Neidio i'r prif gynnwys
Donna Rose

Donna Rose starts for Wales against England

Chwe newid i herio’r Hen Elyn

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham wedi enwi ei dîm i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 ar faes Ashton Gate ym Mryste ddydd Sadwrn y 30ain o Fawrth. (4:45pm)

Rhannu:

Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain unwaith eto – ond mae Cunningham wedi gwneud chwe newid i’r tîm gollodd yn erbyn Yr Alban yn y gêm agoriadol ym Mharc yr Arfau y penwythnos diwethaf – a hynny o flaen torf o 6,676.

Mae Gwenllian Pyrs yn cadw’i lle yn y rheng flaen tra bo’r bachwr Carys Phillips a’r prop Donna Rose yn cael y cyfle i ddechrau’r gêm yr wythnos hon.

DFP – Leaderboard

Georgia Evans fydd cyd-glo Abbie Fleming ym Mryste, tra bo Kate Williams yn cael y cyfle i gwblhau’r drindod yn y rheng ôl gyda Bethan Lewis a’r îs-gapten Alex Callender.

Enillodd Sian Jones ei chap cyntaf o’r fainc y Sadwrn diwethaf – ac mae hi’n cael ei chyfle cyntaf i ddechrau gornest yng nghrys coch ei gwlad yr wythnos hon. Lleucu George fydd yn safle’r maswr unwaith yn rhagor.

Tra bo’r profiadol Jasmine Joyce yn cadw’i lle ar un asgell – mae Carys Cox yn cael y cyfle i ddechrau ar yr asgell arall. Jenny Hesketh fydd yn safle’r cefnwr unwaith eto a phartneriaeth gydnerth Kerin Lake a Hannah Jones fydd i’w gweld yn nghanol cae.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Ry’n ni wedi gwneud chwe newid i wynebu Lloegr ym Mryste ac ‘ry’n ni’n gwybod yn iawn beth yw maint y dasg sy’n ein wynebu. Mae gennym garfan gref erbyn hyn ac mae’r gêm ddydd Sadwrn yn cynnig y cyfle i’r chwaraewyr sydd wedi cael eu dewis, i ddangos beth y maen nhw’n gallu ei wneud.

“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein perfformiad ni. Fe gawson ni adolygiad gonest iawn o’n hymdrechion y Sadwrn diwethaf ac mae’r chwaraewyr eu hunain wedi cydnabod yr agweddau sydd angen eu cryfhau y penwythnos hwn.

“Mae Carys Phillips a Donna Rose yn ymwybodol o’r dasg sydd o’u blaenau – ac fe grëodd Georgia Evans gryn argraff pan ddaeth hi i’r maes yn erbyn Yr Alban. Mae Kate Williams wedi ymarfer yn dda ers i’r garfan ddod at ei gilydd ac mae hi’n haeddu ei chyfle i ddechrau y tro hwn hefyd.

“Mae Sian Jones yn aelod pwysig o’r garfan yma ac ‘ry’n ni’n credu bod ganddi ddyfodol disglair o’i blaen ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Carys Cox hefyd wedi creu argraff dda wrth ymarfer ac yn haeddu dechrau’r gêm hefyd.

“Mae gennym lawer o brofiad ar y fainc ac ‘ry’n ni’n disgwyl iddyn nhw greu argraff pan ddaw’r alwad. Lloegr yw’r tîm sy’n gosod y safonau yng nghamp y Menywod ac felly mae’n rhaid i ni fynd amdani yn erbyn y tîm enillodd y Gamp Lawn y llynedd.

“Mae llawer o’n tîm ni yn chwarae yng nghynghrair gorau’r byd gyda chlybiau yn Lloegr – ac felly ‘ry’n ni’n gwybod y gallwn gystadlu yn eu herbyn.”

Tîm Cymru i wynebu Lloegr

Jenny Hesketh, Jasmine Joyce, Hannah Jones (capten), Kerin Lake, Carys Cox, Lleucu George, Sian Jones; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Donna Rose, Abbie Fleming, Georgia Evans, Kate Williams, Alex Callender (îs-gapten), Bethan Lewis

Eilyddion: Kelsey Jones, Abby Constable, Sisilia Tuipulotu, Natalia John, Alisha Butchers, Keira Bevan, Kayleigh Powell, Nel Metcalfe

DIWEDD

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Chwe newid i herio’r Hen Elyn
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Chwe newid i herio’r Hen Elyn
Chwe newid i herio’r Hen Elyn
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Chwe newid i herio’r Hen Elyn
Rhino Rugby
Sportseen
Chwe newid i herio’r Hen Elyn
Chwe newid i herio’r Hen Elyn
Chwe newid i herio’r Hen Elyn
Chwe newid i herio’r Hen Elyn
Chwe newid i herio’r Hen Elyn
Chwe newid i herio’r Hen Elyn
Amber Energy
Opro
Chwe newid i herio’r Hen Elyn