Neidio i'r prif gynnwys
Barry John

Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw

Mae Rygbi Cymru wedi colli un o’i sêr disgleiriaf erioed wrth i’r maswr chwedlonol Barry John farw yn 79 oed.

Rhannu:

‘Roedd y ‘Brenin’ Barry  yn allweddol yn llwyddiant Cymru a’r Llewod yn ystod y 60au a’r 70au ac mae’n cael ei ystyried gan lawer fel y maswr mwyaf naturiol ddawnus erioed.

Bathwyd y llysenw ‘Brenin’ wedi’r daith i Seland Newydd ym 1971 – ac ‘roedd hyd yn oed cefnogwyr pybyr y Crysau Duon yn credu ei fod yn haeddu’r clod hwnnw.

DFP – Leaderboard

Enillodd 25 o gapiau dros Gymru ac ef oedd yn un o wir sêr y daith fythgofiadwy honno i Seland Newydd. Flwyddyn yn ddiweddarach, ‘roedd wedi ymddeol o’r gamp yn llwyr – ac yntau ond yn 27 oed.

Wrth wisgo crys coch Cymru rhwng 1966 a 1972 enillodd Cymru Gamp Lawn, dwy Goron Driphlyg a phum Pencampwriaeth y Pum Gwlad.

Dechreuodd ei daith ym mhentref Cefneithin – yr un pentref â’i hyfforddwr ar daith lwyddiannus y Llewod i Seland Newydd – sef  Carwyn James wrth gwrs. Daeth o deulu rygbi – ac fe chwaraeodd gyda – ac yn erbyn ei frodyr Alan a Clive. ‘Roedd ei frawd arall, Delville hefyd yn chwarae’r gamp – ac fe briododd Madora ei chwaer â Derek Quinnell.

Gwnaeth y maswr ifanc ei ymddangosiad cyntaf dros Lanelli yn erbyn Moseley ym 1964 ac yntau’n dal yn ddisgybl 18 oed yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth. Aeth ymlaen i wisgo crys coch Cymru am y tro cyntaf ym 1966.

Ymunodd gyda chlwb Caerdydd wedi hynny ble ‘roedd Gareth Edwards yn fewnwr. Datblygodd y ddau bartneriaeth heb ei ail yn ystod y cyfnod hwnnw. Edwards oedd y mewnwr yn ystod 23 o 25 ymddangosiad Barry John dros Gymru – ac fe chwaraeodd y ddau gyda’i gilydd mewn pum Gêm Brawf dros y Llewod – unwaith yn Ne Affrica ym 1968 a’r holl brofion ar y daith i Seland Newydd ym 1971.

Enillodd y Gamp Lawn gyda Chymru ym 1971 – ac fe aeth cnewyllyn y tîm arbennig hwnnw ymlaen i greu asgwrn cefn carfan lwyddiannus y Llewod ym 1971. Dyna’r unig dro i’r Llewod ennill cyfres ar dir Seland Newydd. Barry John – y ‘Dewin’ a’r ‘Brenin’ oedd gwir seren y daith honno – ac ef sgoriodd 30 o 48 pwynt y Llewod yn y pedair gêm brawf. (Cyfanswm o 180 pwynt mewn 16 gêm gan gynnwys y gemau rhanbarthol).

 

Dywedodd Llywydd Undeb Rygbi Cymru – Terry Cobner oedd yn gyn Lew ei hun: “Roedd cael ei alw’n Frenin yn dipyn o glod o ystyried bob pob chwaraewr rheng ôl ar y daith yn ceisio rhwygo ei ben i ffwrdd!

“O fy safbwynt i – mae gyda’r maswr gorau chwaraeoedd y gêm erioed. ‘Roedd fel arian byw urddasol ar y maes. Mae ei golli – yn dilyn marwolaethau diweddar Brian Price a JPR Williams yn ergyd drom arall i Rygbi Cymru.

“Does dim amheuaeth bod Barry John yn un o wir arwyr y byd rygbi.”

Ychwanegodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood:”Mae Rygbi Cymru wedi colli arwr mawr arall yn anffodus. Yn dilyn marwolaethau diweddar Clive Rowlands, JPR Williams, David Watkins a Brian Price – mae colli cymeriad eiconig fel Barry yn anodd. Bydd ei waddol yn parhau.”

“Roedd partneriaeth Barry John gyda Gareth Edwards yn chwedlonol. Ysbrodolwyd cenhedlaeth arall o chwaraewyr a diddanwyd miliynau o gefnogwyr. Wrth iddyn nhw ymarfer gyda’i gilydd cyn ei gap cyntaf yn erbyn Seland Newydd ym 1967 – dywedodd Barry wrth Gareth: “Twla di hi – na’i ei dala hi!”

“Mae’n un o’r chwaraewyr gorau yn hanes ein gwlad – mewn unrhyw gamp – ac mae’n dal i gael ei ystyried fel maswr gorau’r byd ym mhedwar ban byd. Mae hynny’n dweud y cyfan.”

Yn ei hunangofiant – dywedodd Gerald Davies; “Roedd wastad bwrlwm a chyffro o gwmpas Barry – ond ‘roedd yn gallu cadw rheolaeth ar ei emosiynau a rheoli’r chwarae o dan bwysau. Byddai’r gemau’n dilyn y patrwm y byddai Barry’n gosod iddynt. Ei batrwm ef – a neb arall.”

Flwyddyn wedi iddo ddychwelyd o Seland Newydd – ‘roedd Barry John wedi ymddeol yn 27 oed gan ei fod yn teimlo o dan bwysau i berfformio. Gan iddo sgorio 90 pwynt yn ystod ei 25 ymddangosiad – ef oedd y prif sgoriwr pwyntiau yn hanes rygbi Cymru ar y pryd (90).

Yn union wedi i Gymru guro Lloegr yn Twickenham ym 1972 – ymddangosodd Eamonn Andrews o nunulle i’w frysio i stiwdio deledu ‘This is your Life’.

Ar achlusur arall – tra ‘roedd Barry John yn croesi’r stryd ar Heol y Frenhines, Caerdydd – daeth y traffig i stop – gan bo cymaint o gefnogwyr eisiau ysgwyd ei law.

Yn dilyn ei ymddeoliad – daeth yn golofnydd uchel ei barch gyda’r Daily Express ac yn ddiweddarach gyda’r Wales on Sunday.

Ym 1997 – hawliodd ei le yn Oriel Anfarwolion y Byd Rygbi Rhyngwladol – cyn i anrhydeddau tebyg gan Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru (1999) ac Oriel World Rugby (2015) ddilyn.

Mewn datganiad yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd deulu Barry John: “Bu farw Barry John yn dawel heddiw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng nghwmni cariadus ei wraig a’i bedwar o blant.

“Roedd yn Dadcu annwyl i’w 11 o wyrion ac yn frawd hoffus hefyd.”

Hoffai Undeb Rygbi Cymru estyn ein cydymdeimlad i’w deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Barry John (25 cap, 5 Prawf Llewod) Cap Rhif: 703 / Llewod #473. Ganed 06/01/1945 yng Nghefneithin. Bu farw 04/02/2024 yng Nghaerdydd.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw
Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw
Rhino Rugby
Sportseen
Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw
Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw
Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw
Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw
Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw
Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw
Amber Energy
Opro
Mae ‘Brenin’ Rygbi Cymru Barry John wedi marw