Neidio i'r prif gynnwys
Penwythnos tyngedfennol yn yr Her Geltaidd

Alex Callender o Brython Thunder a Bryonie King o Gwalia Lightning yw capteiniaid y timau Cymreig.

Penwythnos tyngedfennol yn yr Her Geltaidd

Gyda dim ond un gêm yn weddill yn nhymor arferol yr Her Geltaidd, mae hi wedi bod yn gystadleuaeth gymysg ond addawol a hynod bwysig i’r timau o Gymru, ac mae’r ddwy garfan yn edrych ymlaen at eu gemau cynghrair olaf.

Rhannu:

Er fod Brython Thunder wedi colli pob un o’u pedair gêm hyd yn hyn, mae’r perfformiadau wedi cryfhau yn ystod y gystadleuaeth. Y penwythnos hwn byddant yn croesawu Glasgow i Stadiwm CSM, a gan mai’r Albanwyr yw’r unig dîm sy’n is na thîm Ashley Beck yn y tabl, bydd carfan Brython yn hyderus o sicrhau buddugoliaeth. Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Brython Thunder chwarae ym Mae Colwyn.

Alex Callender fydd yn arwain Brython Thunder unwaith yn rhagor a bydd hi’n gobeithio gyrru capten Glasgow, Emma Turner, a’i merched yn ôl i’r Alban yn waglaw. Mae’r maswr Niamh Terry wedi ei hanafu ac felly Mollie Wilkinson fydd yn gwisgo’r crys rhif 10.

DFP – Leaderboard

Dywedodd Ashley Beck, Hyfforddwr Brython Thunder: “Mae pawb yn gwybod bod llawer o dalent addawol yng Ngogledd Cymru. Gobeithio bod y ffaith ein bod yn chwarae yno yn mynd i allu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched y gogledd.

“Mae’r Her Geltaidd wedi profi i fod yn dipyn o her hyd yma ond mae’r profiad o gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn hynod werthfawr.”

Wythnos wedi iddyn nhw drechu un o’r timau Cymreig yn Nulyn, bydd y Wolfhounds yn gobeithio curo Gwalia Lightning hefyd y penwythnos hwn. Mae’r dasg sy’n wynebu Catrina Nicholas-McLaughlin a’i charfan yn un sylweddol gan fod y Gwyddelod wedi ennill pob un o’u gemau hyd yn hyn, ac yn eistedd ar frig y tabl.

Bydd angen buddugoliaeth ar Gwalia er mwyn cadw’u gobeithion o hawlio’u lle yn haen uchaf y gemau ail gyfle yn fyw. Er mwyn i hynny ddigwydd bydd angen buddugoliaeth gyda phwynt bonws arnynt, a bydd rhaid iddynt obeithio y bydd y Clovers yn colli gan beidio â hawlio dau bwynt bonws yn y broses.

Brython Thunder v Glasgow,  Stadiwm CSM, Bae Colwyn, Sadwrn 14.30
Wolfhounds v Gwalia Lightning, Parc Energia, Dulyn, Sadwrn 14.30

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Penwythnos tyngedfennol yn yr Her Geltaidd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Penwythnos tyngedfennol yn yr Her Geltaidd
Penwythnos tyngedfennol yn yr Her Geltaidd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Penwythnos tyngedfennol yn yr Her Geltaidd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Penwythnos tyngedfennol yn yr Her Geltaidd