Neidio i'r prif gynnwys
Ioan Cunningham

Wales Women's head coach Ioan Cunningham

Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024

Mae Prif Hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham wedi enwi carfan o 37 o chwaraewyr ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024.

Rhannu:

Hannah Jones sydd wedi ei dewis yn gapten unwaith eto a bydd hi’n arwain carfan brofiadol ar y cyfan – ond carfan fydd hefyd yn cynnwys nifer o chwaraewyr ifanc sydd wedi dal sylw’r tîm hyfforddi wrth gynrychioli’r tîm o dan 20 a’r timau Cymreig yn yr Her Geltaidd hefyd.

Mae mwyafrif y garfan gynrychiolodd eu gwlad y tymor diwethaf wedi eu dewis unwaith yn rhagor – sy’n ddim syndod gan i’r garfan honno gyrraedd chwe safle ucha’r byd am y tro cyntaf yn eu hanes. Arweiniodd hynny at wahoddiad i gystadlu yn y WXV1 ar gyfer yr hanner dwsin tîm gorau.

DFP – Leaderboard

Mae Ioan Cunningham wedi enwi saith o chwaraewyr sydd eto i ennill cap yn ei garfan ddiweddaraf – Jenny Hesketh, Cath Richards, Molly Reardon, Jenni Scoble, Gwennan Hopkins, Mollie Wilkinson a Sian Jones.

Mae Hesketh, sy’n chwarae fel cefnwr i Fryste, yn gyn gapten ar dîm o dan 20 Lloegr – ond mae hi’n gymwys i gynrychioli Cymru gan bod ei mam yn Gymraes.

Enillodd y clo Shona Wakely ei chap cyntaf yn ôl yn 2010 – ac mae hi’n dychwelyd i’r garfan yn y gobaith y gall hi ychwanegu at y 45 o gapiau y mae hi eisoes wedi eu hennill.

Mae Natalia John a Gwen Crabb – sydd yn cynnig dau opsiwn profiadol arall yn yr ail reng hefyd – yn dychwelyd wedi iddynt fethu â theithio i Seland Newydd i gymryd rhan yn y WXV1 o ganlyniad i anafiadau.

Bydd ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yn dechrau wrth iddynt herio’r Alban ym Mharc yr Arfau, ddydd Sadwrn y 23ain o Fawrth am 4.45pm.

Dywedodd Ioan Cunningham Prif Hyfforddwr Cymru; “Dyma’r garfan anoddaf i mi ei dewis ers i’r gêm droi’n broffesiynol yn 2022 ac ‘roedd llawer iawn o drafod ymysg y tîm hyfforddi cyn i’r 37 o enwau gael eu dewis yn y pendraw.

“Y Bencampwriaeth eleni fydd yr un fwyaf heriol erioed – ond ry’n ni’n hynod o gyffrous i weld rhai o’r chwaraewyr newydd ac i osod safonau newydd i ni’n hunain hefyd.

“Roedd cefnogaeth cyhoedd Cymru’n hwb anferth i ni’r llynedd ac mae’r ffaith y byddwn yn chwarae’r Eidal yn Stadiwm Principality yng ngêm olaf ein hymgyrch – yn tynnu dŵr i’r dannedd. Wedi dweud hynny – mae heriau a sialensau mawr eraill yn ein wynebu cyn hynny wrth gwrs.

“Ry’n ni wedi dewis cymysgedd o brofiad ar y lefel yma a thalent ifanc sydd wedi creu argarff arnom yn ystod y gemau o dan 20 – ac yn enwedig yn ystod yr Her Geltaidd – sydd wedi cryfhau’n sylweddol eleni. ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut argraff fydd y saith chwaraewr sydd heb ennill cap eto yn eu creu ar y garfan.

“Mae’r saith ohonyn nhw wedi bod yn chwarae’n gyson yn ddiweddar ac yn haeddu eu cyfle. Mae Jenny Hesketh a Cath Richards wedi perfformio’n dda yn Uwch Gynghrair Lloegr dros eu clybiau, tra bo Molly Reardon, Jenni Scoble, Gwennan Hopkins, Mollie Wilkinson a Sian Jones wedi codi eu llaw yn yr Her Geltaidd.

“Fe chwaraeodd y rhan fwyaf o’r garfan yn y WXV1 mas yn Seland Newydd – ac ‘roedd y profiad o gymryd rhan mewn cystadleuaeth oedd yn cynnwys chwe thîm gorau’r byd, yn hynod o werthfawr i ni.

“Braf o beth yw croesawu Shona Wakely yn ôl i gorlan y garfan. Mae’r ffaith ei bod hi wedi ad-ennill ei lle – wedi cyfnod hir mas o’r garfan – yn brawf bod y drws wastad ar agor os yw perfformiadau chwaraewyr yn haeddu hynny.

“Mae’r holl chwaraewyr, staff a’r tîm hyfforddi yn edrych ymlaen yn fawr at ein hymgyrch yn y Chwe Gwlad.”

Carfan Cymru – Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024

Blaenwyr: Gwenllian Pyrs, Abbey Constable, Carys Phillips, Kelsey Jones, Molly Reardon, Sisilia Tuipulotu, Donna Rose, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Natalia John, Gwen Crabb, Bryonie King, Shona Wakley, Alisha Butchers, Georgia Evans, Alex Callender, Kate Williams, Bethan Lewis, Gwennan Hopkins

Olwyr: Jasmine Joyce, Nel Metcalfe, Jenny Hesketh, Courtney Keight, Kayleigh Powell, Cath Richards, Lisa Neumann, Amelia Tutt, Hannah Jones (capten), Kerin Lake, Hannah Bluck, Carys Cox, Lleucu George, Mollie Wilkinson, Niamh Terry, Keira Bevan, Sian Jones, Meg Davies.

Mae Pum Chwaraewr Datblygu – Hanna Marshall, Seren Singleton, Maisie Davies, Cadi-Lois Davies ac Alaw Pyrs – wedi eu gwahodd i ymarfer gyda’r brif garfan.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024
Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024
Rhino Rugby
Sportseen
Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024
Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024
Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024
Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024
Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024
Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024
Amber Energy
Opro
Cunningham yn enwi 37 o chwaraewyr ar gyfer carfan chwe gwlad 2024