

Rhannu:

Mae pedwar newid ymhlith yr olwyr yn ogystal â dau newid safle. Mae Huw Anderson yn symud o safle’r cefnwr i’r asgell fel bo Matty Young yn gallu gwisgo’r crys rhif 15. Yn dilyn ei gais cyntaf dros ei wlad yr wythnos ddiwethaf, bydd Macs Page yn dechrau fel canolwr cyntaf yn hytrach na gwisgo’r crys rhif 13 – fydd ar gefn Elijah Evans nos Wener.

Bydd Rhodri Lewis yn dechrau ei gêm gyntaf o’r Bencampwriaeth yn safle’r mewnwr ac felly ar y fainc fydd Ieuan Davies.

DFP – Leaderboard

Yn y pac – caiff y bachwr Evan Wood ei gyfle ar draul Harry Thomas – tra bo Jonny Green yn dychwelyd i’r ail-reng yn lle Osian Thomas fydd yn dechrau’r gêm ar y fainc.

Y blaenasgellwr Harry Beddall fydd yn arwain y tîm yn dilyn anaf Harri Ackerman yn erbyn y Ffrancod wythnos yn ôl.

Dywedodd Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru Richard Whiffin: “Wrth i ni ddod at ddiwedd ein hymgyrch eleni – mae ymdrech gorfforol rhai o’r bechgyn wedi dal i fyny gyda nhw.

“Wedi dweud hynny, mae hyn yn cynnig cyfle i ni edrych ar ambell wyneb newydd mewn awyrgych heriol yn llawn pwysau. Mae’n gyfle gwych i’r rheini godi eu llaw wrth i ni baratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.”

Mae Richard Whiffin, gymrodd yr awennau’n hyfforddwr cyn dechrau’r ymgyrch hon, wedi teimlo rhwystredigaeth yn ystod Pencampwriaeth eleni.

Ychwanegodd:“Ry’n ni wedi bod yn gryf wrth ystyried rhai elfennau ymosodol ac mae’n hamddiffyn wedi bod yn gryf ar y cyfan. Mae’n rhaid canmol hefyd agweddau o’n chwarae gosod a’n gwrthdrawiadau. Ond wedi dweud hynny – ‘roedd angen i’n perfformiadau hyd yma ddangos mwy o  gysondeb dros yr 80 munud yn gyfan gwbl.

“Dyw hynny heb ddigwydd i’r graddau y bydden ni wedi dymuno ei weld yn anffodus – ond mae gennym un cyfle arall i wella ar hynny yn erbyn Yr Eidal.”

Bydd yr Eidalwyr ifanc yn teithio i Barc yr Arfau’n llawn hyder yn dilyn eu buddugoliaeth gampus yn erbyn Yr Alban yr wythnos ddiwethaf ac mae Richard Whiffin yn ymwybodol o’r dasg sy’n wynebu ei dîm wrth iddyn nhw chwilio am eu hail fuddugoliaeth o Bencampwriaeth eleni: “Mae’r Eidalwyr yn fawr o ran maint  ac mae eu chwarae gosod wedi gwella’n sylweddol o’r herwydd.

“Fe fyddan nhw’n dod yma’n hyderus ond ry’n ni wedi bod yn gweithio ar agweddau penodol o’n gêm yr wythnos hon – ac ry’n ni’n targedu buddugoliaeth hefyd.

“Os y daw pethau at ei gilydd i ni – ‘rwy’n hyderus y gwnawn ni berfformio’n dda.”

Cymru o dan 20 v Yr Eidal o dan 20 – Parc yr Arfau, Gwener 15 Mawrth. Yn fyw ar S4C am 7.30pm
15 *Matty Young (Caerdydd)
14 Huw Anderson (Dreigiau)
13 *Elijah Evans (Caerdydd)
12 Macs Page (Scarlets)
11 Aidan Boschoff (Bryste)
10 Harri Wilde (Caerdydd)
9 Rhodri Lewis (Gweilch)
1 Josh Morse (Scarlets)
2 Evan Wood (Met Caerdydd)
3 Kian Hire (Gweilch)
4 Jonny Green (Harlequins)
5 Nick Thomas (Dreigiau)
6 Lucas de la Rua (Caerdydd)
7 Harry Beddall (Caerlŷr – Capt)
8 Morgan Morse (Gweilch)

Eilyddion
16 Harry Thomas (Scarlets)
17 Jordan Morris (Dreigiau)
18 Sam Scott (Canolbarth Lloegr)
19 *Gethin Cannon (Dreigiau)
20 Osian Thomas (Caerlŷr)
21 Ieuan Davies (Caerfaddon)
22 Elis Price (Scarlets)
23 *Kodi Stone (Caerdydd)

*Heb gap eto

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas
Rhino Rugby
Sportseen
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas
Amber Energy
Opro
Cyhoeddi tîm o dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal yn y Brifddinas