Neidio i'r prif gynnwys
Whiffin yn hyderus ond yn cydnabod her gwirioneddol y Gwyddelod

Sam Scott yn erbyn Lloegr

Whiffin yn hyderus ond yn cydnabod her gwirioneddol y Gwyddelod

Mae Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru, Richard Whiffin yn edrych i ‘dacluso a gwella ambell agwedd o chwarae’ cyn teithio i Iwerddon ar gyfer eu gêm nesaf.

Rhannu:

Er i’r Cymry golli o 28-7 yng Nghaerfaddon nos Wener – bu’n rhaid i’r Saeson aros tan y saith munud olaf i hawlio’u pwynt bonws ac felly ‘roedd nifer o agweddau cadarnhaol i’w cymryd o’r ornest o safbwynt Cymreig.

Does dim amheuaeth bod grym pac Lloegr wedi achosi cur pen i wyth blaen y Crysau Cochion (62% meddiant, 64% tiriogaeth) ond ‘roedd y ffaith i’r Cymry aros yn y gêm a chynnig gwir fygythiad wrth ymosod a gwrthymosod yn galondid i Whiffin a’i dîm hyfforddi.

DFP – Leaderboard

Bydd pac Iwerddon yn cynnig her hynod gorfforol arall yn Nghorc – ac fel y Saeson – yn dilyn eu buddugoliaeth ddramatig o 23-22 yn erbyn Yr Eidal – maen nhw wedi ennill eu dwy ornest agoriadol yn y Bencampwriaeth hefyd – gan gynnwys llwyddiant o 37-31 yn Ffrainc ar y penwythnos agoriadol.

‘Dyw record ddiweddar Cymru yn erbyn y Gwyddelod ddim yn dda gan mai’r fuddugoliaeth o 41-38 yn Nulyn yn 2018 oedd y tro diwethaf  iddynt ennill yn eu herbyn.

Ar y noson honno – sgoriwyd cyfanswm o 11 o geisiau. Hawliodd James Botham ddau o’r rheiny ac fe groesodd Tommy Reffell hefyd. Aeth 9 aelod o’r tîm o dan 20 hwnnw ymlaen i gynrychioli prif dîm Cymru.

Iwerddon sydd wedi ennill y pum gornest rhwng y ddwy wlad ers hynny ar y lefel o dan 20 – gan gynnwys buddugoliaeth swmpus o 53-5 ar ymweliad diwethaf y Cymry â Chorc.

Dywedodd Richard Whiffin;” Bydd hi’n hynod o anodd i ni yng Nghorc. Bydd y stadiwm o dan ei sang ac mae’r dorf wastad yn llafar iawn yn eu cefnogaeth i’r Gwyddelod.

“Wedi dweud hynny, mae’r gêm hon yn cynnig cyfle arall i ni dacluso a gwella ar ambell agwedd o’n chwarae fel y gallwn ddangos beth ry’n ni’n gallu ei wneud. Fe fyddwn ni’n teithio yno yn llawn hyder.

“Roedd y ffordd y gwnaethon ni amddiffyn yn erbyn pac anferth Lloegr yn addawol iawn – ac ‘roedden ni’n edrych yn beryglus iawn gyda’r bêl yn ein dwylo.

“Yn y pendraw, grym eu 8 blaen sicrhaodd y fuddugoliaeth iddyn nhw – ond ‘rwy’n hynod o falch o ymdrech arwrol ein bechgyn ni wrth amddiffyn ein llinell gais.

“Roeddwn yn arbennig o bles gyda thechneg ein hamddiffyn – taclo’n isel a chaled a rhoi pwysau mawr ar eu meddiant nhw.

“Wrth gwrs ‘mod i’n siomedig na lwyddon ni i gymryd ein holl gyfleoedd wrth ymosod – ond ‘rwy’n credu i ni eu hysgwyd ar fwy nac un achlysur yn ystod y gêm – yn enwedig o ystyried mai dim ond tua 30% o diriogaeth gawson ni yn ystod yr ornest.

“Mae gennym ddoniau ymosodol arbennig – ond mae angen mwy o feddiant arnom i allu gwneud y mwyaf o’r bygythiad sydd gennym.

“Roedd angerdd a chalon y bechgyn yn arbennig yn erbyn Lloegr. ‘Rwy’n hynod o falch o’u hymdrech ac mae’n amlwg beth mae gwisgo’r crys coch yn ei olygu iddyn nhw.

“Mae’r saib o bythefnos yn cynnig y cyfle i ni gryfhau ein gêm ni ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr her fydd yn ein wynebu yn Iwerddon.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Whiffin yn hyderus ond yn cydnabod her gwirioneddol y Gwyddelod
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Whiffin yn hyderus ond yn cydnabod her gwirioneddol y Gwyddelod
Whiffin yn hyderus ond yn cydnabod her gwirioneddol y Gwyddelod
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Whiffin yn hyderus ond yn cydnabod her gwirioneddol y Gwyddelod
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Whiffin yn hyderus ond yn cydnabod her gwirioneddol y Gwyddelod