Neidio i'r prif gynnwys
Blaenwyr Ffrainc yn profi’n rhy gryf i’r Cymry ifanc ar Barc yr Arfau

07.03.24 - Sgoriodd Ffrainc chwe chais ar Barc yr Arfau

Blaenwyr Ffrainc yn profi’n rhy gryf i’r Cymry ifanc ar Barc yr Arfau

Colli’n drwm fu hanes bechgyn o dan 20 Cymru o 45-12 yn erbyn Pencampwyr y Byd ym Mharc yr Arfau wrth i rym blaenwyr Ffrainc brofi’n drech â’r Crysau Cochion.

Rhannu:

‘Doedd Cymru heb chwarae gêm gartref yn y Bencampwriaeth ar faes Caerdydd ers mis Mawrth 2010 pan gurwyd Yr Eidal o 30-22 a daeth torf swmpus o 3,024 i gefnogi’r bechgyn yng ngwynt ac oerfel y Brifddinas.

Er mai Les Bleuets yw Pencampwyr presennol y byd ar y lefel yma – fe gollon nhw yn erbyn Yr Eidal am y tro cyntaf erioed bythefnos yn ôl o 20-23. ‘Roedden nhw’n benderfynol o daro’n ôl wedi’r siom yn Béziers – ac fe wnaethant hynny’n effeithiol ar draul bechgyn Richard Whiffin.

DFP – Leaderboard

Fe ddechreuodd y gêm yn hynod o gorfforol ac o fewn y tri munud cyntaf ‘roedd bachwr yr ymwelwyr Mathys Lotrian a chapten Cymru Harri Ackerman wedi gorfod gadael y maes gydag anafiadau. Aidan Boschoff ddaeth i’r canol yn lle ei gapten i ennill ei gap cyntaf.

Yr ymwelwyr fu’n rheoli’r meddiant yn ystod y 10 munud agoriadol ac yn dilyn bylchiad effeithiol Maxence Biasotto, gwaith hawdd oedd gan y cefnwr Xan Mosques i groesi am gais cynta’r gêm.

‘Roedd y dasg oedd yn wynebu Jean Cotarmanac’h gyda’r trosiad yn dipyn anoddach – ond llwyddodd y maswr yn gampus o’r ystlys.

‘Roedd patrwm y gêm yn amlwg i’r dorf sylweddol o dan lifoleuadau Parc yr Arfau – blaenwyr mawr y Ffrancod yn gorfodi’r Cymry i daclo’n ddi-ddiwedd – cyn manteisio ar y bylchau blinedig yn amddiffyn y tîm cartref.

‘Doedd Cymru heb guro’r Ffrancod ers eu llwyddiant o 14-11 yng nglaw trwm Bae Colwyn yn 2020. Y noson honno ‘roedd Mason Grady, Sam Costelow a Jac Morgan yn gwisgo’r Crys Coch.

Wedi chwarter y gêm gael ei chwarae – codwyd gobeithion y tîm cartref yn sylweddol wrth iddyn nhw fentro i hanner Ffrainc ar ymweliad prin. Wrth i’r Cymry ymosod – fe darodd asgellwr yr ymwelwyr Nathan Bollengier y bêl ymlaen yn fwriadol.

O fewn munud iddo weld y cerdyn melyn – fe ddangosodd blaenwyr y Cymry eu grym a’u hawch – a’r prop pen rhydd Josh Morse gododd o waelod y pentwr cyrff i hawlio cais cyntaf y Crysau Cochion.

Ymatebodd y Ffrancwyr yn ardderchog wrth ganolbwyntio ar eu goruchafiaeth corfforol – ac er gwaetha’r ffaith eu bod ddyn yn brin – hyrddiodd y blaen-asgellwr Joe Quere Karaba dros y gwyngalach am ail gais ei dîm gyda naw munud o’r cyfnod cyntaf ar ôl.

Roedd Cymru’n ei chael hi’n anodd ymdopi gyda grym wyth blaen yr ymwelwyr ac fe darodd Pencampwyr y Byd – a’r prop pen rhydd Zinedine Aouad yn benodol – ddwy ergyd seicolegol anferth cyn troi – wrth i Aouad groesi ddwy waith cyn yr egwyl.

Daeth ei ail gais gyda symudiad olaf un y cyfnod cyntaf –  ac ‘roedd y Ffrancod wedi pocedu eu pwynt bonws cyn yr hanner.

Parhau wnaeth record gicio berffaith Cotarmanac’h wrth iddo lwyddo gyda’i bedwerydd trosaid o’r noson– olygodd bod gan ei dîm fantais o 23 o bwyntiau wrth droi.

Sgôr ar yr Egwyl Cymru 5 Ffrainc 28

Dri munud wedi troi, ychwanegodd Cotarmanac’h driphwynt arall at gyfrif ei dîm er mwyn atal unrhyw obaith o wir adfywiad gan Gymru.

Methwyd 17 tacl gan y Cymry yn ystod yr hanner cyntaf – ac wrth i’r cloc gyrraedd awr o chwarae – manteisiodd yr eilydd Sialevailea Tolofua ar amddiffyn blinedig y Crysau Cochion i groesi am bumed cais ei wlad.

Y gêm hon oedd yr ornest gyntaf i Macs Page ei dechrau dros Gymru – a dau funud wedi i Tolofua dirio – dyna’n union wnaeth Page i hawlio’i gais cyntaf ar y lefel yma.

Troswyd y cais gan Will Plessis – ac yntau newydd ddod i’r maes ar achlysur ei gap cyntaf ef. Profodd Tom Golder yr un wefr hefyd gyda dim ond 10 munud o’r ornest ar ôl.

Dangoswyd cerdyn melyn i Harry Rees-Weldon eiliadau’n ddiweddarach a manteisiodd Ffrainc yn llawn ar y dyn ychwanegol wrth i’r canolwr o Clermont Mathys Belaubre hawlio chweched cais – a chais olaf – Les Bleuets o’r noson. Yn dilyn y golled o 43-8 yng Nhorc – ‘roedd bechgyn Richard Whiffin wedi ildio dros ddeugain pwynt am yr ail ornest o’r bron.

Wedi pedair gêm ym Mhencampwriaeth eleni felly – mae’r Cymry ifanc bellach wedi colli tair o’r rheiny. Bydd cyfle i orffen eu hymgyrch ar nodyn uchel wrth iddynt ddychwelyd i Barc yr Arfau nos Wener nesaf ar gyfer ymweliad yr Eidalwyr.

Canlyniad Cymru 12 Ffrainc 45

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Blaenwyr Ffrainc yn profi’n rhy gryf i’r Cymry ifanc ar Barc yr Arfau
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Blaenwyr Ffrainc yn profi’n rhy gryf i’r Cymry ifanc ar Barc yr Arfau
Blaenwyr Ffrainc yn profi’n rhy gryf i’r Cymry ifanc ar Barc yr Arfau
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Blaenwyr Ffrainc yn profi’n rhy gryf i’r Cymry ifanc ar Barc yr Arfau
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Blaenwyr Ffrainc yn profi’n rhy gryf i’r Cymry ifanc ar Barc yr Arfau