Neidio i'r prif gynnwys
Whiffin yn arwain y Cymry ifanc at fuddugoliaeth yn ei gêm gyntaf

Prif Hyfforddwr Cymru o Dan 20 Richard Whiffin

Whiffin yn arwain y Cymry ifanc at fuddugoliaeth yn ei gêm gyntaf

Dechreuodd ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth o dan 20 y Chwe Gwlad yn gadarnhaol iawn yn Stadiwm CSM, Bae Colwyn wrth i gyffro creadigol y Crysau Cochion drechu bôn braich yr Alban o 37-29.

Rhannu:

Colli pob un o’u gornestau oedd hanes y Cymry ifanc yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf – gan gynnwys ildio’r fuddugoliaeth o bwynt yn unig i’r Albanwyr  yn Scotstoun – ond tro y cochion oedd hi i hawlio buddugoliaeth glos y tro hwn.

Yng ngêm gyntaf yr Hyfforddwr Richard Whiffin wrth y llyw fe gafodd ei dîm – oedd yn cynnwys 8  cap newydd – ddechrau heriol wrth i fachwr yr ymwelwyr Elliot Young, fanteisio’n llawn ar sgarmes symudol grymus ei dîm wedi 10 munud yn unig.

DFP – Leaderboard

Tarodd y Cymry’n ôl o fewn 3 munud gyda chic gosb syml Harri Wilde a chwta 4 munud wedyn ‘roedd y cefnwr Huw Anderson wedi cwblhau symudiad campus gan yr olwyr, i roi’r tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf. Tipyn o ffordd i ddathlu ei gap cyntaf.

Dangosodd yr Albanwyr eu goruchafiaeth ymysg y blaenwyr yn gyson yn ystod y chwarter agoriadol ac yn dilyn sgarmes symudol drefnus arall, ildiodd y Cymry ail gais – a’r fantais ar y sgorfwrdd o’r herwydd. Y blaenasgellwr Freddy Douglas fanteisiodd ar gydweithio ei gyd-flaenwyr ar yr achlysur hwn.

‘Roedd hon yn frwydr rhwng grym blaenwyr Yr Alban a menter olwyr y crysau cochion – ac wedi bron i hanner awr o chwarae, bylchodd y mewnwr Ieuan Davies yn wych gan greu cais i’w asgellwr Walker Price ar achlysur ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad.

Ddau funud yn unig yn ddiweddarch – fe grëodd Price gyfle i Morgan Morse a doedd amddiffyn yr ymwelwyr ddim yn ddigon cryf i atal amseriad perffaith rhediad Seren y Gêm.

Wedi trosiad Harri Wilde ‘roedd gan y Cymry fantais o 10 pwynt – ond Yr Alban gafodd y gair olaf yn yr hanner cyntaf wrth i Elliot Young gymryd mantais o amddiffyn llac y Cymry i dirio am yr eildro.

Yn dilyn trosiad Isaac Coates – dim ond triphwynt oedd yn gwahanu’r timau wrth droi.

Hanner Amser Cymru 20 Yr Alban 17.

Wedi i fechgyn Richard Whiffin fethu 17 tacl yn ystod y cyfnod cyntaf, ‘roedd angen gwelliant wrth amddiffyn yn ystod yr ail hanner – ond Yr Alban aeth yn ôl ar y blaen wedi dim ond 4 munud. Y canolwr Kerr Yule yn croesi o dan y pyst i ad-ennill y fantais i’w dîm am yr eildro – ac i hawlio pwynt bonws hefyd.

Wrth i’r cloc ddangos awr o chwarae – fe newidiodd y flaenoriaeth unwaith yn rhagor. Ar achlysur ei gêm gyntaf fel capten – fe arweiniodd Harri Ackerman o’r Dreigiau drwy esiampl ac fe sicrhaodd ei rediad cryf a deallus bwynt bonws i Gymru.

Yn anffodus doedd hi’n ddim syndod gweld sgarmes symudol Yr Alban yn esgor ar bumed cais yr ymwelwyr  4 munud yn ddiweddarach– a doedd hi’n ddim syndod chwaith gweld Freddy Douglas yn codi o waelod y pentwr cyrff unwaith yn rhagor.

‘Roedd digon o amser am hyd yn oed mwy o gyffro, gan i’r eilydd Alex O’Driscoll weld cerdyn melyn gyda 10 munud ar ôl a 60 eiliad yn unig wedi’r drosedd honno fe fanteisiodd y Cymry ar y dyn ychwanegol gan ddanfon Walker Price yn glir am ei ail gais o’r ornest.

Gyda throsiad yr eilydd lleol Harri Ford o Rygbi Gogledd Cymru – ‘roedd gan y crysau cochion driphwynt o fantais.

Cadarnhawyd buddugoliaeth y Cymry gyda 3 munud yn weddill – wrth i Rhodri Lewis dirio chweched cais ei dîm. Perfformiad ymosodol yn llawn cymeriad gan fechgyn Richard Whiffin felly cyn i’r garfan deithio i Gaerfaddon i herio Loegr y penwythnos nesaf.

Wedi’r chwiban olaf dywedodd Morgan Morse: “Roedd hi’n wych cael y fuddugoliaeth yn enwedig ar ôl canlyniadau’r flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn mynd i roi tamed bach o fomentwn i ni wrth i ni fynd i mewn i gêm yr wythnos nesaf ac felly ry’n ni’n hapus iawn.”

Canlyniad Cymru 37 Yr Alban 29

Gwe 9 Chwefror, Lloegr v Cymru, Y Rec, Caerfaddon, 7.15pm
Gwen 23 Chwefror, Iwerddon v Cymru, Parc Virgin Media, CG 7.15pm
Iau 7 Mawrth, Cymru v Ffrainc, Parc yr Arfau, Caerdydd, 7.45pm
Gwen 15 Mawrth, Cymru v Yr Eidal, Parc yr Arfau, Caerdydd 7.30pm

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Whiffin yn arwain y Cymry ifanc at fuddugoliaeth yn ei gêm gyntaf
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Whiffin yn arwain y Cymry ifanc at fuddugoliaeth yn ei gêm gyntaf
Whiffin yn arwain y Cymry ifanc at fuddugoliaeth yn ei gêm gyntaf
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Whiffin yn arwain y Cymry ifanc at fuddugoliaeth yn ei gêm gyntaf
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Whiffin yn arwain y Cymry ifanc at fuddugoliaeth yn ei gêm gyntaf